TGAU Cymraeg Ail-iaith – Y Ffordd Ymlaen (Rhan 5)

pablo (1)

Dyma Rhan 5 a’r post olaf yn y gyfres sy’n trafod y fanyleb newydd Cymraeg Ail-iaith. Isod yw’r camau dw i wedi edrych arnyn nhw.

  • Torri’r gofynion iaith i lawr i elfennau dysgu ar ffurf ffwythiannol
  • Cysidro’r meini prawf a dadansoddi
  • Sicrhau llawer o ddarllen a gwrando i fwydo’r iaith
  • Defnyddio’r iaith darged yn gyson
  • Cylchdroi unrhyw elfennau newydd wrth symud trwy’r elfennau iaith i gyd
  • Ystyried y dulliau addysgu – pwrpas defnyddio’r dull a chysidro effeithiolrwydd

Gwelir Rhan 1, Rhan 2, Rhan 3, Rhan 4 drwy clicio arnyn nhw.

Yn y post olaf yma, hoffwn i geisio edrych yn fanylach ar y tri pwynt olaf oherwydd y mae gorgyffwrdd mawr rhyngddynt. Hynny yw, mae’n amhosib trafod un heb y llall gan eu bod nhw i gyd yn rhan o ddulliau a methodoleg addysgu iaith. Y cwestiwn mawr bydd rhaid i ni ateb ydy sut mae gwneud hyn yn effeithiol o fewn yr amser cyfyngedig iawn sy gyda ni? Dw i wedi cyfeirio at nifer o bosibiliadau a chyfleoedd i gynyddu’r cyffyrddiad â’r iaith tu allan i’r stafell ddosbarth a chynnig cynyddu’ defnydd o’r sgiliau goddefol yn flaenorol ond heb ameheuaeth bydd rhaid i ni rywbryd ystyried yr allbwn er mwyn llwyddo yn yr arholiad.

Iaith Darged

Y gwir ydy bod y defnydd o iaith darged yn eliffant mawr yn yr ystafell i’r rhan fwyaf ohonom. Mae’n gwaith anodd i gadw ati wrth gynnal gwaith yn y dosbarth ac wrth gwrs mae’n arafu popeth i lawr oherwydd bod angen creu llawer o lle i’r prosesu digwydd. Yn amlwg rhaid i ni ystyried beth yn union y mae defnyddio iaith darged yn ei olygu. Dydy defnyddio iaith darged ddim yn golygu rhygni ymlaen ac ymlaen yn y Gymraeg a gobeithio bod rhywrai yn deall a gallu gweithredu. Dydy defnyddio’r iaith i gynnal y wers ar ben ei hun ddim yn ddigonol. Bydd defnydd tebyg yn wastraff amser, creu problemau disgyblaeth a datblygu agweddau negyddol ac mae digon o hyn yn barod yn gyffredinol ac mae’n bwysig i beidio gorlwytho meddwl y disgyblion yn ormodol i fod yn effeithiol caffael yr iaith dros amser.

Yr hyn y mae defnyddio iaith darged yn effeithiol yn ei olygu ydy cynllunio’n craf y defnydd o’r iaith a chynyddu’r cyfrwng addysgu i’r Gymraeg. Dydy hyn ddim yn gallu digwydd dros nos. Ar y llaw arall, dydy troi at y Saesneg bob tro y mae bach o ddiffyg dealltwriaeth ddim yn helpu chwaith ac mae rhywfaint o her yn dda ac yn fanteisiol. Mae yna llawer o ddulliau amrywiol gellir eu defnyddio i gefnogi’r cyfrwng addysgu dros amser. Dw i’n hyderus iawn bod rhaid i ni ddechrau’r broses yma o flwyddyn 7 gan ganolbwyntio a’r gorchmynion syml, cwestiynau i gael help neu ofyn am bethau a llawer o drafod yn y Gymraeg drwy holi cwestiynau tebyg am bopeth gan ail-gylchu yn gyson. Dros amser, fe ddaw’r disgyblion yn gyfarwydd gyda chlywed y gorchmynion a gweld ystymiau ac yn llwyddo i weithredu ar yr hyn dywed yr athro/awes heb gorfod troi at y Saesneg. Dull arall handi iawn  ydy paratoi cardiau neu arddangosfeydd ar y wal gyda’r iaith yma i gyfeirio ato ond heb gorfod defnyddio’r Saesneg – er bydd cyfieithiad ar y wal. Un o’r pethau angenrheidiol ydy newid arfer y disgyblion. Os ydyn nhw a ni’n arfer â siarad Saesneg yn y wers, dyna fydd yr arfer – default position cyfrwng y wers. Yn hyn o beth, rhaid sicrhau eu bod nhw’n derbyn digon cymorth trwy taflenni ar y bwrdd a iaith sy’n galluogi nhw i rhyngweithio yn y Gymraeg a mynnu eu bod nhw. Rhaid datblygu hyn dros amser wrth gwrs ond bydd yn hanfodol yn yr hir dymor i sicrhau bod y disgyblion yn gallu trafod yn ddigymell mewn ystod o sefyllfaoedd amywiol go iawn. Gellir darllen mwy am fy nhaith yn defnyddio’r iaith darged yma ac yma.

Cylchdroi a dulliau

Dw i wedi bachu syniad newydd yn ddiweddar oherwydd dyn ni’n cwympo rhwng dwy stôl. Dydyn ni ddim mewn sefyllfa lle gallem wir ddatblygu dulliau trochi llawn er dyma ydy’r ffordd i greu siaradwyr. Dyn ni ddim cweit yn ITM chwaith oherwydd bod y disgyblion yn derbyn addysg yn y Gymraeg (at lefelau gwahanol) drwy’r cynradd.  Dydyn ni ddim yn bwnc craidd felly i fod yn gwbl onest, does dim digon o amser cyswllt na statws gyda ni i fod yn effeithiol iawn; ac mae rhai athrawon a chyn lleied o amser cyswllt mewn rhai ysgolion o ddifri. Felly o ran dulliau dw i nawr defnyddio’r term Trochi Optimwm. Y syniad ydy bod modd, dan ein hamgylchaidau, i ddefnyddio technegau trochi ond addasu arnyn nhw i ymateb i’n sefyllfa presennol.

Mae’r defnydd o iaith darged yn bendant yn cwympo i mewn i Drochi Optimwm. Yn ogystal â hyn y mae llawer o ddarllen a gwrando cyson. Gellir hefyd ystyried addysgu integredig lle ein bod ni’n dysgu neu drafod pethau tu allan i’r pwnc iaith yn yr iaith Gymraeg. Ym mhob achos yma y bwriad ydy creu awyrgylch real i ddefnyddio’r iaith mewn sefyllfaoedd go iawn.  Rhaid i ni wir dechrau ystyried datblygu ar Drochi Optimwm yn y ffordd dyn ni’n addysgu os ydyn ni’n mynd i fod yn llwyddiannus erbyn cyrraedd Blwyddyn 10 ac 11.

Yn olaf, dof i at y pwynt mwya pwysig a mwya caled i weithredu. Sut yn y byd gallen ni sicrhau digon o gylchdroi gyda’r elfennau iaith o flwyddyn 7 i 11 a sicrhau bod y disgyblion yn cadw ar gof yr hyn maen nhw wedi dysgu. Heb os, dw i wedi gadael llawer o ddisgyblion i lawr ar adegau oherwydd fy mod i’n cymryd dysgu blaenorol yn ganiataol. Rhag fy nghywilydd am hyn achos dylwn i wybod yn well! Ni ellir cyflwyno rhywbeth unwaith a disgwyl bydd yno byth beunydd ar ôl hynny.  Hefyd, dydy adolygu pethau o flwyddyn 7 ym mlwyddyn 10 ddim yn effeithiol chwaith. Y tric ydy sicrhau cyfleoedd i ail-ddefnyddio ac ail-gylchu’r hyn a dysgwyd eisioes yn gyson a gall hyn ddim digwydd heb mapio craff, asesu anffurfiol cyson a deunyddiau sy’n cynyddu o ran cymhlethdod dros amser ond yn dal i gynnwys y pethau sylfaenol. Yn ymchwil Krashen, mae e’n sôn am gadw’r iaith yn ddealladwy hyd at 90% a wedyn cynnwys rhyw 10% yn iaith newydd wrth ddatblygu deunyddiau; gelwir hyn yn i+1.  Dyma gyngor da iawn ac wrth gwrs rhaid sicrhau ein bod ni’n ail-gylchu yn gyson neu bydd y disgyblion yn anghofio. Dw i’n cynnig ein bod ni’n gorfod canolbwyntio ar y gallu i drafod pethau amrywiol, mynegi barn, cytuno ac anghytuno a chynnig rhesymau a thystiolaeth i gefnogi ein barn wrth rhyngweithio ag eraill.

Y gwir ydy bod rhaid i ni ganolbwyntio ar iaith mwya aml ei ddefnydd gan gynnwys patrymau iaith, berfau, ansoddeiriau, cysyllteiriau, enwau a geirfa amryiol fel amser, arian, rhifau ac ati. Wrth ganolbwyntio yn uniongyrchol ar yr rhain a chynnyddu’r maint dros amser, byddwn yn sicrhau bod yr arfau iaith gan y disgyblion i ymateb i sefyllfaoedd gwahanol a phynciau gwahanol yn ddigymell.  Mae rhai ohonom yn gweithio’n galed ar ddatblygu’r iaith aml ei defnydd ar hyn o bryd yn barod am newid i’r dull yma yn y dyfodol agos ac mae’n gyffrous iawn. Oherwydd y prinder amser, bydd rhaid i ni defnyddio dulliau uniongyrchol i adeiladu at y dulliau trochi ond heb os dyma ydy’r unig ffordd i fynd gyda’r arholiad newydd yma.

I grynhoi’r gyfres, ymgais i gyfeirio fy hunan at y TGAU newydd sydd yma. Yn fuan iawn gobeithio y bydd mwy o wybodaeth gennym gan CBAC a deunyddiau enghreifftiol fydd o bosib yn ateb rhai o’r cwestiynau dw i wedi codi. Ar y llaw arall, mae’r gyfres wedi fy helpu ystyried yn fanwl sut i fynd ati ar ôl y Pasg i baratoi blwyddyn 9 at y dasg heriol sydd o’n blaenau. Pob lwc i bawb ar y gwaith!

Diolch am ddarllen a chroeso i chi gadael sylwad os oes pwynt gennych am y gyfres neu bwynt hoffech drafod.

#dwincroesirllinellhud

Why I teach the way I teach. The Skill-Theory principles which underpin my teaching approach

Addysgu iaith – Nid sut ond pam! Bendigedig @Gianfrancoconti. I needed that.

https://gianfrancoconti.wordpress.com/2016/08/01/the-skill-theory-principles-which-underpin-my-teaching-approach/

The Language Gym

Fig. 1 – The most influential Skill-Theory account of language acquisition (Anderson, 1983)

1. Introduction

In a previous post, I argued that every language teacher, both novice and expert, should ask themselves the question “How do I believe that languages are learnt?” as a starting point for a deep and productive reflection on their own teaching practice.

The answer to that question is key, as without a clear and solid set of pedagogic principles our curriculum planning and design and every other decision that affects teaching and learning in our classroom will be random and haphazard or based on ‘hunches’. Imagine choosing a course-book, creating assessment procedures and materials,  deciding to integrate Information Technology or Generic-skill learning in our teaching without having formed an opinion as to how languages are best taught and learnt? Would you believe me if I told you that I have seen this done…

View original post 4,238 yn rhagor o eiriau

TGAU Cymraeg Ail-iaith – Y Ffordd Ymlaen (Rhan 4)

 

pablo (1)

Dyma Rhan 4 mewn cyfres sy’n trafod y fanyleb newydd. Gwelir Rhan 1, Rhan 2, Rhan 3

  1. Torri’r gofynion iaith i lawr i elfennau dysgu ar ffurf ffwythiannol
  2. Cysidro’r meini prawf a dadansoddi
  3. Sicrhau llawer o ddarllen a gwrando i fwydo’r iaith
  4. Defnyddio’r iaith darged yn gyson
  5. Cylchdroi unrhyw elfennau newydd wrth symud trwy’r elfennau iaith i gyd
  6. Ystyried y dulliau addysgu – pwrpas defnyddio’r dull a chysidro effeithiolrwydd

 

Yn y rhan yma o’r gyfres, hoffwn i geisio daflu oleuni ar y trydydd pwynt uchod, sef sut i fynd ati i gynllunio i sicrhau y bydd digon o fewnbwn dealladwy er mwyn galluogi’r disgyblion i fedru siarad yn ddigymell; er dydyn ni dal ddim yn hollol sicr ar hyn o bryd beth fydd hyn yn ei olygu!

Heb os nac oni bai, mae’r ymchwil i gyd yn y sector Second Language Acquisition ac arbenigwyr yn y maes yn eitha clir bod angen llawer o fewnbwn cyn disgwyl allbwn hyderus ddigymell. Fel popeth arall mae hyn yn golygu taith ieithyddol i’r disgybl achos creu siaradwyr ydy’r nôd.

Yn benodol bydd angen llawer mwy o bwyslais ar sgiliau gwrando, gwylio a darllen fel y prif ddulliau i sicrhau digon o fewnbwn drwy’r cwrs ac yn wir o flwyddyn 7 ymlaen. Y broblem byddwn yn gwynebu eto ydy sut i sicrhau cysondeb ac amlder yn ymwneud â’r iaith. Wrth gwrs, bydd hyn yn dibynnu ar sefyllfa eich ysgol ond ni fydd 3-4 awr dros bythefnos yn ddigonol er mwyn sicrhau digon o fewnbwn ac o’r herwydd rhaid wrth rheswn cysidro dulliau amgen tu hwnt i’r dosbarth i gael y mewnbwn angenrheidiol. I ategu at hyn, bydd angen mwy o gyfleoedd yn y dosbarth i ddatblygu’r sgiliau dan sylw.

Yn naturiol, mae hyn yn ein harwain at gysidro dulliau amrywiol fel TPR, TPRS, CI ac adnoddau technoleg. Bydd angen creu deunyddiau ein hunain fel arfer ond rhaid mynd heibio’r llyfr gosod a thaflenni gwaith i fod yn effeithiol. Rhaid creu adnoddau at bwrpas penodol i fodeli’r elfennau iaith disgwyliadwy mewn ffordd adeiladol ffwythiannol fel dw i wedi dadlau yn flaenorol.

Dyma ambell i syniad er mwyn datblygu’r agweddau yma:

  • Straeon

Mae darllen yn sgil hanfodol nid yn unig fel sgil ond fel dull i gael fewnbwn dealladwy. Wrth ddarllen mewn ffyrdd gwahanol a gweithio o gwmpas y deunydd drwy holi straeon dosbarth a gweithgareddau’n deillio o’r darllen, ceir llawer o ail-adrodd patrymau targed. Os gellir ychwanegu lluniau neu eirfa gysgodol i gefnogi’r deall a lleihau’r prosesu meddyliol bydd y gweithgarwch yn fwy effeithiol eto. Mae hyn yn golygu ysgrifennu straeon byrion gyda ffocws ieithyddol penodol – sef patrymau hoffen ni i’r disgyblion gynhyrchu yn y pen draw. Mae darllen fel anadlu mewn ac allbwn yn anadlu allan. Mae rhaid anadlu’n ddwfn i gael chydig o allbwn ddigymell.  Ar ôl dod yn gyfarwydd â’r patrymau gellir symud wedyn i holi personol lle bydd y disgyblion yn defnyddio’r patrymau ond yn disodli elfennau sy’n rhannol digymell os bosib! Fy marn personol ydy bod angen cynllunio unedau o waith o gwmpas straeon penodol gyda llawer o ymarferion yn deillio o’r straeon lle mae targed ieithyddol pwrpasol a bydd cyfres o straeon wedyn yn adeiladu ar ben ei gilydd ac arwain y daith.

  • Gwrando

Yn ôl yr ymchwil, rhaid clywed yr elfen iaith llawer a mewn cyd-destunau gwahanol cyn cynhyrchu’n ddigymell. Ond dyma broblem achos nid clywed ond gwrando yn astud ar y elfen iaith a deall y defnydd mewn cyd-destunau gwahanol ydy’r nôd. Dyma lle mae’r ail-adrodd yn bwysig iawn achos fel y straeon, rhaid i’r deunydd gwrando fod yn addas i’r elfen iaith dan sylw ac yn ail-adroddus iawn. Os defnyddir deunydd sy’n llawn iaith anghyfarwydd, ni fydd y gwrando yn effeithiol ond yn hytrach yn ormod iddyn nhw brosesu. Eto, bydd rhaid creu deunyddiau – straeon sain neu fideos bach.  Mae defnyddio dull Movie Talk yn gallu fod yn effeithiol iawn yma hefyd ond cyn lleied ydyn ni wir yn gwybod am y dull. Bydd rhaid i ni felly creu deunyddiau sy’n targedu’r elfennau iaith yn yr un modd â’r straeon.

  • Technoleg

Er mwyn datrys peth o’r broblem gyda chyswllt â’r iaith tu hwnt i’r dosbarth, mae nifer o gyfleoedd gyda ni eisioes ar ffurf apiau Duolingo, Memrise a Say Something in Welsh. Os oes Google Classroom gennych, mae llawer o botensial i greu ymarferion i wneud fel gwaith cartref. Ychwanegir at hyn pethau fel Show My Homework, Quizizz, EdPuzzle a Google Forms ac mae gennych llawer o gyfleoedd i ddatblygu ymarferion bach diddorol sy’n parhau i ail-adrodd yr elfennau iaith rhwng gwersi. Yn bersonol, dw i’n hyderus bod cwisau bach aml-ddewis yn dull arbennig o dda i barhau’r mewnbwn rhwng gwersi. Hawdd i greu, adborth yn syth i’r disgybl, dim gorfod marco a llawer o ail-adrodd elfennau iaith penodol. Dros amser, mae’n arf pwerus iawn.

I ddod i gasgliad, mae’n rhaid i ni gynllunio llawer mwy o gyfleoedd i sicrhau mewnbwn ieithyddol safonol mewn ffyrdd diddorol afaelgar. Datblygu sgiliau gwrando, gwylio a darllen wrth ganolbwyntio ar elfennau ieithyddol penodol ar hyd y daith ac wedyn ail-adrodd rhain yn gyson oddi-ar hynny. Plethu’r holl bethau yma at ei gilydd a chylchdroi yn gyson. Heb os nac oni bai heb ddigon o fewnbwn does dim gobaith!

#dwincroesirllinellhud

TGAU Cymraeg Ail-iaith – Y Ffordd Ymlaen (Rhan 3)

 

pablo (1)

 

Dyma Rhan 3 mewn cyfres sy’n trafod y fanyleb newydd. Yn Rhan 1 a 2 (yma ac yma), dw i wedi gosod y sylfaen am y gyfres, sef:

  1. Torri’r gofynion iaith i lawr i elfennau dysgu ar ffurf ffwythiannol
  2. Cysidro’r meini prawf a dadansoddi
  3. Sicrhau llawer o ddarllen a gwrando i fwydo’r iaith
  4. Defnyddio’r iaith darged yn gyson
  5. Cylchdroi unrhyw elfennau newydd wrth symud trwy’r elfennau iaith i gyd
  6. Ystyried y dulliau addysgu – pwrpas defnyddio’r dull a chysidro effeithiolrwydd

Diben y post yma ydy tynnu sylw at y meini prawf a chysidro sut y bydd yn effeithio ar fframwaith cynllunio a’r sgiliau sy’n hanfodol i’w magu er mwyn llwyddo yn y cymhwyster.

Gwelir isod:

blog-3-1

Gan fod yr elfennau AO3 ac A04 yn cael eu hasesu drwy arholiad yn debyg i nawr, ni fyddaf yn ystyried rhain yma ond yn hytrach baswn i’n hoffi canolbwyntio ar yr elfennau A01 ac A02 gan bod nhw’n arwain at y tasgau digymell a’r teimladau o ofid sy gan llawer o athrawon ar hyn o bryd.

Yn ogystal â’r trosolwg yma, mae CBAC wedi darparu meini prawf yn ôl y marciau y penodir am y graddau a’r sgiliau gwahanol am y tasgau. Gwelir isod:

blog-3-2

Wrth ddadansoddi’r uchod, mae 5 llinyn i asesu’r gwrando yn UNED 1.

  • Llinyn 1: Deall gwahanol mathau o iaith lafar gan mwy nag un o siaradwyr (hy o’r clip).
  • Llinyn 2: Ymateb i wahanol mathau o iaith lafar gan mwy nag un o siaradwyr (hy y clip).
  • Llinyn 3: Gwrando ac ymateb i gyfraniadau gan eraill. (hy y drafodaeth)
  • Llinyn 4: Deall prif negeseuon a manylion sbesiffig sy ar lafar (o’r clipiau ??)
  • Llinyn 5: Ateb cwestiynau yn ymwneud â’r clipiau.

Wedyn cawn yr agwedd mwya anodd i’w ddiffinio a deall, sef sut i wahaniaethu’r perfformiad o fewn y llinyn:

Marc LL1 LL2 LL3 LL4 LL5
25 – 30 Deall y clip yn llawn Ymateb cynhwysfawr Gwrando yn astud ac ymateb yn aeddfed ac yn glir i eraill Deall yn llawn y prif neges  a manylion speciffig Ateb i bob cwestiwn yn seiliedig ar y clip mewn modd hyderus
19 – 24 Deall peth manylion o’r clip Ymateb eitha cynhwysfawr Gwrando yn astud ac ymateb yn glir i eraill Deall yn eitha llawn y prif neges a manylion sbesiffig Ateb i’r mwyafrif o gwestiynnau yn seiliedig ar y clip mewn modd hyderus
13 – 18 Deall y clip Ymateb syml Gwrando yn astud ac ymateb yn eitha glir i eraill Deall y prif neges a manylion sbesifig Ateb i’r mwyafrif o gwestiynnau yn seiliedig ar y clip yn hyderus
7 – 12 Deall 2 beth o’r clip Ymateb syml iawn Gwrando ar eraill ac ymateb yn syml Deall y mwyafrif o’r prif neges a’r mwyafrif o’r manylion sbesiffig Ateb mwy nag un cwestiwn am y clip ac ymateb mewn modd eitha hyderus
1-6 Deall dim llawer o’r clip Ymdrech i ymateb Gwrando ar eraill a gwneud ymdrech i  ymateb Deall ychydig o’r prif neges ac ychydig o’r manylion sbesiffig Ateb un cwestiwn am y clip
0 Dim ymateb

Yn amlwg, nid peth hawdd yw dadansoddi rhwng y marciau o fewn rhai o’r llinynnau oherwydd mae’n agored i barn personol wrth gwrs ond pan gawn y deunyddiau enghreifftiol, dw i’n gobeithio y bydd enghreifftiau addas er mwyn deall yn well beth yw’r gwahaniaeth rhwng y geirio lletchwith y cawn i asesu perfformiad ein disgyblion.

Y gwir ydy mae’r meini prawf AO2 wedi ei hadeiladu yn yr un modd ac er byddaf yn mynd ati i ddadansoddi rhain yn fanwl hefyd, byddaf yn aros nes bod y fanyleb yn derfynol rhag ofn bod mwy o newidiadau. Dyma’r tablau arall am y llafar a’r gwrando:

blog-3-3blog-3-4blog-3-5

Yn anffodus, mae’r meini prawf yn anodd i’w drin yn fy marn personol ond wrth geisio fod yn bositif a chynnal trafodaeth am y ffordd ymlaen, dw i wir yn credu wrth gynllunio y peth pwysica ydy dod i afael â’r llinynnau achos y rhain sy’n ein harwain at y sgiliau sy angen eu magu yn y dosbarth.

AO1 AO2
  • deall gwahanol mathau o iaith lafar
  • ymateb i wahanol mathau o iaith lafar
  • gwrando ar, deall ac ymateb i gyfraniadau eraill
  • deall prif negeseuon a manylion sbesiffig o’r hyn a welir/glywir
  • ateb cwestiynau
  • cyfathrebu a chyd-weithio gyda eraill yn ddigymell
  • mynegi barn a chyfiawnhau
  • technegau i gynnal trafodaeth a chyfrannu yn eiffeithiol
  • Defnyddio amrywiaeth o batrymau ac amseroedd y ferf
  • ynganiad, goslef a thôn


Yn fras ac i ddod i gasgliad, dyma ydy’r sgiliau mae’n rhaid i ni feddwl am eu datblygu wrth gynllunio. Y gwir amdani ydy dim ond dau beth sy’n sefyll allan sy’n newydd, sef y digymell ac i raddau datblygu ac addysgu technegau i gynnal trafodaeth. Am bopeth arall, dw i’n credu ein bod yn gwneud yn barod.

Yn Rhan 4, bydda i’n trafod darllen a gwrando fel y prif ffynhonellau i sicrhau digon o fewnbwn er mwyn cyrraedd y nôd o ran y cymhwyster newydd yma.

#dwincroesurllinellhud

TGAU Cymraeg Ail-iaith – Y Ffordd Ymlaen (Rhan 2)

pablo (1)

 

Yn Rhan 1 o’r gyfres, ceisiais i osod sylfaen am gynllunio a gweithredu tuag at gyflwyno’r TGAU Cymraeg Ail-iaith newydd a gellir darllen amdano yma ond yn fras dyma’r camau dw i’n mynd i’w gymryd:

  1. Torri’r gofynion iaith i lawr i elfennau dysgu ar ffurf ffwythiannol
  2. Cysidro’r meini prawf a dadansoddi
  3. Sicrhau llawer o ddarllen a gwrando i fwydo’r iaith
  4. Defnyddio’r iaith darged yn gyson
  5. Cylchdroi unrhyw elfennau newydd wrth symud trwy’r elfennau iaith i gyd
  6. Ystyried y dulliau addysgu – pwrpas defnyddio’r dull a chysidro effeithiolrwydd

Yn Rhan 2 o’r gyfres hoffwn i daflu golwg ar bwynt 1 uchod.  Isod, gwelir yr holl gofynion iaith sy yn y fanyleb drafft ar ffurf rhestr:

  • Presennol
  • Perffaith
  • Amherffaith
  • Dyfodol
  • Gorffennol reolaidd
  • Gorffennol afreolaidd – mynd, gwneud, dod, cael
  • Amodol
  • Berfau diffygiol
  • Gorchmynnol
  • Safle ansoddeiriau
  • Treiglad ar ôl enw benywaidd
  • Ffurfiau lluosog
  • Ansoddeiriau fel adferfau
  • Goleddfu ansoddeiriau
  • Cyffelybiaethau
  • Cymharu ansoddeiriau – y radd cyfartal
  • Ffurfiau cryno ansoddeiriau – da, drwg, bach mawr
  • Ansoddeiriau ar gyfer uwch sgiliau siarad – rhy, anhygoel, afresymol, eithriadol, pur, hollol, llawn
  • Treigladau – meddal, trwynol, llaes
  • Rhagenwau syml
  • Rhagenwau blaen
  • Rhagenwau dangosol
  • Cysyllteiriau – a/ac, neu, ond, hefyd, pan, wedyn, yna, wrth gwrs, felly, fel, fodd bynnag, er, ar y naill law, ar y llaw arall
  • Y fannod
  • Adferfau amser
  • Cyfarchion
  • Rhifolion a threfnolion – arian, amser, ffurfiau benywaidd a gwrywaidd
  • Arddodiaid a thriegladau – am, at, i, dros, wrth, hyd, heb, gan, achos, yn, mewn, o, wedi, tan, er, drwy,dan
  • Arddodiaid a berfau – gwrando ar, diolch i/am, ysgrifennu at/i, siarad a/am, gofalu am, cysylltu â, cytuno â, mynd â, dod â, chwarae dros
  • Rhedeg arddodiaid mwya cyffredin – i, am, at
  • Cymal pethynol
  • Cymal enwol
  • Idiomau cyffredin a newid y person
  • Strwythurau idiomatig
  • Enwau benywaidd a gwrywaidd
  • Enwau lluosog
  • Geiriau cwestiwn

 

Yn wir, mae llawer o gynnwys gramadegol yma! Rhaid dweud hefyd bod llawer sy’n naturiol i addysgu iaith a rhai pethau mwy anodd i’w drin ond dyma ydy’r sgôp yn y fanyleb.  Does dim llawer o newid o ran amseroedd y ferf, geiriau cwestiwn, rhifau, y fannod a phethau eraill. Yn wir, onid ydyn ni’n cyflawni rhain yn barod i ryw raddau? Gwn fod pethau ychwanegol sy amlwg yn arwain at datblygu sgiliau Lefel A a chau’r bwlch rhywfaint er mwyn codi safonau yn y cymhwyster hwnnw ond eto maen nhw’n rhan o ddysgu’r Gymraeg. Yn hanfodol i’w ddeall yn fy marn i ydy does dim gofyn i ni addysgu’r uchod fel gwers gramadeg, er gall addysgu uniongyrchol yn sicr cefnogi rhai disgyblion a helpu datblygu deallusrwydd y dysgwyr. Ydy hi’n bwysig bod nhw’n gallu enwi pob elfen neu ddeall sut yw drîn o fewn cyd-destun? Gwn ei fod yn amhosib i osgoi’r geirfa ond nid dyna’r nôd.  Un enghraifft sy’n dod i’r meddwl ydy defnyddio dull ‘Ffenest Gramadeg’. Gyda’r dynesiad yma ac wrth addysgu’n arferol, os codiff pwynt gramadegol newydd, bydd yr athro/awes yn cymryd cyfnod bach o amser i esbonio yn gyflym a symud ymlaen. Wrth gwrs, basai’r gramadeg yn codi yng nghyd-destun y gwaith. Hynny yw, addysgu’r gramadeg yn sydyn wrth iddo codi a sicrhau bod y gwaith arferol yn dangos digon o esiamplau ac enghreifftiau. Os oes cwestiwn gramadegol yn codi, atebwch a bydd yn barod i rhoi gwaith ychwanegol os oes angen.

Yn fy marn i, dylai’r gramadeg fod yn rhywbeth i’r athro/awes i boeni amdano ac nid y disgyblion. Rhaid iddyn nhw caffel y gramadeg yn naturiol wrth ddefnyddio’r iaith neu mae’r profiad yn mynd i droi i mewn i wersi gramadegol pur ddiflas lle bydd llawer iawn o’r disgyblion (yn y de dwyrain yn bendant) yn cael hi’n rhy anodd achos dydyn nhw ddim yn arfer â dysgu rheolau gramadegol yn eu gwersi mamiaith. Rhaid trin y gramadeg uchod mewn dull arall. Rhaid i’r athro/awes gwau y gramadeg i mewn i’r llwybr (continwwm) caffael iaith o fewn y gwaith arferol.  Os felly, rhaid cynllunio i le y bydd popeth yn ffitio yn y tasgau, gweithgarwch a themâu. Dydw i ddim wedi datblygu ar hyn eto ond er mwyn egluro fy meddwl, dyma enghraifft er rwy’n siwr bod llawer o syniadau am sut i wneud hyn yn bodoli eisioes a buasai’n dda cael cymharu rhain a thynnu pethau at ei gilydd ar gyfer pawb.

Blwyddyn Elfen Iaith
7 Tymor 1 Amser presennol unigol – cadarnhaol, negyddol, gofynnol

Cysyllteiriau – am, ar, gyda, achos

Geiriau cwestiwn – ble, pryd, gyda phw, pam

7 Tymor 2 Amser presennol lluosog – cadarnhaol, negyddol, gofynnol …… ayyb


I ategu at hyn, dw i’n gweld bod dyletswydd ar yr athro/awes i ddatblygu technegau i symleiddio’r holl elfennau iaith a’i wneud yn llai o bwysau arnynt ac osgoi gorlwytho gwybyddol fel y plâ. Rhaid i mi ddiolch i Mr G Wall am ei ganiatâd i gynnwys yr enghraifft isod yn y blog a chyd-weithio gyda fi ar y syniad ac mae’r ail-enghraifft yn ymgais i symleiddio am ddisgyblion llai hyderus. Tyfodd y syniad allan o sgwrs rhyngom am ffyrdd i gael y disgyblion i fedru ymateb yn naturiol i amrywiaeth o topigau.

16237949_10154969739183522_1798888774_n

16216279_10154969738763522_583997481_n

Yn syml, mae llawer o agweddau amseroedd y ferf yn cael eu cynnwys yn y SUPER 12. Gellir addasu trwy symleiddio neu ategu atyn nhw wrth gwrs ac efallai gellir datblygu mat gwahanol am wahanol blynyddoedd neu gallu. Wedyn mae’r daflen yn rhoi ffwythiant iddynt i greu brawddegau. Wrth arbrofi gyda hyn yn fy nosbarth yn ddiweddar ac ar ôl ychydig o amser yn darllen, gwrando ar a defnyddio’r SUPER 12, roedd fy nisgyblion blwyddyn 9 yn gallu cynhyrchu atebion estynedig yn defnyddio gwahanol amseroedd y ferf yn y cadarnhaol a’r negyddol, amrywio person y ferf, defnyddio amrywiaeth o gysyllteiriau i roi fanylion a chynnwys marciau disgwrs ar draws nifer o dopigau cyfarwydd – chwaraeon, ffasiwn, cerddoriaeth a ffilmiau.  Yr hyn dw i’n ceisio dweud ydy bod modd i ni gyd-weithio i ddatblygu syniadau tebyg er mwyn cefnogi’r disgyblion i siarad yn ddigymell. Dw i’n derbyn fy mod i wedi gweithio gyda’r dosbarth yma dros y flwyddyn diwethaf ond fy marn ydy bod siarad yn ddigymell am unrhywbeth o fewn profiad y disgyblion yn bosibl!

I grynhoi ar y rhan yma o’r gyfres yn cysidro cynllunio, hoffwn nodi’r prif pwyntiau dw i’n ystyried yn holl bwysig:

  1. Rhaid gwau’r eitemau iaith i mewn i’r cynllunio a’r gwaith lle mae’n codi yn naturiol a pheidio gorlwytho jest achos mae yn y fanyleb
  2. Rhaid datblygu fframwaith/cynllun sy’n cynnwys yr elfennau iaith i gyd ond mae’n bosibl canolbwyntio ar yr agweddau mwya aml ei ddefnydd a strythuro pethau fel bod yn adeiladu’n naturiol
  3. Rhaid cyd-weithio i ddatblygu syniadau a gweithgareddau sy’n rhoi cyfle i’r disgyblion caffael gramadeg yr iaith yn naturiol – llawer iawn o ddarllen a gwrando amdani yma – a dulliau sy’n symleiddio’r gramadeg iddynt
  4. Rhaid datblygu llawer o gyfleoedd i’r disgyblion ymateb yn ddigymell dros amrywiaeth o topigau gwahanol o fewn y themâu

 

Yn Rhan 3, bydda i’n bwrw golwg dros y meini prawf a chysidro sut mae hyn yn effeithio’r cynllunio.

 

#dwincroesurllinellhud

TGAU Cymraeg Ail-iaith – Y Ffordd Ymlaen (Rhan 1)

pablo (1)

Erbyn hyn, y mae CBAC wedi cyhoeddi fersiwn drafft o’r fanyleb TGAU Cymraeg Ail-iaith; sy ar gael yma. Ar ôl ymuno yn y ‘roadshow’ diweddar gyda Chymwysterau Cymru, y llywodraeth a CBAC yng Nghasnewydd, credaf dyma fydd gennym i arwain y pwnc oleua tan dyfodiad y cwricwlwm newydd gyda Donaldson. Wedi dweud hyn, dydy’r deunyddiau enghreifftiol ddim ar gael tan y Pasg ac felly mae llawer o gwestiynau ynglyn â sut y bydd yr arholiadau yn edrych yn dal i fodoli ac mae cynllunio ar gyfer y cymwyster yn anodd iawn a llawn ansicrwydd.

Mae llawer o bwyntiau ynglyn â’r cymhwyster yn codi sy’n peri gofid i lawer o athrawon ac heb os nac oni bai, mae’r cymhwyster yn fwy anodd oherwydd yr elfen ddigymell. Yn ychwanegol at hyn ydy’r ffaith bod y themâu mor eang y mae’n creu trafferthion o ran pa eirfa a phwyntiau addysgu i ganolbwyntio arnyn nhw oherwydd does dim sicrwydd beth gall codi o fewn yr arholiadau. Yn y bôn, fy nheimlad personol ydy bod gofyn i’r disgyblion gallu ymateb i unrhywbeth a thrafod yn eitha rhydd o fewn y themâu a does dim modd i osgoi ddod i afael â’r ffaith yma. Pa bynnag newidiadau cawn yn y fersiwn terfynol, mae’r dulliau asesu yn gofyn i ni ystyried yn fanwl sut mae cyrraedd y nôd. Mae’n amlwg ar ôl ymateb yr athrawon yn y ‘roadshow’ bod cryn dipyn o wrthwynebiad at y newidiadau gan gynnwys yr amseri, diffyg gwybodaeth a’r teimlad bod angen gwyrth i gyflawni popeth wrth ystyried yr amser cyswllt amrywiol sydd yn ein hysgolion. Does dim newid i statws y pwnc na dyletswydd ar ein rheolwyr ysgol i newid dim ar y sefyllfa presennol.

Serch hyn oll, diben y blognod yw i ystyried y ffordd ymlaen a gadael y problemau gwleidyddol i barhâu yn y cefndir achos does gennym ni ddim llais nac awydd i herio’n ddigonol i newid ein ffawd o hyn allan.

Iaith yw iaith ac mae’r un problem yn bodoli yn sgîl y newidiadau ag sydd wedi bodoli gyda’r cymhwyster cyfredol – Sut mae addysgu’n ddigon effeithiol i greu siaradwyr gyda cyn lleied o amser a’r rhwystrau enfawr sy gennym ar lawr y dosbarth?

Ers blwyddyn neu’n fwy, dw i wedi bod yn ymchwilio ac arborfi gyda nifer o ddulliau addysgu iaith gan gynnwys CI, TPRS, ffwythiannol, cyfathrebol a defnyddio technoleg fel Duolingo ac ati.  Mae llawer o wahanol ddulliau ar gael i ni ond yn sicr fyddem ni ddim yn gallu parhâu gyda’r un hen ddulliau dyn ni wedi bod yn defnyddio os ydym ni’n mynd i ymateb yn bositif i’r her newydd. Dydy dysgu ar y cof ar gyfer yr arholiadau llafar ddim yn opsiwn bellach ac o’r herwydd mae rhaid i ni feddwl o’r newydd am sut i baratoi’r disgyblion i ymdopi gyda sefyllfa digymell o fewn muriau themâu anweledig ieuenctid, Cymru a’r byd a chyflogaeth.

Mae CBAC wedi cyflwyno peth wmbreth o ofynion ieithyddol bydd yn codi braw ar unrhywun boed yn ‘iaith gynta’ neu’n ‘ail-iaith’ ac mae’r sgôp yn eang ofnadwy.  Mae treigladau, cymalau, enwau gwrywaidd, benywaidd, lluosog, strwythurau idiomatig, rhedeg arddodiaid a chymharu ansoddeiriau i gyd yno a dydy fy rhestr i ddim yn gyflawn! Mae wir yn fynydd i ddringo i’r disgyblion druan ac yn anodd iawn bydd y dasg o sicrhau bod hyn yn lwyddiant iddyn nhw.

Wrth ystyried ble i ddechrau, dw i’n ceisio dychmygu beth bydd rhaid i’r digyblion wneud i brofi hyn oll ac yn anffodus heb y deunyddiau enghreifftiol ac efallai tymor yr haf i geisio dechrau paratoi y disgyblion am yr arholiad cyntaf ym mis Ionawr, dw i’n teimlo fy hun yn suddo.  Y gwir ydy, does dim modd o gwbwl i sicrhau bod y disgyblion yn gallu cyflawni popeth yn y gofynion iaith ac efallai nid dyma’r ffordd orau i feddwl am y ffordd ymlaen. Wrth gwrs, pe bawn i’n ystyried cynllunio o flwyddyn saith, buasai llawer mwy o obaith. Ar y llaw arall, y mae’r disgyblion wedi derbyn gwersi iaith ac nid ydynt yn dechrau o’r dechrau’n llwyr. Credaf bod angen sicrhau ffordd o asesu ble mae’r disgyblion ar y daith iaith nawr cyn medru cynllunio am y ffordd ymlaen. Rwy’n siwr y realiti ydy bod peth eirfa a phatrymau gyda nhw eisoes.

Heb lwybr pendant mewn ffurf fframwaith iaith effeithiol, mae’n anodd iawn cynllunio sut i gyflwyno’r gofynion iaith ond os gwelwn ni’r gofynion iaith a’r meini prawf yn y drafft fel y fframwaith, gallem ddechrau meddwl am ffyrdd effeithiol i dorri’r holl cynnwys i lawr i gamau synhwyrol. Yr hyn sy’n galed ydy sut i gyflwyno un elfen iaith a sicrhau bod cyfleoedd digonol wrth deithio ar hyd y fframwaith i sicrhau hyfedredd yn yr elfen a’r gallu i’w defnyddio mewn sefyllfaoedd digymell. Mae’n rhaid felly i sicrhau y camau: dysgu, ymarfer, caffael a defnyddio’n gyson wrth symud i elfennau newydd. Rhaid cynllunio cylchdroi cyson yn hyn o beth sy’n anodd ond yn bosib gydag ymdrech a deallusrwydd.

Fy meddyliau cychwynol ydy bod angen edrych ar y cynnwys o safbwynt ffwythiannau a defnyddio’r syniadaeth yma i greu’r camau dysgu. Dw i ddim yn sicr ar hyn o bryd o sut i wneud hyn yn effeithiol a dw i’n edrych ymlaen at gyd-weithio ar hyn yn y dyfodol agos ond heb amheuaeth mae rhaid i ni dorri’r holl ofynion iaith i lawr i gamau pwrpasol adeiladol i ddechrau er mwyn gweld yr holl beth dros amser.

Yn ail, rhaid wedyn ystyried sut i addysgu’r elfennau. Eto, mae amser cyswllt yn brin ac mae’n effeithio ar yr hyn sy’n bosibl o ran defnyddio rhai dulliau addysgu fel TPRS yn gyfan gwbwl. Hefyd bydd rhaid i ni ystyried systemau tracio ein hysgolion a’r gofynion i roi data yn gyson i fesur cynnydd.  Yn bendant, mae darllen a gwrando yn ganolog i fwydo a modeli’r iaith yn y lle cyntaf a dw i o’r farn dyma’r ffordd ymlaen. Yn rhy aml, dyn ni’n disgwyl i’r disgyblion cynhyrchu iaith heb ddigon o fewnbwn a bydd hyn yn wir am unrhyw elfen iaith dan sylw. Hefyd, dw i’n cofio dysgu Almaeneg yn yr ysgol a gorfod mynd dros rhediad amseroedd y ferf ac roedd yn ddiflas tu hwnt ac yn aneffeithiol yn y pen draw. Felly, dydy cyflwyno tablau iaith a gofyn i’r disgyblion dysgu ar y cof ddim yn mynd i ddatrys y problem oherwydd byddan nhw ddim yn gallu dwyn i’r cof yn ddigon effeithiol mewn sefyllfa digymell (heblaw am ambell i athrylith) achos bydd yn ormod o straen meddyliol.

Yn rhan o’r peth hefyd ydy’r defnydd o iaith darged! Er mwyn ymateb mewn sefyllfa ddigymell, rhaid arfer â siarad yn naturiol at bwrpas yn gyson. Bydd dim modd codi hyder yn ddigonol heb lawer o siarad yn y dosbarth yn gyson tu hwnt i ddrilio a sgyrsiau bach i ail-adrodd patrymau.

I ddod i gasgliad cychwynnol am ymateb i’r drafft newydd a dechrau meddwl am gynllunio ffordd ymlaen, dw i’n cynnig y camau isod. Baswn i wrth fy modd trafod ymhellach a chyd-weithio gyda athrawon eraill os oes diddordeb?

  1. Torri’r gofynion iaith i lawr i elfennau dysgu ar ffurf ffwythiannol
  2. Cysidro’r meini prawf a dadansoddi
  3. Sicrhau llawer o ddarllen a gwrando i fwydo’r iaith 
  4. Defnyddio’r iaith darged yn gyson
  5. Cylchdroi unrhyw elfennau newydd wrth symud trwy’r elfennau iaith i gyd
  6. Ystyried y dulliau addysgu – pwrpas defnyddio’r dull a chysidro effeithiolrwydd

#dwincroesirllinellhud   

PISA, Wales and Estonia.

Y Cwricwlwm newydd … cymharu Estonia a Chymru. Blog gwych gan Richard Carbis.

rjc7's Blog

It is that time of year when we discover that our ranking has slightly improved or become worse in Wales. Better people than myself can answer how relevant the test is as a measure of success. I was and am interested in the fact that Estonia has performed so well. I began to research into the education of Estonia and I would like to share a few insights with yourselves,

The Education Act, adopted in 1992, states the following as the general goals of education: to create favourable conditions for the development of personality, family and the Estonian nation; to promote the development of ethnic minorities, economic, political and cultural life in Estonia and the preservation of nature in the global economic and cultural context; to teach the values of citizenship; and to set up the prerequisites for creating a tradition of lifelong learning nation-wide.
The extract above comes…

View original post 1,739 yn rhagor o eiriau