Amdanaf a’r blog

Dyma flog personol – Y Byd a’r Betws. Dwi’n wr, tad, hyfforddwr, annogwr ac yn athro Cymraeg. Ar y blog yma ceir cynnwys am addysg a phopeth dan haul o ran y Gymraeg. Blognodau personol neu o ddiddordeb i mi ydynt a barn bersonol yw pob un.

Dwi’n bennaeth Adran mewn ysgol cyfrwng Saeseng yn Ne Cymru ac yn gyfrifol am y Cwricwlwm Cymreig hefyd. Mae diddordeb mawr gen i mewn datblygu technoleg fel arf pwrpasol ac effeithiol ar lawr y dosbarth er mwyn cefnogi dulliau trochi iaith a rhwydweithio’n genedlaethol i hybu rhannu arfer dda a datblygiad proffesiynol.

Dwi’n ddiolchgar iawn i Glenn Wall (Mr G Wall@MrGWallCymraeg) am fy herio a fy mentora’n barhaol ar y daith hon a dwi’n canmol ei ddilyn yn frwd. Mae ei waith arloesol yn arbennig o dda a’i flog Addysg Anturus yn hanfodol i bob athro/awes cyfrwng Saesneg ac mae’n parod iawn i rannu a helpu bob amser.

Yn ogystal, dyn ni wedi creu grwp Gweplyfr – Cymraeg Cyfrwng Saesneg a Dropbox er mwyn hwyluso rhannu syniadau a deunyddiau.

pablo 

#addcym #AddCAi #ArhCAi #Cymraeg #addysg

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s