TGAU Cymraeg Ail-iaith – Y Ffordd Ymlaen (Rhan 5)

pablo (1)

Dyma Rhan 5 a’r post olaf yn y gyfres sy’n trafod y fanyleb newydd Cymraeg Ail-iaith. Isod yw’r camau dw i wedi edrych arnyn nhw.

  • Torri’r gofynion iaith i lawr i elfennau dysgu ar ffurf ffwythiannol
  • Cysidro’r meini prawf a dadansoddi
  • Sicrhau llawer o ddarllen a gwrando i fwydo’r iaith
  • Defnyddio’r iaith darged yn gyson
  • Cylchdroi unrhyw elfennau newydd wrth symud trwy’r elfennau iaith i gyd
  • Ystyried y dulliau addysgu – pwrpas defnyddio’r dull a chysidro effeithiolrwydd

Gwelir Rhan 1, Rhan 2, Rhan 3, Rhan 4 drwy clicio arnyn nhw.

Yn y post olaf yma, hoffwn i geisio edrych yn fanylach ar y tri pwynt olaf oherwydd y mae gorgyffwrdd mawr rhyngddynt. Hynny yw, mae’n amhosib trafod un heb y llall gan eu bod nhw i gyd yn rhan o ddulliau a methodoleg addysgu iaith. Y cwestiwn mawr bydd rhaid i ni ateb ydy sut mae gwneud hyn yn effeithiol o fewn yr amser cyfyngedig iawn sy gyda ni? Dw i wedi cyfeirio at nifer o bosibiliadau a chyfleoedd i gynyddu’r cyffyrddiad â’r iaith tu allan i’r stafell ddosbarth a chynnig cynyddu’ defnydd o’r sgiliau goddefol yn flaenorol ond heb ameheuaeth bydd rhaid i ni rywbryd ystyried yr allbwn er mwyn llwyddo yn yr arholiad.

Iaith Darged

Y gwir ydy bod y defnydd o iaith darged yn eliffant mawr yn yr ystafell i’r rhan fwyaf ohonom. Mae’n gwaith anodd i gadw ati wrth gynnal gwaith yn y dosbarth ac wrth gwrs mae’n arafu popeth i lawr oherwydd bod angen creu llawer o lle i’r prosesu digwydd. Yn amlwg rhaid i ni ystyried beth yn union y mae defnyddio iaith darged yn ei olygu. Dydy defnyddio iaith darged ddim yn golygu rhygni ymlaen ac ymlaen yn y Gymraeg a gobeithio bod rhywrai yn deall a gallu gweithredu. Dydy defnyddio’r iaith i gynnal y wers ar ben ei hun ddim yn ddigonol. Bydd defnydd tebyg yn wastraff amser, creu problemau disgyblaeth a datblygu agweddau negyddol ac mae digon o hyn yn barod yn gyffredinol ac mae’n bwysig i beidio gorlwytho meddwl y disgyblion yn ormodol i fod yn effeithiol caffael yr iaith dros amser.

Yr hyn y mae defnyddio iaith darged yn effeithiol yn ei olygu ydy cynllunio’n craf y defnydd o’r iaith a chynyddu’r cyfrwng addysgu i’r Gymraeg. Dydy hyn ddim yn gallu digwydd dros nos. Ar y llaw arall, dydy troi at y Saesneg bob tro y mae bach o ddiffyg dealltwriaeth ddim yn helpu chwaith ac mae rhywfaint o her yn dda ac yn fanteisiol. Mae yna llawer o ddulliau amrywiol gellir eu defnyddio i gefnogi’r cyfrwng addysgu dros amser. Dw i’n hyderus iawn bod rhaid i ni ddechrau’r broses yma o flwyddyn 7 gan ganolbwyntio a’r gorchmynion syml, cwestiynau i gael help neu ofyn am bethau a llawer o drafod yn y Gymraeg drwy holi cwestiynau tebyg am bopeth gan ail-gylchu yn gyson. Dros amser, fe ddaw’r disgyblion yn gyfarwydd gyda chlywed y gorchmynion a gweld ystymiau ac yn llwyddo i weithredu ar yr hyn dywed yr athro/awes heb gorfod troi at y Saesneg. Dull arall handi iawn  ydy paratoi cardiau neu arddangosfeydd ar y wal gyda’r iaith yma i gyfeirio ato ond heb gorfod defnyddio’r Saesneg – er bydd cyfieithiad ar y wal. Un o’r pethau angenrheidiol ydy newid arfer y disgyblion. Os ydyn nhw a ni’n arfer â siarad Saesneg yn y wers, dyna fydd yr arfer – default position cyfrwng y wers. Yn hyn o beth, rhaid sicrhau eu bod nhw’n derbyn digon cymorth trwy taflenni ar y bwrdd a iaith sy’n galluogi nhw i rhyngweithio yn y Gymraeg a mynnu eu bod nhw. Rhaid datblygu hyn dros amser wrth gwrs ond bydd yn hanfodol yn yr hir dymor i sicrhau bod y disgyblion yn gallu trafod yn ddigymell mewn ystod o sefyllfaoedd amywiol go iawn. Gellir darllen mwy am fy nhaith yn defnyddio’r iaith darged yma ac yma.

Cylchdroi a dulliau

Dw i wedi bachu syniad newydd yn ddiweddar oherwydd dyn ni’n cwympo rhwng dwy stôl. Dydyn ni ddim mewn sefyllfa lle gallem wir ddatblygu dulliau trochi llawn er dyma ydy’r ffordd i greu siaradwyr. Dyn ni ddim cweit yn ITM chwaith oherwydd bod y disgyblion yn derbyn addysg yn y Gymraeg (at lefelau gwahanol) drwy’r cynradd.  Dydyn ni ddim yn bwnc craidd felly i fod yn gwbl onest, does dim digon o amser cyswllt na statws gyda ni i fod yn effeithiol iawn; ac mae rhai athrawon a chyn lleied o amser cyswllt mewn rhai ysgolion o ddifri. Felly o ran dulliau dw i nawr defnyddio’r term Trochi Optimwm. Y syniad ydy bod modd, dan ein hamgylchaidau, i ddefnyddio technegau trochi ond addasu arnyn nhw i ymateb i’n sefyllfa presennol.

Mae’r defnydd o iaith darged yn bendant yn cwympo i mewn i Drochi Optimwm. Yn ogystal â hyn y mae llawer o ddarllen a gwrando cyson. Gellir hefyd ystyried addysgu integredig lle ein bod ni’n dysgu neu drafod pethau tu allan i’r pwnc iaith yn yr iaith Gymraeg. Ym mhob achos yma y bwriad ydy creu awyrgylch real i ddefnyddio’r iaith mewn sefyllfaoedd go iawn.  Rhaid i ni wir dechrau ystyried datblygu ar Drochi Optimwm yn y ffordd dyn ni’n addysgu os ydyn ni’n mynd i fod yn llwyddiannus erbyn cyrraedd Blwyddyn 10 ac 11.

Yn olaf, dof i at y pwynt mwya pwysig a mwya caled i weithredu. Sut yn y byd gallen ni sicrhau digon o gylchdroi gyda’r elfennau iaith o flwyddyn 7 i 11 a sicrhau bod y disgyblion yn cadw ar gof yr hyn maen nhw wedi dysgu. Heb os, dw i wedi gadael llawer o ddisgyblion i lawr ar adegau oherwydd fy mod i’n cymryd dysgu blaenorol yn ganiataol. Rhag fy nghywilydd am hyn achos dylwn i wybod yn well! Ni ellir cyflwyno rhywbeth unwaith a disgwyl bydd yno byth beunydd ar ôl hynny.  Hefyd, dydy adolygu pethau o flwyddyn 7 ym mlwyddyn 10 ddim yn effeithiol chwaith. Y tric ydy sicrhau cyfleoedd i ail-ddefnyddio ac ail-gylchu’r hyn a dysgwyd eisioes yn gyson a gall hyn ddim digwydd heb mapio craff, asesu anffurfiol cyson a deunyddiau sy’n cynyddu o ran cymhlethdod dros amser ond yn dal i gynnwys y pethau sylfaenol. Yn ymchwil Krashen, mae e’n sôn am gadw’r iaith yn ddealladwy hyd at 90% a wedyn cynnwys rhyw 10% yn iaith newydd wrth ddatblygu deunyddiau; gelwir hyn yn i+1.  Dyma gyngor da iawn ac wrth gwrs rhaid sicrhau ein bod ni’n ail-gylchu yn gyson neu bydd y disgyblion yn anghofio. Dw i’n cynnig ein bod ni’n gorfod canolbwyntio ar y gallu i drafod pethau amrywiol, mynegi barn, cytuno ac anghytuno a chynnig rhesymau a thystiolaeth i gefnogi ein barn wrth rhyngweithio ag eraill.

Y gwir ydy bod rhaid i ni ganolbwyntio ar iaith mwya aml ei ddefnydd gan gynnwys patrymau iaith, berfau, ansoddeiriau, cysyllteiriau, enwau a geirfa amryiol fel amser, arian, rhifau ac ati. Wrth ganolbwyntio yn uniongyrchol ar yr rhain a chynnyddu’r maint dros amser, byddwn yn sicrhau bod yr arfau iaith gan y disgyblion i ymateb i sefyllfaoedd gwahanol a phynciau gwahanol yn ddigymell.  Mae rhai ohonom yn gweithio’n galed ar ddatblygu’r iaith aml ei defnydd ar hyn o bryd yn barod am newid i’r dull yma yn y dyfodol agos ac mae’n gyffrous iawn. Oherwydd y prinder amser, bydd rhaid i ni defnyddio dulliau uniongyrchol i adeiladu at y dulliau trochi ond heb os dyma ydy’r unig ffordd i fynd gyda’r arholiad newydd yma.

I grynhoi’r gyfres, ymgais i gyfeirio fy hunan at y TGAU newydd sydd yma. Yn fuan iawn gobeithio y bydd mwy o wybodaeth gennym gan CBAC a deunyddiau enghreifftiol fydd o bosib yn ateb rhai o’r cwestiynau dw i wedi codi. Ar y llaw arall, mae’r gyfres wedi fy helpu ystyried yn fanwl sut i fynd ati ar ôl y Pasg i baratoi blwyddyn 9 at y dasg heriol sydd o’n blaenau. Pob lwc i bawb ar y gwaith!

Diolch am ddarllen a chroeso i chi gadael sylwad os oes pwynt gennych am y gyfres neu bwynt hoffech drafod.

#dwincroesirllinellhud

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s