TGAU Cymraeg Ail-iaith – Y Ffordd Ymlaen (Rhan 2)

pablo (1)

 

Yn Rhan 1 o’r gyfres, ceisiais i osod sylfaen am gynllunio a gweithredu tuag at gyflwyno’r TGAU Cymraeg Ail-iaith newydd a gellir darllen amdano yma ond yn fras dyma’r camau dw i’n mynd i’w gymryd:

  1. Torri’r gofynion iaith i lawr i elfennau dysgu ar ffurf ffwythiannol
  2. Cysidro’r meini prawf a dadansoddi
  3. Sicrhau llawer o ddarllen a gwrando i fwydo’r iaith
  4. Defnyddio’r iaith darged yn gyson
  5. Cylchdroi unrhyw elfennau newydd wrth symud trwy’r elfennau iaith i gyd
  6. Ystyried y dulliau addysgu – pwrpas defnyddio’r dull a chysidro effeithiolrwydd

Yn Rhan 2 o’r gyfres hoffwn i daflu golwg ar bwynt 1 uchod.  Isod, gwelir yr holl gofynion iaith sy yn y fanyleb drafft ar ffurf rhestr:

  • Presennol
  • Perffaith
  • Amherffaith
  • Dyfodol
  • Gorffennol reolaidd
  • Gorffennol afreolaidd – mynd, gwneud, dod, cael
  • Amodol
  • Berfau diffygiol
  • Gorchmynnol
  • Safle ansoddeiriau
  • Treiglad ar ôl enw benywaidd
  • Ffurfiau lluosog
  • Ansoddeiriau fel adferfau
  • Goleddfu ansoddeiriau
  • Cyffelybiaethau
  • Cymharu ansoddeiriau – y radd cyfartal
  • Ffurfiau cryno ansoddeiriau – da, drwg, bach mawr
  • Ansoddeiriau ar gyfer uwch sgiliau siarad – rhy, anhygoel, afresymol, eithriadol, pur, hollol, llawn
  • Treigladau – meddal, trwynol, llaes
  • Rhagenwau syml
  • Rhagenwau blaen
  • Rhagenwau dangosol
  • Cysyllteiriau – a/ac, neu, ond, hefyd, pan, wedyn, yna, wrth gwrs, felly, fel, fodd bynnag, er, ar y naill law, ar y llaw arall
  • Y fannod
  • Adferfau amser
  • Cyfarchion
  • Rhifolion a threfnolion – arian, amser, ffurfiau benywaidd a gwrywaidd
  • Arddodiaid a thriegladau – am, at, i, dros, wrth, hyd, heb, gan, achos, yn, mewn, o, wedi, tan, er, drwy,dan
  • Arddodiaid a berfau – gwrando ar, diolch i/am, ysgrifennu at/i, siarad a/am, gofalu am, cysylltu â, cytuno â, mynd â, dod â, chwarae dros
  • Rhedeg arddodiaid mwya cyffredin – i, am, at
  • Cymal pethynol
  • Cymal enwol
  • Idiomau cyffredin a newid y person
  • Strwythurau idiomatig
  • Enwau benywaidd a gwrywaidd
  • Enwau lluosog
  • Geiriau cwestiwn

 

Yn wir, mae llawer o gynnwys gramadegol yma! Rhaid dweud hefyd bod llawer sy’n naturiol i addysgu iaith a rhai pethau mwy anodd i’w drin ond dyma ydy’r sgôp yn y fanyleb.  Does dim llawer o newid o ran amseroedd y ferf, geiriau cwestiwn, rhifau, y fannod a phethau eraill. Yn wir, onid ydyn ni’n cyflawni rhain yn barod i ryw raddau? Gwn fod pethau ychwanegol sy amlwg yn arwain at datblygu sgiliau Lefel A a chau’r bwlch rhywfaint er mwyn codi safonau yn y cymhwyster hwnnw ond eto maen nhw’n rhan o ddysgu’r Gymraeg. Yn hanfodol i’w ddeall yn fy marn i ydy does dim gofyn i ni addysgu’r uchod fel gwers gramadeg, er gall addysgu uniongyrchol yn sicr cefnogi rhai disgyblion a helpu datblygu deallusrwydd y dysgwyr. Ydy hi’n bwysig bod nhw’n gallu enwi pob elfen neu ddeall sut yw drîn o fewn cyd-destun? Gwn ei fod yn amhosib i osgoi’r geirfa ond nid dyna’r nôd.  Un enghraifft sy’n dod i’r meddwl ydy defnyddio dull ‘Ffenest Gramadeg’. Gyda’r dynesiad yma ac wrth addysgu’n arferol, os codiff pwynt gramadegol newydd, bydd yr athro/awes yn cymryd cyfnod bach o amser i esbonio yn gyflym a symud ymlaen. Wrth gwrs, basai’r gramadeg yn codi yng nghyd-destun y gwaith. Hynny yw, addysgu’r gramadeg yn sydyn wrth iddo codi a sicrhau bod y gwaith arferol yn dangos digon o esiamplau ac enghreifftiau. Os oes cwestiwn gramadegol yn codi, atebwch a bydd yn barod i rhoi gwaith ychwanegol os oes angen.

Yn fy marn i, dylai’r gramadeg fod yn rhywbeth i’r athro/awes i boeni amdano ac nid y disgyblion. Rhaid iddyn nhw caffel y gramadeg yn naturiol wrth ddefnyddio’r iaith neu mae’r profiad yn mynd i droi i mewn i wersi gramadegol pur ddiflas lle bydd llawer iawn o’r disgyblion (yn y de dwyrain yn bendant) yn cael hi’n rhy anodd achos dydyn nhw ddim yn arfer â dysgu rheolau gramadegol yn eu gwersi mamiaith. Rhaid trin y gramadeg uchod mewn dull arall. Rhaid i’r athro/awes gwau y gramadeg i mewn i’r llwybr (continwwm) caffael iaith o fewn y gwaith arferol.  Os felly, rhaid cynllunio i le y bydd popeth yn ffitio yn y tasgau, gweithgarwch a themâu. Dydw i ddim wedi datblygu ar hyn eto ond er mwyn egluro fy meddwl, dyma enghraifft er rwy’n siwr bod llawer o syniadau am sut i wneud hyn yn bodoli eisioes a buasai’n dda cael cymharu rhain a thynnu pethau at ei gilydd ar gyfer pawb.

Blwyddyn Elfen Iaith
7 Tymor 1 Amser presennol unigol – cadarnhaol, negyddol, gofynnol

Cysyllteiriau – am, ar, gyda, achos

Geiriau cwestiwn – ble, pryd, gyda phw, pam

7 Tymor 2 Amser presennol lluosog – cadarnhaol, negyddol, gofynnol …… ayyb


I ategu at hyn, dw i’n gweld bod dyletswydd ar yr athro/awes i ddatblygu technegau i symleiddio’r holl elfennau iaith a’i wneud yn llai o bwysau arnynt ac osgoi gorlwytho gwybyddol fel y plâ. Rhaid i mi ddiolch i Mr G Wall am ei ganiatâd i gynnwys yr enghraifft isod yn y blog a chyd-weithio gyda fi ar y syniad ac mae’r ail-enghraifft yn ymgais i symleiddio am ddisgyblion llai hyderus. Tyfodd y syniad allan o sgwrs rhyngom am ffyrdd i gael y disgyblion i fedru ymateb yn naturiol i amrywiaeth o topigau.

16237949_10154969739183522_1798888774_n

16216279_10154969738763522_583997481_n

Yn syml, mae llawer o agweddau amseroedd y ferf yn cael eu cynnwys yn y SUPER 12. Gellir addasu trwy symleiddio neu ategu atyn nhw wrth gwrs ac efallai gellir datblygu mat gwahanol am wahanol blynyddoedd neu gallu. Wedyn mae’r daflen yn rhoi ffwythiant iddynt i greu brawddegau. Wrth arbrofi gyda hyn yn fy nosbarth yn ddiweddar ac ar ôl ychydig o amser yn darllen, gwrando ar a defnyddio’r SUPER 12, roedd fy nisgyblion blwyddyn 9 yn gallu cynhyrchu atebion estynedig yn defnyddio gwahanol amseroedd y ferf yn y cadarnhaol a’r negyddol, amrywio person y ferf, defnyddio amrywiaeth o gysyllteiriau i roi fanylion a chynnwys marciau disgwrs ar draws nifer o dopigau cyfarwydd – chwaraeon, ffasiwn, cerddoriaeth a ffilmiau.  Yr hyn dw i’n ceisio dweud ydy bod modd i ni gyd-weithio i ddatblygu syniadau tebyg er mwyn cefnogi’r disgyblion i siarad yn ddigymell. Dw i’n derbyn fy mod i wedi gweithio gyda’r dosbarth yma dros y flwyddyn diwethaf ond fy marn ydy bod siarad yn ddigymell am unrhywbeth o fewn profiad y disgyblion yn bosibl!

I grynhoi ar y rhan yma o’r gyfres yn cysidro cynllunio, hoffwn nodi’r prif pwyntiau dw i’n ystyried yn holl bwysig:

  1. Rhaid gwau’r eitemau iaith i mewn i’r cynllunio a’r gwaith lle mae’n codi yn naturiol a pheidio gorlwytho jest achos mae yn y fanyleb
  2. Rhaid datblygu fframwaith/cynllun sy’n cynnwys yr elfennau iaith i gyd ond mae’n bosibl canolbwyntio ar yr agweddau mwya aml ei ddefnydd a strythuro pethau fel bod yn adeiladu’n naturiol
  3. Rhaid cyd-weithio i ddatblygu syniadau a gweithgareddau sy’n rhoi cyfle i’r disgyblion caffael gramadeg yr iaith yn naturiol – llawer iawn o ddarllen a gwrando amdani yma – a dulliau sy’n symleiddio’r gramadeg iddynt
  4. Rhaid datblygu llawer o gyfleoedd i’r disgyblion ymateb yn ddigymell dros amrywiaeth o topigau gwahanol o fewn y themâu

 

Yn Rhan 3, bydda i’n bwrw golwg dros y meini prawf a chysidro sut mae hyn yn effeithio’r cynllunio.

 

#dwincroesurllinellhud

Advertisements

3 thoughts on “TGAU Cymraeg Ail-iaith – Y Ffordd Ymlaen (Rhan 2)

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s