TGAU Cymraeg Ail-iaith – Y Ffordd Ymlaen (Rhan 1)

pablo (1)

Erbyn hyn, y mae CBAC wedi cyhoeddi fersiwn drafft o’r fanyleb TGAU Cymraeg Ail-iaith; sy ar gael yma. Ar ôl ymuno yn y ‘roadshow’ diweddar gyda Chymwysterau Cymru, y llywodraeth a CBAC yng Nghasnewydd, credaf dyma fydd gennym i arwain y pwnc oleua tan dyfodiad y cwricwlwm newydd gyda Donaldson. Wedi dweud hyn, dydy’r deunyddiau enghreifftiol ddim ar gael tan y Pasg ac felly mae llawer o gwestiynau ynglyn â sut y bydd yr arholiadau yn edrych yn dal i fodoli ac mae cynllunio ar gyfer y cymwyster yn anodd iawn a llawn ansicrwydd.

Mae llawer o bwyntiau ynglyn â’r cymhwyster yn codi sy’n peri gofid i lawer o athrawon ac heb os nac oni bai, mae’r cymhwyster yn fwy anodd oherwydd yr elfen ddigymell. Yn ychwanegol at hyn ydy’r ffaith bod y themâu mor eang y mae’n creu trafferthion o ran pa eirfa a phwyntiau addysgu i ganolbwyntio arnyn nhw oherwydd does dim sicrwydd beth gall codi o fewn yr arholiadau. Yn y bôn, fy nheimlad personol ydy bod gofyn i’r disgyblion gallu ymateb i unrhywbeth a thrafod yn eitha rhydd o fewn y themâu a does dim modd i osgoi ddod i afael â’r ffaith yma. Pa bynnag newidiadau cawn yn y fersiwn terfynol, mae’r dulliau asesu yn gofyn i ni ystyried yn fanwl sut mae cyrraedd y nôd. Mae’n amlwg ar ôl ymateb yr athrawon yn y ‘roadshow’ bod cryn dipyn o wrthwynebiad at y newidiadau gan gynnwys yr amseri, diffyg gwybodaeth a’r teimlad bod angen gwyrth i gyflawni popeth wrth ystyried yr amser cyswllt amrywiol sydd yn ein hysgolion. Does dim newid i statws y pwnc na dyletswydd ar ein rheolwyr ysgol i newid dim ar y sefyllfa presennol.

Serch hyn oll, diben y blognod yw i ystyried y ffordd ymlaen a gadael y problemau gwleidyddol i barhâu yn y cefndir achos does gennym ni ddim llais nac awydd i herio’n ddigonol i newid ein ffawd o hyn allan.

Iaith yw iaith ac mae’r un problem yn bodoli yn sgîl y newidiadau ag sydd wedi bodoli gyda’r cymhwyster cyfredol – Sut mae addysgu’n ddigon effeithiol i greu siaradwyr gyda cyn lleied o amser a’r rhwystrau enfawr sy gennym ar lawr y dosbarth?

Ers blwyddyn neu’n fwy, dw i wedi bod yn ymchwilio ac arborfi gyda nifer o ddulliau addysgu iaith gan gynnwys CI, TPRS, ffwythiannol, cyfathrebol a defnyddio technoleg fel Duolingo ac ati.  Mae llawer o wahanol ddulliau ar gael i ni ond yn sicr fyddem ni ddim yn gallu parhâu gyda’r un hen ddulliau dyn ni wedi bod yn defnyddio os ydym ni’n mynd i ymateb yn bositif i’r her newydd. Dydy dysgu ar y cof ar gyfer yr arholiadau llafar ddim yn opsiwn bellach ac o’r herwydd mae rhaid i ni feddwl o’r newydd am sut i baratoi’r disgyblion i ymdopi gyda sefyllfa digymell o fewn muriau themâu anweledig ieuenctid, Cymru a’r byd a chyflogaeth.

Mae CBAC wedi cyflwyno peth wmbreth o ofynion ieithyddol bydd yn codi braw ar unrhywun boed yn ‘iaith gynta’ neu’n ‘ail-iaith’ ac mae’r sgôp yn eang ofnadwy.  Mae treigladau, cymalau, enwau gwrywaidd, benywaidd, lluosog, strwythurau idiomatig, rhedeg arddodiaid a chymharu ansoddeiriau i gyd yno a dydy fy rhestr i ddim yn gyflawn! Mae wir yn fynydd i ddringo i’r disgyblion druan ac yn anodd iawn bydd y dasg o sicrhau bod hyn yn lwyddiant iddyn nhw.

Wrth ystyried ble i ddechrau, dw i’n ceisio dychmygu beth bydd rhaid i’r digyblion wneud i brofi hyn oll ac yn anffodus heb y deunyddiau enghreifftiol ac efallai tymor yr haf i geisio dechrau paratoi y disgyblion am yr arholiad cyntaf ym mis Ionawr, dw i’n teimlo fy hun yn suddo.  Y gwir ydy, does dim modd o gwbwl i sicrhau bod y disgyblion yn gallu cyflawni popeth yn y gofynion iaith ac efallai nid dyma’r ffordd orau i feddwl am y ffordd ymlaen. Wrth gwrs, pe bawn i’n ystyried cynllunio o flwyddyn saith, buasai llawer mwy o obaith. Ar y llaw arall, y mae’r disgyblion wedi derbyn gwersi iaith ac nid ydynt yn dechrau o’r dechrau’n llwyr. Credaf bod angen sicrhau ffordd o asesu ble mae’r disgyblion ar y daith iaith nawr cyn medru cynllunio am y ffordd ymlaen. Rwy’n siwr y realiti ydy bod peth eirfa a phatrymau gyda nhw eisoes.

Heb lwybr pendant mewn ffurf fframwaith iaith effeithiol, mae’n anodd iawn cynllunio sut i gyflwyno’r gofynion iaith ond os gwelwn ni’r gofynion iaith a’r meini prawf yn y drafft fel y fframwaith, gallem ddechrau meddwl am ffyrdd effeithiol i dorri’r holl cynnwys i lawr i gamau synhwyrol. Yr hyn sy’n galed ydy sut i gyflwyno un elfen iaith a sicrhau bod cyfleoedd digonol wrth deithio ar hyd y fframwaith i sicrhau hyfedredd yn yr elfen a’r gallu i’w defnyddio mewn sefyllfaoedd digymell. Mae’n rhaid felly i sicrhau y camau: dysgu, ymarfer, caffael a defnyddio’n gyson wrth symud i elfennau newydd. Rhaid cynllunio cylchdroi cyson yn hyn o beth sy’n anodd ond yn bosib gydag ymdrech a deallusrwydd.

Fy meddyliau cychwynol ydy bod angen edrych ar y cynnwys o safbwynt ffwythiannau a defnyddio’r syniadaeth yma i greu’r camau dysgu. Dw i ddim yn sicr ar hyn o bryd o sut i wneud hyn yn effeithiol a dw i’n edrych ymlaen at gyd-weithio ar hyn yn y dyfodol agos ond heb amheuaeth mae rhaid i ni dorri’r holl ofynion iaith i lawr i gamau pwrpasol adeiladol i ddechrau er mwyn gweld yr holl beth dros amser.

Yn ail, rhaid wedyn ystyried sut i addysgu’r elfennau. Eto, mae amser cyswllt yn brin ac mae’n effeithio ar yr hyn sy’n bosibl o ran defnyddio rhai dulliau addysgu fel TPRS yn gyfan gwbwl. Hefyd bydd rhaid i ni ystyried systemau tracio ein hysgolion a’r gofynion i roi data yn gyson i fesur cynnydd.  Yn bendant, mae darllen a gwrando yn ganolog i fwydo a modeli’r iaith yn y lle cyntaf a dw i o’r farn dyma’r ffordd ymlaen. Yn rhy aml, dyn ni’n disgwyl i’r disgyblion cynhyrchu iaith heb ddigon o fewnbwn a bydd hyn yn wir am unrhyw elfen iaith dan sylw. Hefyd, dw i’n cofio dysgu Almaeneg yn yr ysgol a gorfod mynd dros rhediad amseroedd y ferf ac roedd yn ddiflas tu hwnt ac yn aneffeithiol yn y pen draw. Felly, dydy cyflwyno tablau iaith a gofyn i’r disgyblion dysgu ar y cof ddim yn mynd i ddatrys y problem oherwydd byddan nhw ddim yn gallu dwyn i’r cof yn ddigon effeithiol mewn sefyllfa digymell (heblaw am ambell i athrylith) achos bydd yn ormod o straen meddyliol.

Yn rhan o’r peth hefyd ydy’r defnydd o iaith darged! Er mwyn ymateb mewn sefyllfa ddigymell, rhaid arfer â siarad yn naturiol at bwrpas yn gyson. Bydd dim modd codi hyder yn ddigonol heb lawer o siarad yn y dosbarth yn gyson tu hwnt i ddrilio a sgyrsiau bach i ail-adrodd patrymau.

I ddod i gasgliad cychwynnol am ymateb i’r drafft newydd a dechrau meddwl am gynllunio ffordd ymlaen, dw i’n cynnig y camau isod. Baswn i wrth fy modd trafod ymhellach a chyd-weithio gyda athrawon eraill os oes diddordeb?

  1. Torri’r gofynion iaith i lawr i elfennau dysgu ar ffurf ffwythiannol
  2. Cysidro’r meini prawf a dadansoddi
  3. Sicrhau llawer o ddarllen a gwrando i fwydo’r iaith 
  4. Defnyddio’r iaith darged yn gyson
  5. Cylchdroi unrhyw elfennau newydd wrth symud trwy’r elfennau iaith i gyd
  6. Ystyried y dulliau addysgu – pwrpas defnyddio’r dull a chysidro effeithiolrwydd

#dwincroesirllinellhud   

Advertisements

9 thoughts on “TGAU Cymraeg Ail-iaith – Y Ffordd Ymlaen (Rhan 1)

  1. Darllen diddorol Barri a rwyf a diddordeb mewn cydweithio a thrio datrys ein problemau ein hunain gan nad ydy’r bobl sy’n gwneud y penderfyniadau yma’n gwrando arnon ni!!! Mae sefyllfaoedd dysgu Cymraeg mor amwrywiol ac mor wahanol i brofiadau athrawon ieithoedd modern yn y DU ond mae fel bod pobl ddim yn sylweddoli neu eisiau sylweddoli bod profiad caffael Cymraeg plentyn mewn ysgol yng Ngwynedd yn wahanol i brofiad caffael Cymraeg plentyn mewn ysgol ym Mlaenau Gwent. Rydyn ni i gyd am i’r Gymraeg ffynuneu fyddwn ni ddim yn gwneud y swyddi yr ydym yn eu gwneud!!

    Hoffwyd gan 1 person

    1. Cytuno’n llwyr Sam a diolch am eich sylwadau. Bydd yn wych gallu cyd-weithio ar gynllunio ffordd ymlaen i ni. Yn anffodus dydy llwyth o ddeunyddiau gan CBAC neu bwy bynnag ddim yn mynd i ddod i afael a’r gwir sefyllfa. O lawr y dosbarth y mae’r ateb!

      Hoffi

  2. Cytuno fod llawer o waith paratoi a chefnogi er mwyn dechrau ar y gwaith tuag at yr arholiad newydd. Mae dy flog yn sicr yn crynhoi’n dda bod angen ystyried y ffordd ymlaen gan roi ffocws ar beth yn union sydd angen dysgu a phwysigrwydd yr addysgu.

    Hoffwyd gan 1 person

    1. Diolch yn fawr iawn am dy sylwadau a dw i’n cytuno bod rhaid i ni ffocysu ar yr hyn sy’n mynd i greu siaradwyr yn y pen draw ac efallai’n llai ar gofynion yr arholiad. Yn delfrydol, basen nhw’n golygu’r un peth! Rhaid bod llawer o or-gyffwrdd rhwng y ddau a dyna dw i am ddarganfod. O hyn gallem dechrau arbrofi ac arloesi gyda dulliau addysgu sy’n datblygu yr elfennau dan sylw. #ymlaen

      Hoffi

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s