Perfformiad neu Hyfedredd

pablo (1)

Wrth ystyried goblygiadau holiadur Cymwysterau Cymru am y TGAU Cymraeg Cyfrwng Saesneg a photensial dyfodiad y cwricwlwm newydd o 2018 ymlaen, mae tyndra enfawr yn bodoli rhwng y dyheadau gwahanol sy’n bwysig iawn i’w drafod.

Dyma beth dywed adroddiad yr Athro Donaldson am ein dyhead a chyfeiriad am Gymraeg Cyfrwng Saesneg:

‘Dylid hyrwyddo’r gwerth sy’n gysylltiedig â’r Gymraeg drwy ganolbwyntio i fwy o raddau ar ei gwerth masnachol yn y farchnad swyddi, y manteision gwybyddol o ddwyieithrwydd sydd wedi’u hawgrymu a’i phwysigrwydd o ran galluogi plant a phobl ifanc i gael dealltwriaeth dda o fywyd diwylliannol Cymru yn y gorffennol a’r presennol. Bydd pwyslais o’r newydd ar ddysgu Cymraeg yn bennaf fel dull o gyfathrebu, yn enwedig cyfathrebu a deall llafar. Bydd y defnydd o dechnoleg i helpu plant a phobl ifanc i ddysgu’r iaith yn cael ei ddatblygu ymhellach.’

‘Bydd cymwysterau iaith Gymraeg yn 16 oed yn cael eu hadolygu er mwyn sicrhau bod set o gymwysterau ar gael sy’n galluogi dysgwyr i symud ymlaen i astudio Cymraeg ar Safon Uwch ac yn y brifysgol. Bydd opsiwn hefyd i ddysgwyr ennill cymhwyster sy’n cyd-fynd â’r pwyslais arfaethedig ar siarad a gwrando a defnyddio’r iaith yn y gweithle.’

Heb amheuaeth gellir gweld bod ‘pwyslais o’r newydd ar ddysgu Cymraeg yn bennaf fel dull o gyfathrebu, yn enwedig cyfathrebu a deall llafar.’ Nawr, y cwestiwn mawr yw sut mae cyflawni hyn yn ein hysgolion ar lawr y dosbarth! Wrth ystyried y cynigion diweddar gan Cymwysterau Cymru am y TGAU newydd dw i wedi trafod ymamae’n amlwg i mi dydy’r TGAU yma ddim yn llwyddo i gyflawni’r dyhead na chyfeiriad yr Donaldson. Wrth ddarllen drwy gyfrif Trydar Cymwysterau Cymru a’i ymatebion i gonsyrns athrawon a rhanddeiliaid mae’n amwlg bod TGAU dros dro ydy hwn ac ymdrech i wella ar y cymwyster diffygiol Cymreag Ail-Iaith cyfredol. Ond i ba bwrpas?

Mae’r gofynion asesu yn mynd i achosi’r methodoleg ac addysgu ar lawr y dosbarth. Bydd y tasgau asesu a’r arholiadau yn lliwio cynllunio a gwaith yr athrawon er mwyn sicrhau’r safonau ‘disgwylieidig’. Wrth gynnig 50% o’r cwrs yn asesu di-arholiad (asesu dan rheolaeth!), bydd athrawon yn gweithio i gyfeiriad er mwyn sicrhau’r ‘perfformaid’ gorau yn y tasgau hynny. Os ydyn nhw’n debyg i’r tasgau cyfredol, prawf ar y cof sy gennym wedi paratoi o flaen llaw. O ran llafar, bydd ysgrifennu sgript a wedyn dysgu ar y cof. O ran ysgrifennu bydd draffio, ail-ddrafftio yn dilyn marcio a chywiro gan yr athro/awes a dysgu ar y cof. Dyma ydy’r methodoleg ‘perfformiad’ a dydy hyn ddim yn profi’r gallu i ‘gyfathrebu a deall llafar’ Ond y gwir ydy o achos y dulliau asesu, mae’r methodoleg addysgu yn datblygu. Onid hyn yw’r gwir broblem sy gennym nawr?

Peth da ydyw bod Cymwysterau Cymru yn edrych at Fframwaith Ieithoedd Ewrop fel ffordd o greu y continiwwm ieithyddol a gosod y Gymraeg ar cae gwastad gyda ieithoedd eraill. Yr unig gwir newid maen nhw’n cynnig. Nawr, dw i heb gael amser hyd yma i astudio’r dogfen cynhwysfawriawn yn fanwl a gellir ddod o hyd iddo yn yr holiadur ond dw i wedi edrych ar y datganiadau ‘Gallu gwneud…’ Yn y datganiadau gellir gweld bod gofyn i’r disgyblion ymateb i amrywiaeth o sefyllfaoedd yn ddigymell sy’n galw am hyfedredd yn hytrach na pherfformiad. A dyma ydy’r broblem a’r tyndra sy’n bodoli – perfformaid neu hyfedredd!

CEFR

Os ydyn ni wir am wireddu argymhellion adroddiad Donaldson, mae’n rhaid i ni ddod i afael â’r broblem a’r gwrthdaro yn y dynesiad at Cymreg Cyfrwng Saesneg.  Yn gyntaf, mae’n bwysig cysidro’n fanwl y math o asesu a thasgau asesu cawn yn y TGAU. Dylai’r tasgau sicrhau bod y disgyblion yn ymateb yn ‘ddigymell er mwyn rhyngweithio ag eraill’. Os felly, bydd rhaid i’r methodoleg sy’n arwain at hyn dilyn y dulliau hyfedredd Mewnbwn Dealladwy (CI) a AHDS (TPRS) – mwy yma. Hynny yw bydd angen i ni newid ein dulliau a methodoleg i’r cyfeiriad sy’n cefnogi hyfedredd a symud i ffwrdd o berfformiad fel prif nod ein gwaith pharhau i greu safonau ffug i fesur.

Amser a ddengys yn hyn oll ond mae’n hynod bwysig i ystyried dynesiad ein hysgolion er lles y disgyblion sy dan ein gofal. Creu siaradwyr neu creu perfformwyr? Creu siaradwyr neu creu cyfieithwyr? Siaradwyr sy’n well gen i ac adroddiad Donaldson! Nawr yw’r amser tyngedfennol!

Hoffwn drafod ymhellach, os oes awydd, felly gadewch sylwad.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s