Cymraeg Ail-iaith

banner1.jpg

Mae ‘Cymraeg Ail-iaith’ wedi marw! Heb amheuaeth, dydy’r menter ddim wedi llwyddo i greu Cymru dwyieithog hapus a bywiog. Dw i wedi ystyried y mater o’r blaen a wedi blogio yma ac yma. Serch hyn i gyd, mae rhywbeth wedi bod yn fy mhoeni am fisoedd wrth geisio dod i dylerau gyda’r sefyllfa presennol diffygiol.

Yn 2017, gwelwn gychwyn ar gwrs TGAU newydd. Dyn ni dal yn aros am y manylion ond mae’n go debyg bydd y safon disgwyliedig i gyrraedd y graddau uchaf yn codi unwaith eto. Bydd yr asesu yn symud i fod yn fwy debyg i ‘Iaith Gyntaf’ wrth i’r pwerau sy’n bod ceisio efelychu llwyddiant cyfrwng Cymraeg. Nid oes sicrwydd ond heb os nac oni bai bydd newidiadau heriol o’n blaenau.  Wrth gwrs, mae Adroddiad Donaldson yn cyfeirio at Gymraeg cyfathrebol a’r gallu i weithio drwy’r Gymraeg ac i bwysleisio’r manteision gyrfaol a masnachol yn ogystal a’r manteision gwybyddol.

Yn ddiweddar, dw i wedi bod yn ymestyn dros y cyfryngau cymdeithasol i geisio dod o hyd i wybodaeth am ddwyieithrwydd ac aml-ieithrwydd ar draws y byd. Yn rhyfedd iawn, mae’n amlwg bod ieithoedd yn beth mawr iawn mewn gwledydd eraill ac mae’r ffordd maen nhw’n mynd ati i ddatblygu’r ‘ail-iaith’ yn dra gwahanol i’r ffordd dyn ni’n cael ein hyfforddi a gorfodi i addysgu yn ein hystafelloedd dosbarth. Gwn fod problemau di-ri gyda’r systemau, amseri, cymhelliant, statws a rheoli lle mae Cymraeg ‘Ail-iaith’ yn y cwestiwn ond hoffwn codi nifer o bwyntiau eraill gan obeithio herio a dangos ffordd  amgen ymlaen sy’n golygu ail-feddwl yr holl beth.

Yr hyn sy gen i yn y bon ydy’r methodoleg a’r dulliau addysgu!  Heb orfod ymchwilio ymhell, mae yna tensiwn mawr yn bodoli rhwng dysgu a chaffael iaith.  Mae yna dulliau sy wedi bod yn dablygu ar draws y byd sy’n dangos ein bod ni fel athrawon ‘ail-iaith’ yng Nghymru yn anwybodus iawn ac yn bell tu ol i ddatblygiadau yn y maes a’r ymchwil ‘Caffael Ail-iaith’. Ewch i Gwgl a chwilio Comprehensible Input, TPRS, TL90Plus neu TPR a gwelwch chi bod addysgu iaith wedi datblygu a bod athrawon ar draws y byd yn addysgu yn defnyddio dulliau gwahanol ar sail ymchwil ac yn llwyddo lle dyn ni wedi methu. Ble mae’r fforwm i drafod y pethau yma? Pam dydy’r arbenigwyr ddim yn ein herio gyda’r dulliau yma? Pam dydy mwy o athrawon ‘ail-iaith’ ddim yn poeni am y sefyllfa presennol a chodi llais a dadl er mwyn herio’r gyfundrefn? Dw i’n teimlo fel bod pobl yn drwm eu glyw a does neb wir moyn dod i afael a’r sefyllfa na sicrhau y gorau i blant ein gwlad.

Wrth ddechrau ymchwilio ac arbrofi gyda dulliau newydd (methodoleg) dros y flwyddyn diwethaf, gan gynnwys TL90Plus, dw i wedi gweld newid sylweddol mewn agwedd a chyrhaeddiad fy nisgyblion (Iaith Targed) ac am flynyddoedd dw i wedi bod yn eu gadael i lawr oherwydd fy anwybodaeth a diffyg deallusrwydd a sgiliau. Ble mae’r arweinwyr pwnc? Ble mae’r cefnogaeth? Ble mae’r dadl? Ble mae’r herio? Y gwir ydy does dim gronnyn o ots gynnon ni o gwbl heblaw am barhau gyda’r ‘status quo’ a winjan am yr holl anhawsterau dyn ni’n gwynebu!

Wel! Dw i eisiau llwyddo! Dw i eisiau bod yn effeithiol fel athro a gweld fy nisgyblion yn codi’r iaith yn llwyddiannus. Hoffwn i weld fy nisgyblion yn gallu dal pen rheswm gyda’r disgyblion cyfrwng Cymraeg! Hoffwn i glywed fy nisgyblion yn defnyddio’r Gymraeg achos eu bod nhw’n gallu heb gorfodi nhw i wneud sy’n tanseilio’r cymhelliant a awydd i barthau ar y daith! Hoffwn i weld athrawon ‘ail-iaith’ yn dod at eu gilydd i ddatblygu dulliau sy’n effeithiol ar lawr y dosbarth. Ble mae’r chwyldro? Ydyn ni wir yn disgwyl i Gymwysterau Cymru i siarad gyda’r pobl ar lawr y dosbarth cyn gosod y newidiadau? Pa arbenigrwydd sy gyda nhw yn y mater? Mae’r ffordd dyn ni’n asesu’r pwnc yn arwain at sut dyn ni’n addysgu’r pwnc? A fydd Cymwysterau Cymru yn creu TGAU sy’n galluogi athrawon i weithredu er mwyn creu siaradwyr neu fel arall a chreu TGAU sy’n cadw’r iaith mewn bocs addysgiadol di-fywyd?

Wn i ddim am atebion i’r holl gwestiynau yma ond gwn i fod angen i athrawon ‘ail-iaith’ codi llais, ymchwilio a datblygu dulliau effeithiol er mwyn herio’r gyfundrefn neu dw i’n ofni yr unig peth y cawn ydy mwy o’r un peth wrth symud i’r dyfodol – sef methiant a hoelen arall yn yr arch!

Am fwy o wybodaeth am y dulliau dw i’n trafod yn y blognod –  cliciwch ar y llun isod:

#ymlaen #chwyldro

PhotoFunia-1448216626

Advertisements

6 thoughts on “Cymraeg Ail-iaith

  1. Blognod diddorol, heriol, ac, ar adegau, anghyffyrddus! Rwyt ti’n codi sawl pwynt anhygoel, Bazza!

    Pam ydyn ni wedi derbyn y sefyllfa fel y mae os nad ydym yn fodlon gyda hi? Pam nad oes mwy o athrawon yn adrodd am eu profion gyda mewnbwn dealladwy, TRPS ayyb?

    Tybed a yw athrawon yn meddwl eu bod ar eu colled ac y tu ôl i’r cyfnod pan ddaw i fethedolegau, dulliau addysgu iaith sy’n seiliedig ar yr ymchwil ddiweddaraf?

    Sawl siaradwr ydyn ni wedi’i GREU gyda’r dulliau CYFREDOL sy’n gallu dilyn sgwrs Gymraeg? Ydy’r unfed awr ar ddeg wedi cyrraedd eto?

    Un peth hoffwn i weld yw cysoniad gyda Fframwaith Ieithoedd Ewropeaidd fel ein bod ar lefelau cyfartal ag Ewrop!

    Hoffwyd gan 1 person

    1. Diolch am dy sylwadau. Dw i ddim yn ymwybodol o unrhyw athrawon sy’n defnyddio dulliau Mewnbwn Dealladwy neu TPRS. Dw i’n newydd i’r dulliau fy hunan ond roedd yn hawdd iawn i ddod o hyd i’r ymchwil SLA a dyna sy wedi tanio fi i ysgrifennu’r blog yn y lle cyntaf achos mae’n amlwg erbyn hyn does dim llawer o syniadau o gwbwl am sut i ddatrys y sefyllfa. Rhaid i mi gytuno’n llwyr gyda ti ynglyn a’r Fframwaith Ieithoedd. Dylai’r TGAU newydd dilyn y fframwaith o ran safonau. Dyna ydy’r llinyn mesur synhwyrol ac yn rhoi’r Gymraeg yn y cyd-destun cywir sef un o ieithoedd Ewrop. Ai dyma ydy’r continiwm dyn ni angen mewn gwirionedd?

      Hoffi

      1. Ochr arall i’r dadl wrth gwrs yw bod diffyg gweledigaeth neu arweiniad ac mae hynny’n golygu bod rhaid i ni fel corff o athrawon arwain. Ai diffyg syniadau neu arbenigrwydd yw’r broblem neu diffyg gweledigaeth o ran Cymraeg Cyfrwng Saesneg? Yr hyn sy’n ein gwynebu ydy disgwyliadau uchel heb fwy o amser o fewn cwricwlwm; sy’n mynd i fod yn llawn dop gyda llyth a rhif newydd – sy’n amherthnasol i ni ar hyn o bryd – a’r Bag. Dim statws i’r pwnc ac athrawon sy’n ddi-hyder sy’n ofni lleisio barn neu’n llawn apathi a ddim yn hidio dim. Mae’r ‘status quo’ a’r tawelwch yn golygu cawn rhywbeth is-raddol eto sy dal ddim yn dod i afael a’r broblem – sef sut i greu siaradwyr. Dydy A* ddim yn golygu gall yr unigolyn cyfathrebu yn y Gymraeg!

        Hoffi

  2. Mae pob dim yn seilio ar dull dysgu effeithiol. Sai’n meddwl dy fod wedi gadael plant lawr ond rwyt yn mireinio’r dy ddysgu er mwyn gwella addysgu disgyblion. Hyn yw’r Allwedd at athro rhagorol.

    Hoffwyd gan 1 person

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s