Rhaglen Athrawon Ardderchog – Sesiwn 6

pablo (1)

Heddiw oedd y chweched sesiwn o Rhaglen Athrawon Ardderchog yn Ysgol Uwchradd Caerdydd. Gellir darllen am y lleill yma.

Dechreuodd y sesiwn yn gwneud ar amrywiaeth o dasgau mewn grwpiau. Rhoddwyd gair i ni yn berthnasol i ddysgu ac addysgu. Cafodd fy ngrwp i ASESU.  Wedyn, cawsom dri dasg i gyflawni:

1: Gwnewch rhestr o eiriau yn ymwneud â’r gair.

2: Ysgrifenwch cwestiwn cryptig am y gair.

3: Creu limerig neu rap am y gair.

Yn dilyn hyn, gofynwyd i ni gynhyrchu faint bynnag o gwestiynau amrhwyiol gallen ni feddwl amdanyn nhw mewn munud ar bost its. Ar ôl hyn, roedd rhaid i ni fel grwp ceisio dosbarthu’r cwestiynau yn dilyn rhyw system.

Pwrpas y gweithgareddau oedd i arwain i mewn i drafodaeth am dacsonomeg Bloom a cheisio datblygu’r ffordd dyn ni’n feddwl am lefelau gwestiynu a gweithgareddau. Roedd y tri thasg gyntaf wedi eu llunio at lefelau gwahanol, sef:

1: Lefel syml – creu rhestr sy’n ymwneud â phethau am asesu.

2: Lefel canolig – egluro beth ydy asesu ond heb ddweud yn union. Mae elfen creadigol i’r dasg hefyd wrth gwrs a mwy nag un ateb posib.

3: Lefel uwch – task agored – creu rhywbeth.

A bod yn onest, mae hyn wedi fy herio i feddwl am y math o dasgau dw i’n rhoi i’r disgyblion.

Blooms

Mae dau fersiwn o Dacsonomeg Bloom a dyma ydy’r fersiwn newydd uchod.  Doedd y tacsonomeg ddim wedi ei greu am addysg ond heb os mae bron pawb ym myd addysg yn sôn amdano rhywbryd. Neges pwysig y drafodaeth oedd nid rhestr gwirio mohoni ond teclyn defnyddiol i gwerthuso ein cwestiynau a gweithgareddau mewn gwers.  Hefyd, does dim byd i elwa trwy geisio creu tasgau sy’n ffitio yn union i mewn i bob lefel. Yn hytrach, dyma ffordd i ystyried ydyn ni’n ymestyn ein gwaith ac mae’n wir bod tasgau yn gallu ffitio i mewn i sawl catagori ar yr un pryd.

Agwedd arall daeth allan o’r drafodaeth oedd pwysigrwydd sicrhau meistrolaeth dros amser. Dydy hyn ddim yn bosib heb sicrhau sylfaen da yn y cofio, deall a chymhwyso cyn gallu dadansoddi, gwerthuso neu creu ac felly mae pob lefel yn bwysig iawn wrth ystyried y cyfleoedd o fewn tasg. Mae’r broses yn ein gorfodi i feddwl am y rhesymeg tu ôl i’r dasg yn ogystal â’r sgiliau neu gwybodaeth hoffen ni i’r disgyblion arddangos. Enghraifft o’r drafodaeth oedd pan mae disgybl yn gorffen tasg o un fath ac yn gofyn am fwy o waith, ein tuedd yw i roi enghraifft arall o’r un math o dasg. Onid yw’r well i ymestyn y disgybl trwy gosod tasg ar lefel uwch y tacsonomeg er mwyn dyfnhau’r dysgu?

Ar ôl coffi, aethon ni mewn grwpiau ar daith addysgu. Aethom i weld 3 gwers gwahanol am 15 munud i edrych ar gwahanol agweddau o safbwynt DR ICE (Gwelir sesiwn 1) Dyma oedd y tro cyntaf i mi wneud y fath ymarfer yn y ffordd yma a dw i’n ddiolchgar iawn i’r athrawon oedd yn bodlon i’n derbyn.  Ar ôl yr ymarfer aethom ni nôl i drafod yr hyn gwelon ni.  Daeth tri peth allan o’r ymarfer dw i wedi cymryd i ffwrdd fel pwyntiau datblygu i fi fy hun.

  • Pwysigrwydd cychwyn da ac eiffeithiol i wers – dydw i ddim yn rhoi digon o sylw i’r agwedd yma bod gwaith bwrdd, tasg cychwyn neu tasg setlo. Dyma ydy’r bachyn hanfodol ac mae cychwyn da a thynnu’r disgyblion i mewn i’r wers yn rhywbeth hoffwn wneud yn well.
  • Pwysigrwydd amser i feddwl a prosesu – gan fy mod yn arbrofi gyda dulliau trochi a iaith darged, mae hyn yn bwysicach fyth i mi achos bod y disgyblion angen mwy o amser i brosesu’r gwybodaeth. Yn anffodus, dw i’n euog iawn o neidio mewn gyda ateb ac arwain y disgyblion yn ormodol achos mae’r tawelwch yn anghyfforddus. Mae datblygu dulliau ymateb i gwestiynau wrth fy ymarfer bob dydd yn hanfodol i sicrhau bod pawb yn cael cyfle i feddwl, prosesu a datblygu atebion. Hefyd, cododd y ffaith fy mod i efallai yn tueddu mynd nôl at yr un bobl i ymateb achos dw i’n hyderus ei bod nhw’n gwybod yr ateb ac yn symud y wers ymlaen.
  • Siarad athro – wrth gwrs bod angen egluro, esbonio ac atgoffa yn gyson mewn gwers ond gwnaeth y daith addysgu fy herio gyda faint o siarad dw i’n gwneud o fewn gwers. Ydw i’n treulio digon o amser yn gysidro o flaen llaw sut y bydda i’n egluro tasg. Oes modd i mi torri lawr ar fy siarad yn fwy i roi mwy o le i’r disgyblion cyfrannu. Y gwir ydy fy mod i yn tueddu gor esbonio pethau a gor siarad o fewn gwersi ac mae hyn yn gallu bod yn negyddol o ran yr awyrgylch a chyfraniad y disgyblion.

Am y rhan olaf o’r dydd, cawsom nifer o gyflwyniadau gan grwpiau yn dilyn defnyddio DR ICE fel model i gynllunio, arsylwi a rhoi adborth am wersi.  Yn dilyn hyn, dw i wedi penderfynnu creu y daflenni canlynol fel Ffurflen Cynllunio a Ffurlen Arsylwi sy’n gwaith ar waith.

Taflen Cynllunio

Taflen Arsylwi

Roedd y sesiwn heddiw yn un defnyddiol iawn eto a dw i’n edrych ymlaen at gau pen y mwdwl yn y sesiwn nesaf.

 

Advertisements

One thought on “Rhaglen Athrawon Ardderchog – Sesiwn 6

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s