Cymraeg Ail-iaith

banner1.jpg

Mae ‘Cymraeg Ail-iaith’ wedi marw! Heb amheuaeth, dydy’r menter ddim wedi llwyddo i greu Cymru dwyieithog hapus a bywiog. Dw i wedi ystyried y mater o’r blaen a wedi blogio yma ac yma. Serch hyn i gyd, mae rhywbeth wedi bod yn fy mhoeni am fisoedd wrth geisio dod i dylerau gyda’r sefyllfa presennol diffygiol.

Yn 2017, gwelwn gychwyn ar gwrs TGAU newydd. Dyn ni dal yn aros am y manylion ond mae’n go debyg bydd y safon disgwyliedig i gyrraedd y graddau uchaf yn codi unwaith eto. Bydd yr asesu yn symud i fod yn fwy debyg i ‘Iaith Gyntaf’ wrth i’r pwerau sy’n bod ceisio efelychu llwyddiant cyfrwng Cymraeg. Nid oes sicrwydd ond heb os nac oni bai bydd newidiadau heriol o’n blaenau.  Wrth gwrs, mae Adroddiad Donaldson yn cyfeirio at Gymraeg cyfathrebol a’r gallu i weithio drwy’r Gymraeg ac i bwysleisio’r manteision gyrfaol a masnachol yn ogystal a’r manteision gwybyddol.

Yn ddiweddar, dw i wedi bod yn ymestyn dros y cyfryngau cymdeithasol i geisio dod o hyd i wybodaeth am ddwyieithrwydd ac aml-ieithrwydd ar draws y byd. Yn rhyfedd iawn, mae’n amlwg bod ieithoedd yn beth mawr iawn mewn gwledydd eraill ac mae’r ffordd maen nhw’n mynd ati i ddatblygu’r ‘ail-iaith’ yn dra gwahanol i’r ffordd dyn ni’n cael ein hyfforddi a gorfodi i addysgu yn ein hystafelloedd dosbarth. Gwn fod problemau di-ri gyda’r systemau, amseri, cymhelliant, statws a rheoli lle mae Cymraeg ‘Ail-iaith’ yn y cwestiwn ond hoffwn codi nifer o bwyntiau eraill gan obeithio herio a dangos ffordd  amgen ymlaen sy’n golygu ail-feddwl yr holl beth.

Yr hyn sy gen i yn y bon ydy’r methodoleg a’r dulliau addysgu!  Heb orfod ymchwilio ymhell, mae yna tensiwn mawr yn bodoli rhwng dysgu a chaffael iaith.  Mae yna dulliau sy wedi bod yn dablygu ar draws y byd sy’n dangos ein bod ni fel athrawon ‘ail-iaith’ yng Nghymru yn anwybodus iawn ac yn bell tu ol i ddatblygiadau yn y maes a’r ymchwil ‘Caffael Ail-iaith’. Ewch i Gwgl a chwilio Comprehensible Input, TPRS, TL90Plus neu TPR a gwelwch chi bod addysgu iaith wedi datblygu a bod athrawon ar draws y byd yn addysgu yn defnyddio dulliau gwahanol ar sail ymchwil ac yn llwyddo lle dyn ni wedi methu. Ble mae’r fforwm i drafod y pethau yma? Pam dydy’r arbenigwyr ddim yn ein herio gyda’r dulliau yma? Pam dydy mwy o athrawon ‘ail-iaith’ ddim yn poeni am y sefyllfa presennol a chodi llais a dadl er mwyn herio’r gyfundrefn? Dw i’n teimlo fel bod pobl yn drwm eu glyw a does neb wir moyn dod i afael a’r sefyllfa na sicrhau y gorau i blant ein gwlad.

Wrth ddechrau ymchwilio ac arbrofi gyda dulliau newydd (methodoleg) dros y flwyddyn diwethaf, gan gynnwys TL90Plus, dw i wedi gweld newid sylweddol mewn agwedd a chyrhaeddiad fy nisgyblion (Iaith Targed) ac am flynyddoedd dw i wedi bod yn eu gadael i lawr oherwydd fy anwybodaeth a diffyg deallusrwydd a sgiliau. Ble mae’r arweinwyr pwnc? Ble mae’r cefnogaeth? Ble mae’r dadl? Ble mae’r herio? Y gwir ydy does dim gronnyn o ots gynnon ni o gwbl heblaw am barhau gyda’r ‘status quo’ a winjan am yr holl anhawsterau dyn ni’n gwynebu!

Wel! Dw i eisiau llwyddo! Dw i eisiau bod yn effeithiol fel athro a gweld fy nisgyblion yn codi’r iaith yn llwyddiannus. Hoffwn i weld fy nisgyblion yn gallu dal pen rheswm gyda’r disgyblion cyfrwng Cymraeg! Hoffwn i glywed fy nisgyblion yn defnyddio’r Gymraeg achos eu bod nhw’n gallu heb gorfodi nhw i wneud sy’n tanseilio’r cymhelliant a awydd i barthau ar y daith! Hoffwn i weld athrawon ‘ail-iaith’ yn dod at eu gilydd i ddatblygu dulliau sy’n effeithiol ar lawr y dosbarth. Ble mae’r chwyldro? Ydyn ni wir yn disgwyl i Gymwysterau Cymru i siarad gyda’r pobl ar lawr y dosbarth cyn gosod y newidiadau? Pa arbenigrwydd sy gyda nhw yn y mater? Mae’r ffordd dyn ni’n asesu’r pwnc yn arwain at sut dyn ni’n addysgu’r pwnc? A fydd Cymwysterau Cymru yn creu TGAU sy’n galluogi athrawon i weithredu er mwyn creu siaradwyr neu fel arall a chreu TGAU sy’n cadw’r iaith mewn bocs addysgiadol di-fywyd?

Wn i ddim am atebion i’r holl gwestiynau yma ond gwn i fod angen i athrawon ‘ail-iaith’ codi llais, ymchwilio a datblygu dulliau effeithiol er mwyn herio’r gyfundrefn neu dw i’n ofni yr unig peth y cawn ydy mwy o’r un peth wrth symud i’r dyfodol – sef methiant a hoelen arall yn yr arch!

Am fwy o wybodaeth am y dulliau dw i’n trafod yn y blognod –  cliciwch ar y llun isod:

#ymlaen #chwyldro

PhotoFunia-1448216626

Advertisements

Rhaglen Athrawon Rhagorol – Sesiwn 7

pablo (1)

Heddiw, ces i’r fraint o fanychu’r sesiwn olaf o Rhaglen Athrawon Ardderchog yn Ysgol Uwchradd Caerdydd. Gellir ddod o hyd i’r sesiynau blaenorol yma.

Ffocws y sesiwn yma oedd i dynnu popeth ynghyd. Cawsom ein herio i gynllunio ac addysgu gwers ugain munud i ddosbarth blwyddyn saith yn yr ysgol. Roedd yn her am lawer o resymau ond yn bleser ac yn anrhydedd i gael cyd-addysgu dosbarth o blant anghyfarwydd.  Yn ogystal, roedd 14 o aelodau’r cwrs hefyd yn arsylwi a chafodd pawb cyfle i arsylwi pawb arall.

Aethon ni yn gyntaf ac mae’n deg i ddweud, roedd yn brofiad newydd ond yn ddefnyddiol. Yn dilyn hyn, cawsom ni gyfle i dderbyn adborth gan y trefnwyr ac aelodau’r cwrs.Rhaid i mi gyfaddau, roedd yn hyfforddiant ardderchog ac roedd yn bleser arsylwi ar gyfres o dasgau agoriadol, cwestiynnu crefftus, gweithgareddau clou a nifer o syniadau arbennig. Yn amlwg i mi oedd y ffaith bod pawb wedi cynllunio wrth ddefnydio DRICE, sef y model dechreuodd y cwrs yn trafod. Heb os nac oni bai, roedd canolbwyntio ar yr elfennau a datblygu cynlluniau yn defnyddio’r egwyddorion wedi arwain at effaith positif yn y gwersi byrion. Roedd ymatebion y disgyblion yn rhagorol ymhob sesiwn a llawer o bethau i ystyried wrth fynd nol at y trafod.

  1. Mae cwestiynu crefftus yn llwyddo i ddyfnhau meddwl a’r dysgu. Mae’n sgil hanfodol i ddatblygu wrth ein hymarfer. Gellir gwahanieithu, arwain, agor, mynegi barn, herio, cefnogi a llawer mwy ac mae athrawon rhagorol yn hyderus wrth ddefnyddio’r gwahanol technegau. Mae’n gallu ychwanegu ar yr amrwymiad a sicrhau effaith positif ar gynnydd. Agwedd pwydig arall ydy amser aros neu rhoi cyfle i feddwl a phrosesu cyn derbyn ymateb
  2. Mae agoriad gwers yn hynod bwysig ar sawl lefel. Mae’n gosod yr ethos am weddill y gwers ac yn sicrhau ymrwymiad y disgyblion. Mae’n bwysig bod y dasg yn ychwanegu at cynnwys neu sgiliau yn y wers honno i fod yn effeithiol i dynnu’r disgyblion i mewn i’r wers.  Roedd arsylwi ar yr athrawon cynradd yn defnyddio technegau ‘cynradd’ yn yr agwedd hon yn agoriad llygaid. Un enghriafft oedd ‘bocs dirgelwch’. Cafodd y disgyblion cyfle i ddyfalu beth oedd yn y bocs i ddechrau ac roedd gwir cynnwrf ynddynt wrth ymateb. Yna, darllenodd yr athrawes hanes y bocs – o le ddaeth y bocs a beth oedd ynddi – sef llaw. Pan agorwyd y bocs gan disgybl – llaw o fananas oedd yn y bocs a symudodd y wers ymlaen i drafod masnach deg. Roedd hyn wedi sicrhau ymrwymiad y disgyblion mewn ffordd arbennig o dda a wedi fy herio i ail-ystyried faint o ddirgelwch a chyffro dw i’n ceisio gwau i mewn i gychwyn gwers neu uned newydd o waith.  Mae llawer o botensial ac mae’n hynod bwysig. Mae athrawon rhagorol yn sicrhau bod agoriad gwers yn effeithiol.
  3. Roedd enghreifftiau di-ri o fodelu craff yn y gwersi. Enghreifftio ac ail-strwythuro gan defnyddio iaith a mynegiant i arddangos yr hyn a disgwylir.  Wrth gwrs, gyda’r amser a’r amgylchiadau, doedd dim cyfle i wir ymestyn ar gynnwys na datblygu gweithgaredd ymestynol, ond ymhob wers, roedd elfen o arddangos, asesu, gwella a datblygu i rhyw raddau ac yn bendant, roedd hyn yn ymestyn y disgyblion yn eu gwaith, meddwl ac ymatebion.  Roedd elfen o rhoi clod am ateb da neu diddorol ac wedyn egluro neu darganfod pam a threiddio mwy i fodelu yr hyn a disgwylir. Mae athrawon rhagorol yn sicrhau bod modelu ymhob wers ac ar bob cyfle.

Wrth dynnu popeth ynghyd yn y modd yma, roedd gweddill y sesiwn yn gyfle i ni myfyrio dros y cwrs a chynllunio ymlaen i beth ydyn ni’n mynd i wneud nesaf i ddatblygu ein hymarfer. Felly hoffwn i glou pen y mwdwl wrth rhannu fy meddyliau am y cwrs.

Doedd y cwrs ddim yn union fel on i wedi disgwyl ac yn llawer gwell na’r rhan fwyaf o hyfforddiant dw i wedi derbyn dros y blynyddoedd.  Doedd dim pregethu, llawer o drafod, agweddau ymarferol a digon o le i myfyrio dros beth yn union sy’n gwneud addysgu rhagorol ac roedd hyn yn rhywbeth ffresi i mi yn bersonol. Mae’r cwrs wedi cadarnhau bod llawer o’r pethau dw i wedi meddwl a gwneud yn reddfol dros y blynyddoedd yn dda ac yn gywir. Hefyd, mae yna agweddau dw i ddim wedi canolbwyntio ar ddatblygu megis agoriad gwers ac ymestyn fy nulliau cwestiynnu. Y prif neges i mi ydy hyn – y peth pwysicaf ydy i ystyried effaith popeth dw i’n gwneud. Nid y strategaeth ei hun sy’n bwysig ond effaith y strategaeth – pa effaith mae’r gweithgarwch a methodoleg yn sicrhau effaith ar gynnydd y disgybl. Agwedd arall hynod bwysig i mi ydy’r pwysigrwydd trafodaeth proffesiynol gyda eraill a rhannu syniadau a phrofiad. Fel mae OLEVI yn pwysleisio – mae’r arbenigrwydd i gyd yn yr ystafell. Defnyddio fe’n gyson.

 

Rhaglen Athrawon Ardderchog – Sesiwn 6

pablo (1)

Heddiw oedd y chweched sesiwn o Rhaglen Athrawon Ardderchog yn Ysgol Uwchradd Caerdydd. Gellir darllen am y lleill yma.

Dechreuodd y sesiwn yn gwneud ar amrywiaeth o dasgau mewn grwpiau. Rhoddwyd gair i ni yn berthnasol i ddysgu ac addysgu. Cafodd fy ngrwp i ASESU.  Wedyn, cawsom dri dasg i gyflawni:

1: Gwnewch rhestr o eiriau yn ymwneud â’r gair.

2: Ysgrifenwch cwestiwn cryptig am y gair.

3: Creu limerig neu rap am y gair.

Yn dilyn hyn, gofynwyd i ni gynhyrchu faint bynnag o gwestiynau amrhwyiol gallen ni feddwl amdanyn nhw mewn munud ar bost its. Ar ôl hyn, roedd rhaid i ni fel grwp ceisio dosbarthu’r cwestiynau yn dilyn rhyw system.

Pwrpas y gweithgareddau oedd i arwain i mewn i drafodaeth am dacsonomeg Bloom a cheisio datblygu’r ffordd dyn ni’n feddwl am lefelau gwestiynu a gweithgareddau. Roedd y tri thasg gyntaf wedi eu llunio at lefelau gwahanol, sef:

1: Lefel syml – creu rhestr sy’n ymwneud â phethau am asesu.

2: Lefel canolig – egluro beth ydy asesu ond heb ddweud yn union. Mae elfen creadigol i’r dasg hefyd wrth gwrs a mwy nag un ateb posib.

3: Lefel uwch – task agored – creu rhywbeth.

A bod yn onest, mae hyn wedi fy herio i feddwl am y math o dasgau dw i’n rhoi i’r disgyblion.

Blooms

Mae dau fersiwn o Dacsonomeg Bloom a dyma ydy’r fersiwn newydd uchod.  Doedd y tacsonomeg ddim wedi ei greu am addysg ond heb os mae bron pawb ym myd addysg yn sôn amdano rhywbryd. Neges pwysig y drafodaeth oedd nid rhestr gwirio mohoni ond teclyn defnyddiol i gwerthuso ein cwestiynau a gweithgareddau mewn gwers.  Hefyd, does dim byd i elwa trwy geisio creu tasgau sy’n ffitio yn union i mewn i bob lefel. Yn hytrach, dyma ffordd i ystyried ydyn ni’n ymestyn ein gwaith ac mae’n wir bod tasgau yn gallu ffitio i mewn i sawl catagori ar yr un pryd.

Agwedd arall daeth allan o’r drafodaeth oedd pwysigrwydd sicrhau meistrolaeth dros amser. Dydy hyn ddim yn bosib heb sicrhau sylfaen da yn y cofio, deall a chymhwyso cyn gallu dadansoddi, gwerthuso neu creu ac felly mae pob lefel yn bwysig iawn wrth ystyried y cyfleoedd o fewn tasg. Mae’r broses yn ein gorfodi i feddwl am y rhesymeg tu ôl i’r dasg yn ogystal â’r sgiliau neu gwybodaeth hoffen ni i’r disgyblion arddangos. Enghraifft o’r drafodaeth oedd pan mae disgybl yn gorffen tasg o un fath ac yn gofyn am fwy o waith, ein tuedd yw i roi enghraifft arall o’r un math o dasg. Onid yw’r well i ymestyn y disgybl trwy gosod tasg ar lefel uwch y tacsonomeg er mwyn dyfnhau’r dysgu?

Ar ôl coffi, aethon ni mewn grwpiau ar daith addysgu. Aethom i weld 3 gwers gwahanol am 15 munud i edrych ar gwahanol agweddau o safbwynt DR ICE (Gwelir sesiwn 1) Dyma oedd y tro cyntaf i mi wneud y fath ymarfer yn y ffordd yma a dw i’n ddiolchgar iawn i’r athrawon oedd yn bodlon i’n derbyn.  Ar ôl yr ymarfer aethom ni nôl i drafod yr hyn gwelon ni.  Daeth tri peth allan o’r ymarfer dw i wedi cymryd i ffwrdd fel pwyntiau datblygu i fi fy hun.

  • Pwysigrwydd cychwyn da ac eiffeithiol i wers – dydw i ddim yn rhoi digon o sylw i’r agwedd yma bod gwaith bwrdd, tasg cychwyn neu tasg setlo. Dyma ydy’r bachyn hanfodol ac mae cychwyn da a thynnu’r disgyblion i mewn i’r wers yn rhywbeth hoffwn wneud yn well.
  • Pwysigrwydd amser i feddwl a prosesu – gan fy mod yn arbrofi gyda dulliau trochi a iaith darged, mae hyn yn bwysicach fyth i mi achos bod y disgyblion angen mwy o amser i brosesu’r gwybodaeth. Yn anffodus, dw i’n euog iawn o neidio mewn gyda ateb ac arwain y disgyblion yn ormodol achos mae’r tawelwch yn anghyfforddus. Mae datblygu dulliau ymateb i gwestiynau wrth fy ymarfer bob dydd yn hanfodol i sicrhau bod pawb yn cael cyfle i feddwl, prosesu a datblygu atebion. Hefyd, cododd y ffaith fy mod i efallai yn tueddu mynd nôl at yr un bobl i ymateb achos dw i’n hyderus ei bod nhw’n gwybod yr ateb ac yn symud y wers ymlaen.
  • Siarad athro – wrth gwrs bod angen egluro, esbonio ac atgoffa yn gyson mewn gwers ond gwnaeth y daith addysgu fy herio gyda faint o siarad dw i’n gwneud o fewn gwers. Ydw i’n treulio digon o amser yn gysidro o flaen llaw sut y bydda i’n egluro tasg. Oes modd i mi torri lawr ar fy siarad yn fwy i roi mwy o le i’r disgyblion cyfrannu. Y gwir ydy fy mod i yn tueddu gor esbonio pethau a gor siarad o fewn gwersi ac mae hyn yn gallu bod yn negyddol o ran yr awyrgylch a chyfraniad y disgyblion.

Am y rhan olaf o’r dydd, cawsom nifer o gyflwyniadau gan grwpiau yn dilyn defnyddio DR ICE fel model i gynllunio, arsylwi a rhoi adborth am wersi.  Yn dilyn hyn, dw i wedi penderfynnu creu y daflenni canlynol fel Ffurflen Cynllunio a Ffurlen Arsylwi sy’n gwaith ar waith.

Taflen Cynllunio

Taflen Arsylwi

Roedd y sesiwn heddiw yn un defnyddiol iawn eto a dw i’n edrych ymlaen at gau pen y mwdwl yn y sesiwn nesaf.

 

School supplies reading

TCI – Engrhaifft Sbaeneg gyda tasg.

Maris Hawkins

Loose Leaf Paper by nexxuz - Simple piece of loose leaf paper

I wrote the following short story about school supplies.  It also contains a conversation with a store clerk.  My students seemed to enjoy it!  It also has an activity at the end for them to complete.

Alberto tiene que comprar sus materiales escolares.  Tiene muchas clases.  Tiene la clase de inglés, español, matemáticas, ciencias, arte e historia.  Tiene que comprar 130 lápices.  También tiene que comprar 39 bolígrafos.  Necesita 10 cuadernos y una computadora.  Necesita 104934 hojas de papel.  Tiene que comprar 504 marcadores y 5 gomas.  Necesita 600 libros.  También necesita una mochila grande para todos sus materiales escolares.

Va a la papelería.  La papelería se llama Office Max.  En la papelería, no hay empleados.  Alberto tiene 130 lápices, 39 bolígrafos, 10 cuadernos, una computadora, 104934 hojas de papel, 504 marcadores, 5 gomas, 600 libros y una mochila grande.  Va a la caja.  Busca un empleado.  No hay empleado. …

View original post 142 yn rhagor o eiriau

Mafia: The TCI game of all games

TCI

The Comprehensible Classroom

I cannot believe that I have never blogged about this game before. I have a tendency to exaggerate, but I really don’t think that I am exaggerating when I say that this is the MOST beneficial, MOST engaging, and MOST awesome game that a TPRS®/CI teacher can play. Don’t believe me? Haters gonna hate….but I think you’ll agree when you give it a try.

The name of the game? Mafia.

It is quite likely that you have played this game in days gone by. And it is quite likely that you, like me, LOVE this game. I don’t think I have ever met someone that doesn’t love this game. When I lived in Mexico, the other interns and I would play this game for hours at night–sometimes crawling into bed just an hour or two before our alarms started ringing for 4:00am prayer. It was our favorite, favorite, favorite pastime.

If…

View original post 2,264 yn rhagor o eiriau

How do we learn?

Trafod dulliau dysgu ac addysgu.

rjc7's Blog

http://www.theguardian.com/teacher-network/2016/feb/24/four-neuromyths-still-prevalent-in-schools-debunked

The above article has challenged a train of thought that was at its height towards the end of the nineties. It became very important to realise that pupils learn in different ways, Visual, Auditory and Kinesthetic. I remember having to plan by using VAK and identifying the specific teaching style that I was going to use. Basically the article states,

This myth states that students will learn more if they are taught in a way that matches their preferred style.”

image

I discovered this image on the web, no name was attached, but it effectively describes what I was taught about visual learners.
Basically a visual learner would make annotated notes and respond when being taught by using a graph, cartoon, diagram etc. Concept cartoons was an excellent means of introducing a Science experiment but was it because of the visual aspect or simply the fact it was…

View original post 686 yn rhagor o eiriau

Rhaglen Athrawon Rhagorol – Sesiwn 5

pablo (1)

Dyma oedd ail-sesiwn Pŵer Annog a gellir darllen am y cyntaf yma.

Dechreuodd y diwrnod yn siarad am brif-negeseuon y sesiwn diwethaf yng nghyd-destun annog:

  • dylai’r annog cael ei arwain gan yr unigolyn ac nid yr annogwr/wraig
  • rhaid cael ymddiried cilyddol
  • datblygu deialog
  • materion proffesiynol
  • cytundeb ar drefn pob dim
  • datblygiad ar y dyd-destun
  • cefnogi’r unigolyn i ddod o hyd i’r atebion neu gwahanol ffyrdd i ddatrys y pwyntiau dan sylw
  • annogaeth
  • rhannu
  • geirwir ar bob lefel
  • onest a phwrpasol
  • cyfrinachedd

Yn dilyn hyn, cawson ni gyfle i ymestyn ein deallusrwydd drwy drafod a chysidro disgwyliadau o safbwyntiau gwahanol yr unigolyn a’r annogwr/wraig.

Gwrando i ddysgu + Ymateb i herio = Annog Effeithiol

  Gwrando i ddysgu Ymateb i herio
Unigolyn ·     gwrando ar gwestiynau a cheisio deall y bwriad

·     gwrando amhleidiol

·     peidio bod yn amddiffynol

·     disgwyl cael eich meddwl a syniadau wedi ei herio

·     disgwyl cwestiynau sy’n arwain at ffocws gwahanol neu newydd

Annogwr/wraig ·     gwrando i ddeall a holi cwestiynau i ddod o hyd i wir ystyr geiriau’r unigolyn a cheisio dod i afael a’r hyn hoffent ddweud neu fyfyrio

·     gwrando amhleidiol

·     gwrando am y cyd-destun

·     arwain a newid ffocws os oes angen

·     derbyn a chroeso tawelwch a gofod

·     cwestiynu i gloywi safbwynt yn ogystal a herio meddylfryd

·     bydd yn ymwybodol o credoau cyfyngedig

Nesaf, cymeron ni amser i ystyried rheoli’r broses a chysidro’r gwahaniaeth rhwng annogwr/wraig hyderus ac anhyderus yn defnyddio model CGFf (Gwelir isod). Roedd y drafodaeth yma’n un ddiddorol iawn o’m safbwynt i achos daeth yn amlwg unwaith eto’r bwlch enfawr sy’n bodoli rhwng gwir ystyr ANNOG datblygiad proffesiynol a phrosesau mwy thebyg i FENTORA a chymhwysedd sy’n cael eu dilyn pan mae diffygion neu ffaeleddau yn ymarfer athrawon.. Yn amlwg, mae annog yn rhywbeth cefnogol a phositif iawn dan amodau sy’n cefnogi a diolgelu’r unigolyn; ac mae hyn wedi f’arwain i feddwl – Sawl ysgol sy wir yn buddsoddi mewn lles a datblygiad proffesiynaol athrawon unigol yn lle gorfodi newid ein hymarfer trwy brosesau negyddol a cosbol? Pa fath o ddatblygiad proffesiynol sy’n mynd i elwa’r disgyblion a’r ysgol mwyaf?

Model CGFf (Best Way Forward)

C=Corff amgylchedd

lleoliad

sefyllfa

iaith y corff

safle eistedd

G = Geiriau iaith

tôn y llais

mynegiant

gloywi

FF = Ffocws cyswllt llygaid

sylw

cynnwys

Wrth ystyried y pwyntiau’r model, mae’n amlwg bod y pethau yma’n gallu effeithio’n bositif neu’n negyddol ar y broses annog ac mae dyletswydd ar yr annogwr i sicrhau bod pob un yn bwysig o ran ystyried y broses a’r deialog. Wedi dweud hyn, mae’n bwysig i drafod a dod i gytundeb am lleoliad a’r amgylchedd yn y contractractio.

Prif gweithgarwch y dydd oedd datblygu Dulliau Cwestiynu a Modelau Annog. Roedd hyn yn sesiwn hynod ddiddorol o safbwynt annog ond hefyd o safbwynt dysgu ac addysg wrth feddwl am ddysgu gwersi a chynnal cyfarfodydd a thrafod materion bob dydd.  Cawsom ni rhestr o wahanol mathau o gwestiynau i ystyried mewn pârau a’i rhoi mewn i deiagram PMI. Isod yw’r rhestr o’r mathau o gwestiynau:

  • arwain
  • dweud wrthyf
  • gloywi
  • rhagdybio
  • pwerus
  • ymholiad
  • damcaniadol
  • pam
  • heriol
  • cyrhaeddgar
  • un gair

Roedd dad-bigo’r mathau o gwestiynau yma yn ddiddorol iawn ac yn ddiddorol oedd y ffaith bod is-gwestiwn/mater yn rheoli os ydynt yn bositif neu’n negyddol, sef pryd, beth, cyd-destun, amser yn y broses neu ar hyd y daith a sut. Mae pob math o gwestiwn yn addas ond mae’r modd a’r rhesymeg tu ôl i’r cwestiwn yn arwain at dosbarthu’r cwestiwn yn bositif neu’n negyddol a gellir dadlau bod nhw i gyd yn mynd i’r blwch ‘Diddorol’ achos mae’n dibynnu ar yr amgylchadau ac amseri.  Er enghraifft, ar ddechrau’r broses bydd yn rhy gynnar i ofyn cwestiynau ‘sut’ achos dydy’r mater ddim yn eglir a felly bydd cwestiynau ‘beth’ yn fwy addas ac yn arwain i gwestiynu gloywi cyn gallu feddwl am ‘sut’ mae’n bosib i ddatrys y pwyntiau a godwyd. Roedd yn drafodaeth dwys iawn ond roedd wedi oleuo pwysigrwydd cysidro’r math o gwestiynauu sy angen mewn sefyllfa unigol ac ar ba pwynt ar hyd y daith yn effeithiol.

Nesaf, cawsom ni gyfle i feddwl am fodelau annog gwahanol a dyma ddau enghraifft:

Yn y model gyntaf ceir  Perthynas (colofn 1), Sgiliau (colofn 2) ac Allbwn (colofn 3)

Yn yr ail-enghraifft, ceir strwythr sesiwn annog yn y canol gyda’r nodweddion a sgiliau hyanfodol o gwmpas.

Wrth gwrs, chwarae gyda’r syniadau yma oeddem ni er mwyn deall yn llawnach ystod cynhwysfawr annog ac wedyn trafodon ni fodel annog arall sef GROW. Rhaid egluro hyn yn Saesneg er mwyn iddo wneud synnwyr a chysylltu’r math o gwestiynau.

G GOALS Beth?

 

R REALITY
O OPTIONS Sut?

 

W WAY FORWARD

Mae’r model yn un defnyddiol iawn a dyma mae Ysgol Uwchradd Caerdydd yn defnyddio.  Mae’r G yn dangos y nod neu’r man hoffen ni gyrraedd yn dilyn y broses ac mae’r R yn dangos y man cychwyn. Ar ôl sefydlu rhain, gellir symud ymlaen i O i gysidro’r opsiynau a’r W y gweithredu ymlaen. Ma’r broses yn gylchdroi yn naturiol. Wrth gwrs mae modelau arall yn bodoli.

Treulion ni’r p’nawn yn annogi mewn parau. Roedd yn gyfle i ni rhoi’r model a’r dulliau at ei gilydd yn ymarferol. Roedd hyn yn ddiddorol iawn ac yn fraint a bod yn onest a ches i lawer allan ohoni. Dw i bendant yn teimlo’n fwy hyderus o ran dethol cwestiynau a deall pwrpas cwestiynau gwahanol er mwy treiddio i bwnc neu feddwl a bydd hyn yn addas iawn am yr ystafell ddosbarth hefyd.

I gau’r blognod hwn, hoffwn i ddod nôl at bwynt sy wedi codi trwy’r dau sesiwn a hynny yw – nid dyma sy’n digwydd mewn ysgolion ar y cyfan. Mae annog yn golygu mentora i lawer a hynny yn digwydd fel arfer ar sail ymateb UDRh i arsylwadau sy ddim yn dda neu’n well. Rhaglenni sy gan y rhan fwyaf i osod dulliau penodol ar athrawon er mwyn gwella’r beirnaidaeth achos dydy safon y dysgu ac addysgu ddim yn digon da. Ond mae’r broses yma ac annog yn wahanol iawn i’w gilydd ac mae’n hen bryd i ni ddechrau symud fel staff ac ysgolion i brosesau sy’n bositif ac yn gefnogol. Mae buddsoddi yn natblygiad proffesiynol athrawon yn golygu cynnig annog fel hawl i unrhywun sy’n teimlo eu bod ei angen! Cefnogi datblygiad proffesiynol yn effeithiol yn lle tanseilio hyder a chymhelliant ein hathrawon achos mae hyn yn arwain at waethygu’r problem a  chreu mwy o bwysau gwaith ac anhapusrwydd.

Bydd y sesiwn nesaf yn mynd nôl at drafod addysgu a dysgu a sut i defnyddio’r sgiliau yma wrth drafod gwersi ein gilydd ac arsylwi.