Rhaglen Athrawon Rhagorol – Sesiwn 2

pablo (1)

Heddiw oedd ail-sesiwn Rhaglen Athrawon Rhagorol yn Ysgol Uwchradd Caerdydd.

Sesiwn 1 yma

Ar ddiwedd y sesiwn diwethaf, cawsom dasg o gymryd gwers dysgom yn ystod yr wythnos diwethaf ac i fyfyrio drosto gan gysidro’r nodweddion canlynol o sesiwn 1:

  • Dyfnhau Meddwl
  • Modelu Rôl
  • Effaith
  • Her
  • Ymrwymiad

Yn ystod y bore a’r prynhawn, cawsom gyflwyniadau gan yr athrawon am y profiad. Pwrpas yr ymarfer oedd i gysidro pa gryfderau sy gennym a pa agwedd sy angen troi’r gwres ymlaen arno a gwella.  Rhaid i mi gyfadde, roeddwn i’n dwlu ar gweld a chlywed y cyflwyniadau a sylwi sut roedd yr hyfforddwyr yn defnyddio’r profiadau i dyfnhau ein dealltwriaeth o’r nodweddion a sut maen nhw’n effeithio ar ein gwersi, ymarfer a gweithgareddau.

O’m safbwynt i, gwnes i wers yn defnyddio TPRS (Teaching Proficiency Reading Stories) ac arbrofi gyda’r dull yma am y tro cynta.

Cyflwyno llun o berson i’r disgyblion a chyflwyno nhw fel fy ffrind.

 

Yn lle adrodd y stori, holais i nifer o gwestiynau megis enw, oed, byw, ysgol ac ati a gwahodd y disgyblion i gynnig atebion. Wrth ddod ar draws rhywbeth gwahanol neu diddorol am y gwybodaeth, roeddwn i’n cofnodi hyn ar y bwrdd wrth y llun.

 

Datblygu yn y modd yma nes bod llawer o ffeithiau a gwyboadaeth am fy ffrind a wedyn cyflwyno’r stori.

 

Mewn grwpiau, roedd rhaid i’r disgyblion creu stori gwahanol gan newid y gwybodaeth i gyd a chyflwyno’r stori newyd i’r dosbarth.

 

Roedd y gwaith yn iawn ond braidd yn ddi-flach, felly adroddais i fy stori i yn defnyddio dulliau gwahanol eto a holi am sylwadau o beth oedd yn wahanol a ches i atebion fel defnyddio ansoddeiriau, marciau disgwrs, amser y ferf a sgiliau mynegiant.

 

Gweithio mewn grwpiau eto i greu stori doniol neu gwahanol eto. Wrth adrodd yn ôl, roedd llawer mwy o’r elfennau yn y storiau gan gynnwys y rhai wnes i fodelu.

Y cam nesaf oedd myfyrio dros y wers gan gysidro’r nodweddion. Dyma ydy fy nodiadau:

  • Roedd cyfle i bawb meddwl yn ddwfn am yr iaith a nodweddion iaith a bod yn greadigol neu’r ddoniol a sut mae gwneud hyn. I ddatblygu, basai rhaid cyflwyno mwy o elfennau ac efallai darllen gwahanol mathau o straeon a’i chymharu. Mae gallu ieithyddol y disgyblion yn ffactor os am aros yn yr iaith darged a basai rhaid wneud hyn dros gyfres o wersi.
  • Roedd elfennau o modelu yn y gwers – modelu iaith, mynegiant, a thrafod nodweddion stroi da (er roedd hyn yn Saesneg) Wrth ddatblygu’r elfen yma, rhaid i mi gyfaddau bod llawer o fy nefnydd o gwestiwn yn gul a bod angen rhoi mwy o gyfleoedd am gwestiynau mwy agored lle gall y disgyblion ymestyn eu hatebion. Rhaid yma i gysidro’r stori yn ofalus a defnyddio cwestiynau am y cymeriadau neu plot er mwyn agor pethau i fyny.
  • Effaith hyn oll oedd bod y disgyblion yn defnyddio geirfa, patrymau amrywiol, amseroedd gwahanol, marciau disgwrs a cheisio bod yn greadigol yn eu mynegiant. Doedd dim llyfrau na thaflenni gan y disgyblion felly roedd popeth o’r cof. Er mwyn datblygu hyn ymhellach, basai rhaid cyflwyno idiomau, cymariaeithau a throsiadau a datlbygu sgiliau drama a mynegiant.
  • Roedd y dasg yn un heriol ac roedd yn rhoi cyfle i’r disgyblion creu brawddegau amrywiol a’u cyflwyno ar lafar. Roedd pawb yn gallu cynnig rhywbeth a’r dasg yn gwahaniaethu yn naturiol.  Roedd cyflwyno sgiliau adrodd stori wedi codi’r her ymhellach. Er mwyn datblygu yma, mae’n bosib cyflwyno geirfa penodol a gofyn i’r disgyblion defnyddio a datblygu ar y syniadau er mwyn datblygu’r cynnwys a mynegiant ymhellach. EE Rhaid defnyddio 4 amser y ferf, 4 marc disgwrs, 2 idiom ac un cymhariaeth.
  • A bod yn onest, dyma oedd yr elfen cryfaf. Roedd y disgyblion wrth eu boddau a phawb yn gweithio’n galed trwy’r wers. Roedd llawer o hwyl, gwenu, chwerthin a chynnydd. Wrth drafod y wers gyda nifer o’r disgyblion, roeddynt yn dweud eu bod nhw wedi mwynhau’r wers a dwlu ar y cyfle i siarad siarad a siarad yn Gymraeg trwy’r wers. Roedd gweithio mewn grwpiau a chael amser i ymarfer yn helpgar a wedi codi hyder. Er mwyn datblygu’r elfen yma ymhellach, baswn i’n cyflwyno stori neu lluniau diddorol iawn i dynnu’r disgyblion i mewn i ddechrau ac efallai defnyddio fideo.

Ochr arall y sesiwn heddiw oedd rhoi sylw penodol ar gychwyn gwers a chysidro beth yw gwir pwynt cael STARTER (CYCHWYN) i wers wrth ystyried ymrwymiad.  Cawsom gyfle i fynd i wylio rhyw 15 munud o wers. Diolch mawr i’r athrawes oedd wedi derbyn 4 o athrawon eraill i mewn i arsylwi cychwyn y gwers.  Roedd y drefn yn wahanol iawn i fy nhrefn i a rhaid cysidro taw gwers yn dilyn egwyl oedd hi a bod yn glawiog.  Roedd nifer wedi cyrraedd ychydig yn hwyr ond dyma oedd fy arsylwadau:

  • Roedd yr athrawes yn aros wrth y drws ac yn croesawi pob disgybl a dweud bod tasg ar y bwrdd.
  • Roedd ambell i ddisgybl yn araf yn cael eu pethau allan a setlo ac roedd hi’n aros wrth y drws ac yn atgoffa’r disgyblion o’r disgwyliadau. Trefnus iawn a syth mewn i’r dasg
  • Roedd tasg yn barod ar y bwrdd gwyn ac roedd llawer o’r disgyblion yn edrych arno a thrafod yr atebion.
  • Gwnaethpwyd y gofrestr wrth i’r disgyblion ystyried y dasg a wedyn syth mewn i gwestiynu am atebion. Dim dwylo ond gofyn i unigolion.
  • Roedd y dasg yn sydyn a wedyn ymlaen a’r wers. Roedd cwestiynau agored a chul a roedd ymatebion aeddfed a diddorol gan y dosbarth gallu-cymysg.

Gwn ni ellir gweld datblygiad wrth gweld 15 munud yn unig ond roedd digon i weld sut mae cychwyn gwers yn effeithio ar y wers.  Ar ôl hyn aethom ni nôl i drafod CYCHWYN a dyma’r prif bwyntiau a chododd ac mae rhaid i mi gyfaddau eto bod y drafodaeth yn ddiddorol ac yn helpgar iawn.

  1. Pam CYCHWYN?

Dylai fod yn fyr gyda ffocws ar gynnwys neu sgilia’r pwnc ac yn llawer gwell os yw’n gysylltiedig a’r wers. Mae’n gyfle i gysylltu gyda sgiliau blaenorol neu asesu. Mae’n gosod naws i’r wers ac yn tunnu’r disgyblion i mewn i’r gwers. Mae’n cefnogi trefn a magu sgiliau meddwl. Mae’n gallu bod yn heriol neu’n syml ac yn arwain at hoelio sylw’r disgyblion ar y pwnc.

2.  Pa fath o bethau?

Cyswllt gyda arholiadau. Dim mwy na 10 munud. Gweithgaredd. Cwestiwn i feddwl amdano. Unigol neu cyd-weithio. Cysylltu gyda chynnwys y wers. Trefnu. Dosbarthu. Cofio. Darllen. Ysgrifennu. Diddorol. Gall fod yn unrhywbeth. Gall fod yn amrywiol neu tebyg. Gall fod yn sgil neu’r gynnwys. Dylai tynnu sylw a chreu pwynt meddwl. Dylai fod yn rhan o drefn naturiol y wers.

3. Pethau i’w hystyried!

  • Bydd yn glir am beth yw pwrpas CYCHWYN. Nid rhywbeth er mwyn ticio bocs mohoni ac ni ddylid gwneud CYCHWYN heb gyswllt gyda’r pwnc neu gwers.
  • Nid dasg setlo mo CYCHWYN er gall cefnogi hyn.
  • Gallen nhw fod ar unrhyw ffurf – amrywiol neu’n debyg.
  • Cyfle i ymrwymo’r disgyblion yn syth a chael nhw i feddwl neu gysylltu â dysgu blaenorol – pwysig iawn.
  • Does dim rhaid i’r athro/awes arwain y dasg.
  • Os nad yw’n cael effaith yng nghyd-destun y wers, oes gwir ei angen?

Roedd yn ddiwrnod diddorol arall sy wedi fy helpu i ystyried y nodweddion addysgu a dysgu rhagorol a sut mae newid f’ymarfer ar hyd y llwybr at rhagoriaeth.  Cysidron ni gwahanol modelau dysgu ac addysgu yn ystod y bore hefyd a roedd yn braf iawn clywed a deall nad oes model perffaith ac mae’n bosib gosod model sy’n anaddas neu ar yr amser anghywir a rhaid cysidro cyd-destun eich ysgol yn ofalus.

Dw i’n edrych ymlaen at Sesiwn 3 wythnos nesa lle bydda i gyda fy ngrwp yn datblygu a chyflwyno CYCHWYN i’r athrawon eraill a’i dadansoddi gyda’r 5 nodwedd.

Advertisements

One thought on “Rhaglen Athrawon Rhagorol – Sesiwn 2

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s