Rhaglen Athrawon Rhagorol – Sesiwn 2

pablo (1)

Heddiw oedd ail-sesiwn Rhaglen Athrawon Rhagorol yn Ysgol Uwchradd Caerdydd.

Sesiwn 1 yma

Ar ddiwedd y sesiwn diwethaf, cawsom dasg o gymryd gwers dysgom yn ystod yr wythnos diwethaf ac i fyfyrio drosto gan gysidro’r nodweddion canlynol o sesiwn 1:

  • Dyfnhau Meddwl
  • Modelu Rôl
  • Effaith
  • Her
  • Ymrwymiad

Yn ystod y bore a’r prynhawn, cawsom gyflwyniadau gan yr athrawon am y profiad. Pwrpas yr ymarfer oedd i gysidro pa gryfderau sy gennym a pa agwedd sy angen troi’r gwres ymlaen arno a gwella.  Rhaid i mi gyfadde, roeddwn i’n dwlu ar gweld a chlywed y cyflwyniadau a sylwi sut roedd yr hyfforddwyr yn defnyddio’r profiadau i dyfnhau ein dealltwriaeth o’r nodweddion a sut maen nhw’n effeithio ar ein gwersi, ymarfer a gweithgareddau.

O’m safbwynt i, gwnes i wers yn defnyddio TPRS (Teaching Proficiency Reading Stories) ac arbrofi gyda’r dull yma am y tro cynta.

Cyflwyno llun o berson i’r disgyblion a chyflwyno nhw fel fy ffrind.

 

Yn lle adrodd y stori, holais i nifer o gwestiynau megis enw, oed, byw, ysgol ac ati a gwahodd y disgyblion i gynnig atebion. Wrth ddod ar draws rhywbeth gwahanol neu diddorol am y gwybodaeth, roeddwn i’n cofnodi hyn ar y bwrdd wrth y llun.

 

Datblygu yn y modd yma nes bod llawer o ffeithiau a gwyboadaeth am fy ffrind a wedyn cyflwyno’r stori.

 

Mewn grwpiau, roedd rhaid i’r disgyblion creu stori gwahanol gan newid y gwybodaeth i gyd a chyflwyno’r stori newyd i’r dosbarth.

 

Roedd y gwaith yn iawn ond braidd yn ddi-flach, felly adroddais i fy stori i yn defnyddio dulliau gwahanol eto a holi am sylwadau o beth oedd yn wahanol a ches i atebion fel defnyddio ansoddeiriau, marciau disgwrs, amser y ferf a sgiliau mynegiant.

 

Gweithio mewn grwpiau eto i greu stori doniol neu gwahanol eto. Wrth adrodd yn ôl, roedd llawer mwy o’r elfennau yn y storiau gan gynnwys y rhai wnes i fodelu.

Y cam nesaf oedd myfyrio dros y wers gan gysidro’r nodweddion. Dyma ydy fy nodiadau:

  • Roedd cyfle i bawb meddwl yn ddwfn am yr iaith a nodweddion iaith a bod yn greadigol neu’r ddoniol a sut mae gwneud hyn. I ddatblygu, basai rhaid cyflwyno mwy o elfennau ac efallai darllen gwahanol mathau o straeon a’i chymharu. Mae gallu ieithyddol y disgyblion yn ffactor os am aros yn yr iaith darged a basai rhaid wneud hyn dros gyfres o wersi.
  • Roedd elfennau o modelu yn y gwers – modelu iaith, mynegiant, a thrafod nodweddion stroi da (er roedd hyn yn Saesneg) Wrth ddatblygu’r elfen yma, rhaid i mi gyfaddau bod llawer o fy nefnydd o gwestiwn yn gul a bod angen rhoi mwy o gyfleoedd am gwestiynau mwy agored lle gall y disgyblion ymestyn eu hatebion. Rhaid yma i gysidro’r stori yn ofalus a defnyddio cwestiynau am y cymeriadau neu plot er mwyn agor pethau i fyny.
  • Effaith hyn oll oedd bod y disgyblion yn defnyddio geirfa, patrymau amrywiol, amseroedd gwahanol, marciau disgwrs a cheisio bod yn greadigol yn eu mynegiant. Doedd dim llyfrau na thaflenni gan y disgyblion felly roedd popeth o’r cof. Er mwyn datblygu hyn ymhellach, basai rhaid cyflwyno idiomau, cymariaeithau a throsiadau a datlbygu sgiliau drama a mynegiant.
  • Roedd y dasg yn un heriol ac roedd yn rhoi cyfle i’r disgyblion creu brawddegau amrywiol a’u cyflwyno ar lafar. Roedd pawb yn gallu cynnig rhywbeth a’r dasg yn gwahaniaethu yn naturiol.  Roedd cyflwyno sgiliau adrodd stori wedi codi’r her ymhellach. Er mwyn datblygu yma, mae’n bosib cyflwyno geirfa penodol a gofyn i’r disgyblion defnyddio a datblygu ar y syniadau er mwyn datblygu’r cynnwys a mynegiant ymhellach. EE Rhaid defnyddio 4 amser y ferf, 4 marc disgwrs, 2 idiom ac un cymhariaeth.
  • A bod yn onest, dyma oedd yr elfen cryfaf. Roedd y disgyblion wrth eu boddau a phawb yn gweithio’n galed trwy’r wers. Roedd llawer o hwyl, gwenu, chwerthin a chynnydd. Wrth drafod y wers gyda nifer o’r disgyblion, roeddynt yn dweud eu bod nhw wedi mwynhau’r wers a dwlu ar y cyfle i siarad siarad a siarad yn Gymraeg trwy’r wers. Roedd gweithio mewn grwpiau a chael amser i ymarfer yn helpgar a wedi codi hyder. Er mwyn datblygu’r elfen yma ymhellach, baswn i’n cyflwyno stori neu lluniau diddorol iawn i dynnu’r disgyblion i mewn i ddechrau ac efallai defnyddio fideo.

Ochr arall y sesiwn heddiw oedd rhoi sylw penodol ar gychwyn gwers a chysidro beth yw gwir pwynt cael STARTER (CYCHWYN) i wers wrth ystyried ymrwymiad.  Cawsom gyfle i fynd i wylio rhyw 15 munud o wers. Diolch mawr i’r athrawes oedd wedi derbyn 4 o athrawon eraill i mewn i arsylwi cychwyn y gwers.  Roedd y drefn yn wahanol iawn i fy nhrefn i a rhaid cysidro taw gwers yn dilyn egwyl oedd hi a bod yn glawiog.  Roedd nifer wedi cyrraedd ychydig yn hwyr ond dyma oedd fy arsylwadau:

  • Roedd yr athrawes yn aros wrth y drws ac yn croesawi pob disgybl a dweud bod tasg ar y bwrdd.
  • Roedd ambell i ddisgybl yn araf yn cael eu pethau allan a setlo ac roedd hi’n aros wrth y drws ac yn atgoffa’r disgyblion o’r disgwyliadau. Trefnus iawn a syth mewn i’r dasg
  • Roedd tasg yn barod ar y bwrdd gwyn ac roedd llawer o’r disgyblion yn edrych arno a thrafod yr atebion.
  • Gwnaethpwyd y gofrestr wrth i’r disgyblion ystyried y dasg a wedyn syth mewn i gwestiynu am atebion. Dim dwylo ond gofyn i unigolion.
  • Roedd y dasg yn sydyn a wedyn ymlaen a’r wers. Roedd cwestiynau agored a chul a roedd ymatebion aeddfed a diddorol gan y dosbarth gallu-cymysg.

Gwn ni ellir gweld datblygiad wrth gweld 15 munud yn unig ond roedd digon i weld sut mae cychwyn gwers yn effeithio ar y wers.  Ar ôl hyn aethom ni nôl i drafod CYCHWYN a dyma’r prif bwyntiau a chododd ac mae rhaid i mi gyfaddau eto bod y drafodaeth yn ddiddorol ac yn helpgar iawn.

  1. Pam CYCHWYN?

Dylai fod yn fyr gyda ffocws ar gynnwys neu sgilia’r pwnc ac yn llawer gwell os yw’n gysylltiedig a’r wers. Mae’n gyfle i gysylltu gyda sgiliau blaenorol neu asesu. Mae’n gosod naws i’r wers ac yn tunnu’r disgyblion i mewn i’r gwers. Mae’n cefnogi trefn a magu sgiliau meddwl. Mae’n gallu bod yn heriol neu’n syml ac yn arwain at hoelio sylw’r disgyblion ar y pwnc.

2.  Pa fath o bethau?

Cyswllt gyda arholiadau. Dim mwy na 10 munud. Gweithgaredd. Cwestiwn i feddwl amdano. Unigol neu cyd-weithio. Cysylltu gyda chynnwys y wers. Trefnu. Dosbarthu. Cofio. Darllen. Ysgrifennu. Diddorol. Gall fod yn unrhywbeth. Gall fod yn amrywiol neu tebyg. Gall fod yn sgil neu’r gynnwys. Dylai tynnu sylw a chreu pwynt meddwl. Dylai fod yn rhan o drefn naturiol y wers.

3. Pethau i’w hystyried!

  • Bydd yn glir am beth yw pwrpas CYCHWYN. Nid rhywbeth er mwyn ticio bocs mohoni ac ni ddylid gwneud CYCHWYN heb gyswllt gyda’r pwnc neu gwers.
  • Nid dasg setlo mo CYCHWYN er gall cefnogi hyn.
  • Gallen nhw fod ar unrhyw ffurf – amrywiol neu’n debyg.
  • Cyfle i ymrwymo’r disgyblion yn syth a chael nhw i feddwl neu gysylltu â dysgu blaenorol – pwysig iawn.
  • Does dim rhaid i’r athro/awes arwain y dasg.
  • Os nad yw’n cael effaith yng nghyd-destun y wers, oes gwir ei angen?

Roedd yn ddiwrnod diddorol arall sy wedi fy helpu i ystyried y nodweddion addysgu a dysgu rhagorol a sut mae newid f’ymarfer ar hyd y llwybr at rhagoriaeth.  Cysidron ni gwahanol modelau dysgu ac addysgu yn ystod y bore hefyd a roedd yn braf iawn clywed a deall nad oes model perffaith ac mae’n bosib gosod model sy’n anaddas neu ar yr amser anghywir a rhaid cysidro cyd-destun eich ysgol yn ofalus.

Dw i’n edrych ymlaen at Sesiwn 3 wythnos nesa lle bydda i gyda fy ngrwp yn datblygu a chyflwyno CYCHWYN i’r athrawon eraill a’i dadansoddi gyda’r 5 nodwedd.

The nuts and bolts of reading a whole-class novel

Sgiliau darllen – dewis testun a defnyddio nofelau

CI Peek

Bolt-with-nut Photo: Pavel Krok CC BY-SA 2.5

In my classroom I teach 2-4 novels per year. When selecting novels, I want to choose books that are going to be at a comfortable level for the students. I err on the side of “too easy.” Books that are too hard will feel too much like drudgery and the reading will not be enjoyable. I also try to balance the “girl characters” and “boy characters.” Finally, I like to have a broad representation of the Spanish-speaking world in each level.

Currently I do not teach Spanish 1, but the level 1 kids in my district read El Nuevo Houdini by Carol Gaab first semester and Piratas del Caribe y el mapa secreto by Mira Canion and Carol Gaab second semester.

In Spanish 2, my students read Noches misteriosas en Granada by Kristy Placido, Esperanza by Carol Gaab, Robo en la noche by Kristy…

View original post 1,154 yn rhagor o eiriau

Rhaglen Athrawon Rhagorol – Sesiwn 1

pablo (1)

Yr wythnos hon, roeddwn yn lwcus iawn i gael cyfle i ddechrau ar gyfres o sesiynau hyfforddiant Rhaglen Athrawon Rhagorol OLEVI. Hyfforddiant i fy helpu i wella f’ymarfer a sgiliau yn y dosbarth. Doeddwn i ddim yn siwr beth i ddisgwyl cyn mynd ond rhaid i mi gyfadde bod y sesiwn gychwynnol yn Ysgol Uwchradd Caerdydd wedi fy herio i ail-ystyried fy marnau a deallusrwydd o beth yw addysgu a dysgu rhagorol.

Roedd y gweithgareddau, trafodaethau a strwythr y dydd yn effeithiol iawn ac roedd yn bleser bod yn rhan o hyfforddiant lle roedd amser i feddwl, ystyried, pwyso a mesur a chwestiynnu fy ymarfer. Diben y blognod hwn ydy rhannu fy meddyliau am y diwrnod a chysidro beth yw nodweddion addysgu a dysgu rhagorol.

Y peth cyntaf hoffwn sôn amdano ydy’r neges pwysig nad oes ‘ffa hudolus’ wrth ymdrin ag addysgu a dysgu rhagorol. Er bod gwers yn gallu bod yn rhagorol, nid yw hyn yn golygu bod yr addysgu a dysgu yn rhagorol dros amser neu ymhob wers. Goblygiad hyn ydy nad oes rhestr wirio gellir dilyn sy’n golygu bod ein gwersi yn rhagorol. Ar y llaw arall, mae yna nodweddion neu agweddau sy’n perthyn iddyn nhw. Dyna oedd prif-neges y dydd a chyfle i chysidro a thrafod rhain.

Ein tasg cyntaf oedd rhannu ein syniadau am beth yw’r nodweddion addysgu rhagorol. Roedd llawer o wahanol elfennau yn gan bawb wrth gwrs: asesu, gwybodaeth arbenigol, awyrgylch, trefn, tasgau amrywiol diddorol, ymrwymiad y disgyblion yn y gwaith, her, perthynas ayyb.  Roedd yr ystod o wahanol bethau yn ddiddorol iawn a ches i fy syfrdanu gyda faint o bethau mae rhaid i ni gysidro a datblygu ar y daith o wella ein hymarfer dros amser. Roedd rhaid i ni wedyn dewis ein prif nodweddion a thrafod ein rhesymau. Roedd yn diddorol iawn cael trafod y nodweddion a phwyso a mesur ein rhesymau; ac yn wir daeth llawer o syniadau a phwyntiau gwych allan o’r drafodaeth. Yn ddiddorol hefyd oedd sylwi bod llawer o’r nodweddion yn gysylltiedig. Er enghraifft, dewisiais i’r nodwedd o dderbyn adborth gan y disgyblion cyn cynllunio’r camau nesaf. Wrth drafod, mae’n amlwg bod her, dulliau asesu ac ymrwymiad y disgyblion yn hanfodol er mwyn cau’r cylch. Heb rhain, does dim modd derbyn adborth sy’n arwain at gynllunio gwell.

Y neges yw, mae addysgu a dysgu rhagorol yn fwy am gyd-bwyso crefftus na dilyn rhestr wirio a’r drwg ydy bod yr iaith a’r geirfa yn gallu golygu pethau gwahanol i wahanol bobl, yn enwedig wrth arsylwi a beirnadu safon addysgu a dysgu. Enghraifft o hyn ydy ‘Nodau Dysgu’. Y gwir yw ni ellir cynllunio gwers heb i’r athro/awes cysidro’n fanwl ble mae angen i’r disgyblion teithio yn ystod y wers, boed yn gynnwys neu sgiliau. Ar y llaw arall, mae sicrhau tystiolaeth o ‘nod’ wedi troi mewn i ymarfer sy’n golygu ein bod yn cyflwyno nodau gwahanieithol ar ffurf goleuadau traffig ar gyfer bob wers a mewn rhai achosion bod y disgyblion yn gorfod cofnodi rhain yn eu llyfrau. Mae hyn yn arwain at gam-ddealltwriaeth o’r nodwedd ac mae’r athro/awes rhagorol yn deall nid yn unig y nodweddion pwysica ond sut maen nhw’n ychwanegu at y dysgu a’r crefft yw i’w defnyddio yn effeithiol.

Erbyn diwedd y dydd, roedd yr arweinwyr wedi rhoi i ni fframwaith diddorol er mwyn cysidro’r nodweddion a chynhwysion i ystyried wrth gysidro addysgu a dysgu rhagorol.

Dyfnhau Meddwl

  • dulliau cwestiynnu
  • geithgareddau dysgu
  • amser myfyrio
  • sgiliau meddwl

Modelu Rôl

  • dulliau
  • allbwn
  • iaith
  • ymddygiad
  • disgwyliadau
  • sgiliau dysgu

Effaith

  • gweithredu newid positif
  • symud y dysgwyr ymlaen
  • cyffyrddadwy > cynnydd, safonau, data, cyrhaeddiad, gwybodaeth
  • anghyffwrdd > agwedd, parodrwydd, cyfraniad, ymdrech, ymateb i her, datrys problemau

Her

  • ymestyn
  • meddylfryd
  • cymhelliant

Ymrwymiad

  • ar dasg
  • holi cwestiynnau
  • ymdrech
  • sylw at y dysgu
  • amseri
  • amrwyiaeith
  • hyblygrwydd yr athro/awes

 

Dw i’n teimlo’n gyffrous iawn am y sesiynau i ddod a blogio amdanynt.

The Three Steps of TPRS

TPRS – Gwybodaeth am y dull a’r sgiliau.

Ben Slavic's Blog

As time goes by, I have greater and greater respect for the inherent grace and power of the Three Steps of TPRS as they have emerged after fifteen or so years of use. I include one interpretation of them here to offer to any teacher needing to grasp something solid in their continuing efforts to learn the method. If I were allowed only a few pages to attempt to describe TPRS to someone, this is what I would write:

The Three Steps of TPRS

Step One

A. Find three phrases. Two will do just fine. Teach them. I do not spend a lot of time attempting to “integrate” certain words into some kind of pre-arranged list of vocabulary from week to week, but you can if you want. I find that doing so stilts the quality of the stories. It puts the focus of class on words, and not on…

View original post 2,277 yn rhagor o eiriau

Comprehension Checks

Syniadau i profi dealltwriaeth wrth waith.

The Comprehensible Classroom

Note: Much of my knowledge about comprehension checks has come from Betsy Paskvan, a Japanese teacher here in Anchorage, AK. Betsy has presented many times on checking for comprehension at state and national language conferences (she’ll be at NTPRS this summer), and she often travels to other school districts to offer them professional development on comprehension checks and other essential TPRS®/CI skills.

___________

It is important for all teachers to informally assess students’ comprehension throughout any lesson. We use students’ answers to decide whether to move on to the next topic or to spend more time on whatever we are studying at the moment. Comprehension Checks are one of the essential tools in a TPRS®/CI teacher’s toolbox. When they are used effectively, the input provided by the teacher will remain comprehensible to all students, and therefore all students will further their language acquisition.

There are five keys to comprehension checks:

  1. Check for comprehension…

View original post 365 yn rhagor o eiriau

Eight important facts about Working Memory and their implications for foreign language teaching and learning

Mwy o wybodaeth am sut mae’r meddwl gweithiol yn effeithio’r duliau gellir defnyddio wrth creu trefniant addysgu.

The Language Gym

download (1)

  1. Introduction

There is no blogpost of mine which does not mention Working Memory (WM) at some point. Why? Because effective language processing and learning largely depends on how well Working Memory performs. In fact, apart from automatic processes – which bypass WM’s attentional control – all conscious processing of information (visual, auditory, etc.) occurring in the human brain is performed by WM. Whether our students are reading or listening to target language input, translating a passage into French, planning an essay or performing an oral task it will be WM that does most or all of the work.

Let us consider reading a target language text. It is WM that matches any lexis in the text with its meaning (by retrieving it from Long Term Memory). And what if we struggle with that text? Every single operation the brain performs in an attempt to decode will take…

View original post 2,608 yn rhagor o eiriau