Cymraeg Ail-Iaith – Be nesa?

Barn … neu diddymu yn llwyr!

Y Byd a'r Betws - Blog B J Mock

$_35

Dyma flognod i rhannu fy ymateb i’r holl cyhoeddiadau yma ac yma sy wedi bod yr wythnos hon am sefyllfa Cymraeg Ail-iaith a’r Cwricwlwm Newydd. Hefyd, dyma ymateb i flognod arall gan @MrGWallCymraeg yma. Cyn mynd ati, hoffwn gwneud dau bwynt er mwyn clirio’r awyr:

  1. Dw i, yn bersonol, ddim yn hoffi’r term Cymraeg Ail-iaith. Rydym yn defnyddio Cyfrwng Cymraeg wrth drafod ysgolion sy’n addysgu pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg felly pam nid Cyfrwng Saesneg i drafod ysgolion sy’n addysgu pynciau trwy’r Saeneg? Cyfrwng dwyieithog sy’n disgrifio ysgolion sy’n addysgu canran o’r pynciau yn Saesneg a Chymraeg. Mae’r term Ail-iaith yn ddiffygiol i ddisgrifio sefyllfa lawer o ysgolion achos nid ail-iaith ydyn nhw ond rhywbeth tebycach i Ieithoedd Modern Tramor. Does dim ail-iaith dim ond iaith darged, felly Cyfrwng Saesneg dw i’n defnyddio.
  2. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi’r erthygl yma yn ddiweddar yn galw ar…

View original post 1,586 yn rhagor o eiriau

Iaith Darged 3

300px-TargetTL

Dyma’r trydydd blognod mewn cyfres i gofnodi fy mhrofiadau yn defnyddio strategaeth TL90Plus. Gellir darllen y lleill yma ac yma.

Mae wedi bod yn dymor o waith caled, rhwystredigaeth a gorfod datblygu f’ymarfer fy hun yn wythnosol i ymateb i’r her o ddefnyddio 90% iaith darged bob wers. Mae’r arbrawf wedi bod yn llwyddiannus yn fy marn i ac heb os nac oni bai, bydda i’n parhau y tymor nesaf.

Y peth mwy trawiadol ydy bod y rhan fwyaf o’r disgyblion wedi ymateb yn bositif iawn i’r her a llawer ohonynt wedi mynegi’r ffaith bod nhw’n dilyn mwy o’r wers nawr nag oeddynt ac yn fwy cartrefol yn y gwersi erbyn hyn. Mae ymateb i’r disgyblion sy dal yn cael hi’n anodd yn agwedd pwysig bydd rhaid i mi ddatrys wrth symud ymlaen. Mae ambell i ddisgybl yn tueddu switsio i ffwrdd achos bod YN anodd a rhaid ystyried yn fanwl os ydy hyn yn fater o agwedd neu gallu. O ran agwedd, mae’n bwysig cadw’n bositif ac annog yn ddi-gyfaddawd ac o ran gallu, rhaid trafod a deall be sy’n rhwystro’r disgybl a rhoi cefnogaeth ychwanegol er mwyn iddynt gallu dilyn y wers a gwneud cynydd dros amser.

Wrth gwrs, ar y llaw arall, mae natur y wersi yn golygu bod rhaid rhoi llawer mwy o amser i’r disgyblion prosesu’r gwybodaeth ac mae arall eirio a defnyddio ystymiau ac esiamplau yn hynod bwysig a rhaid cyfadde bo llai o PowerPoint a mwy o waith bwrdd gwyn yn f’ymarfer nawr achos mae’n anodd gwbod yn union pryd ac am beth bydd angen eglurhad ychwanegol neu esiampl yng nghyd-destun y gwers; felly rhaid i mi monitro gwynebau ac allbwn yn ofalus er mwyn manteisio ar bob cyfle i ddatblygu deallusrwydd a defnydd o’r iaith.

Pwynt arall sy wedi codi o ran f’ymarfer ydy bod llai o ddibynnu ar ei llyfrau a llawer mwy o ddrilio nag o’r blaen. I ategu at hyn, yn ystod yr wythnosau diwetha, dw ‘di bod yn arbrofi gyda mwy o fethodoleg fel TPR a Dadawgrymeg a dod i ddeall bod llawer mwy o ddulliau ar gael i ni fel athrawon iaith nag o’n i’n gwybod amdanynt o’r blaen a phob un yn cynnig rhywbeth ychwanegol. Mae hyn wedi fy arwain at lawer o ymchwil a herio fy hunan i ddatblygu fy arbenigrwydd o ran fod yn athro iaith effeithiol.

Mae rhai grwpiau o ddisgyblion mewn amrywiaeth o ddosbarthiadau wedi dechrau clebran yn y Gymraeg! Mae yna wallau amlwg yn y patrymau a llawer o ystymiau rhyngddynt ond maen nhw’n llwyddo i gyfathrebu ac yn mwynhau’r profiad. Dw i’n ciesio gwrando arnynt er mwyn nodi’r gwallau amlwg a wedyn yn ceisio gwau’r pwyntiau i mewn i ddril amy dyfodol. Ar y llaw arall mae rhai disgyblion dal yn arfer defnyddio Saesneg gyda’i gilydd, hyd yn oed ar ol tymor wrthi; ond mae llawer mwy erbyn hyn yn rhoi cynnig arni.

Wrth gynllunio am y tymor newydd, bydd angen datblygu mwy o iaith darged i drin a thrafod gwaith a chynnyrch y disgyblion achos bod hyn yn ddiffygiol gen i ar hyn o bryd. Hoffwn i symud yn bellach i ffwrdd o or-ddibynnu ar gyfieithu er mwyn profi deallusrwydd a datlygu dulliau amgen i’w hasesu. Yn olaf, dw i moyn sicrhau fy mod yn canolbwyntio ar ddatblygu llawer mwy o ferfau ac addysgu mwy amdanynt yn uniongyrchol – ystod, amseroedd a pherson fel canolbwynt i symud ymlaen dros yr hanner tymor nesaf achos bod angen i ehangu ar eu defnydd at gwahanol sefyllfaoedd. Po mwya o ferfau sy ganddynt a’r gallu i’w trawsnewid trwy drilio craff y mwya gallynt trin a thrafod pethau yn ehangach na’r disgwyl

I orffen y nodiadau, hoffwn hefyd egluro fy mod i wedi dysgu mey fwy dros y tymor i beidio neidio mewn a chywiro pob cam-ynganiad neu patrwm cymysglyd. Yn reddfol, dyma dw i ‘di bod yn neud ond gwela i nawr bod dwy effaith negyddol yn bosib mewn awyrgylch tebyg:

  1. Effaith ar hyder y disgyblion i siarad. Mae’n amlwg wrth gweld y cynydd a’r parodrwydd i siarad yn Gymraeg wrth beidio cywirio popeth yn creu awyrgylch gwell i’r disgyblion gallu ymarfer. Dw i’n pwysleisio taw cyfathrebu ydy’r prif nod a gwaith fi ydy sylwi ar y camgymeriadau a gweithio i ddatrys y problem. Mae fel dysgu darn o gerddoriaeth – rhaid gwneud llawer o gamgymeriadau cyn gwella’r perfformiad ond rhaid gwrando ar yr holl perfformiad heb ymyryd i’r athro/awes cael digon o adborth i greu ymarferion i wella ar yr agweddau anghywir.
  2. Effaith ar agwedd. Wrth gywirio pob gwall, mae agwedd llawer o ddisgyblion yn negyddol a dw i ‘di bod yn euog yn y gorffennol o cryfhau barn y disgyblion nad ydynt yn dda yn y pwnc. Dw i ddim chwaith yn rhoi llawer o glod am cyrhaeddiad ond yn pwysleisio ymdrech yn fwy a rhoi clod amdano. Wrth gwrs bod rhaid i mi ddatrys y broblem o ran patrymau anghywir ac ambell i ynganiad gwallus ond rhaid i mi ddatblygu ffyrdd eraill o gyflawni hyn trwy llawer o fodeli iaith fy hun a defnyddio’r adborth o waith disgyblion i greu gwersi i wella ar y camgymeriadau; erbyn hyn dw i’n teimlo bod hyn yn well ar lefel dosbarth cyfan heb tynnu sylw at yr unigolion er mwyn iddynt cywirio ei hunain dros amser.

Dw i wir yn edrych ymlaen at y tymor newydd. 

#dwincroesurllinellhud #ymlaen #TL90Plus

Using picture tasks to develop spontaneous talk – A low effort / high impact teaching sequence

Gweithgaredd llafar digymell.

The Language Gym

download

Please note: This post was written in collaboration with Steve Smith of http://www.frenchteacher.net with whom I am co-authoring the ‘MFL teacher’s toolkit’ (to be published in the new year).

  1. Introduction

One of the approaches I undertake in order to promote L2 oral fluency and spontaneity involves the use of picture tasks. This post lays out a low-effort/high-impact teaching sequence based on the following pillars of my instructional approach:

  • Prep students before you start the teaching sequence through as much (flipped?) vocabulary building as possible.
  • Allow for lots of recycling of the target material throughout the sequence.
  • Provide lots of comprehensible written and aural input tbefore involving the students in written or oral production.
  • Start production with highly structured activities which become increasingly less structured. Withdraw support at the end of the sequence.
  • Aim at automatization of speech production as the end-goal (e.g. fast retrieval from long term memory). Prioritize fluency…

View original post 999 yn rhagor o eiriau

On the road to autonomous speaking competence – How to use writing mats to effectively support oral communication and proficiency development

Dulliau llafar – trefn addysgu

The Language Gym

image

  1. Introduction

Writing mats, like the one in the above picture (which I uploaded on the TES last year), can be extremely useful as a means to support oral communication. In fact, I usually refer to them as ‘talking mats’, as I rarely use them to scaffold writing. In this post I intend to show how writing mats like mine can be effectively used to boost oral proficiency in the context of a student-centred learning sequence which implements the teaching approach I have laid out in many of my previous posts and is firmly rooted in Skill-building Theory.

  1. The sequence

Step 1 –Select or create a writing mat. I personally like to create my own mats, but you can find many excellent writing mats on www.tes.com. Mats should be clear, well-structured and contain the L1 translation. Often, writing mats are overambitious as one wants to pack in as…

View original post 1,102 yn rhagor o eiriau

Datblygu Methodoleg ac Ymarfer

pablo (1)

Yn dilyn bach o ymchwil am fethodoleg a dulliau addysgu iaith gellir darllen amdano ymaces i ddiwrnod bendigedig heddiw yn arbrofi gyda rhai o’r dulliau a syniadau er mwyn datblygu fy ymarfer a chysidro effaith methodoleg gwahanol ar y broses o gaffael iaith.

Diben y blognod yma ydy rhannu’r syniadau a myfyrio ambell i bwynt am y profiad.

Dilyniant Addysgu

Roeddwn i’n addysgu setiau top Bl8 a 9 a phenderfynais  i arbrofi gyda’r grwpiau yma oherwydd eu bod nhw wedi gorffen uned o waith ac yn barod am asesiadau felly dw i’n derbyn bod hyn yn fantais ac efallai basai rhaid addasu ar yr ymarferion rhywfaint ar gyfer dysgwyr eraill.

  1. Twymo lan – Her 5 munud – Yn syth o ddechrau’r gwers, gofyn i’r disgyblion siarad gyda phartner yn Gymraeg yn ddi-stop am 5 munud. Bwydais i syniadau trwy adrodd geiriau allweddol yn yr iaith darged er mwyn codi hyder a rhoi man cychwyn. Es i o gwmpas yn gwrando ar y disgyblion ac roedd pawb yn llwyddo i gynnal sgwrs. Roeddynt yn holi am eirfa a phatrymau cwestiwn wrth i mi grwydro o gwmpas ac roeddwn i’n ymateb i gefnogi. Roedd rhaid i mi stopio yng nghanol yr ymarfer i egluro doeddwn i ddim yn disgwyl cofio popeth a’r patrymau llawn bob tro ac esbonio pwysigrwydd defnyddio’r llais fel arf i gyfleu ystyr; ac wrth ail-ddechrau roedd cyfathrebu go iawn yn digwydd gyda llawer yn ymestyn ar gynnwys ei sgwrs trwy arbrofi gyda’r llais.

  2. Dril cadwyn – Yn y rhan yma o’r wers, roedd y disgyblion yn gorfod gweithio mewn grwpiau o 4. Roedd rhaid i un disgybl dweud brawddeg a’r disgybl nesaf ail-adrodd y brawddeg a chynnig un newydd ac ymlaen. Doedd dim ots am gyswllt rhwng y brawddegau a gofynais iddynt geisio defnyddio’r ffurfiau cadarnhaol a negyddol yn ogystal ac amseroedd y ferf. Hefyd, gwnes i ysgrifennu gyfres o eiriau ar y bwrdd iddynt fel help os nad oeddynt yn gallu meddwl am rhai eu hunain – cymysgedd o enwau, berfau ac ansoddeiriau. Pwrpas y dril oedd i gadw i fynd mor hir a phosib. Ar ol 4 munud o ymarfer mewn grwpiau, chwaraewn y dril fel dosbarth cyfan wrth pigo ar unigolion. Llwyddodd y ddau ddosbarth i gyrraedd rhyw 17 brawddeg cyn i ni colli  ein ffordd.

  3. Dril cadwyn TPR – Cyflwyno’r un dasg ond y tro yma gofyn iddynt cysylltu’r brawddegau i greu stori a defnyddio ystymiau am bob brawddeg. Eto ail-adrodd y brawddegau ac ystymiau blaenorol cyn ychwanegu. Wrth gwrs, gofynais iddynt creu’r stori ar y topig roedden ni’n paratoi amdano. Cawson grwp neu ddau i arddangos y gwaith i’r gweddill a chodi pwyntiau yma ac acw.

  4. Creu cyflwyniad gyda’r un ymarfer ond y tro yma ychwanegu at y dasg drwy ofyn iddynt greu persona newydd a defnyddio llais gwahanol yn ogystal a’r ystymiau. 5 munud i ymarfer eto cyn gwrando ar enghreifftiau. Ymgais oedd hyn i ddatblygu ar rhai o syniadau Dadawgrymeg.

Yn fras iawn, dyma oedd braslun hanner awr o’r wers ac roedd yr ail-hanner wedi troi’n paratoi am asesiadau.

Roeddwn i wedi blinon’n siwps ar ol y ddwy wers a bod yn onest ac roedd yn waith caled iawn. Roedd tua 60% iaith darged gen i achos roedd rhaid i mi esbonio rhywfaint o’r theori er mwyn iddynt deall beth oedd pwrpas y gwaith ac ambell i bwynt er mwyn symud o batrwm gwers ffurfiol er mwyn i’r plant ymlacio digon i arbrofi’n llawn gyda’r methodoleg, gwaith a’r dasg.

 

Roedd awyrgylch y wers wedi newid wrth symud trwy’r camau. Roedd y disgyblion wedi ymlacio erbyn y diwedd ac wedi mwynhau arbrofi gyda’r ystymiau a lleisiau gwahanol. Roedd llawer o wenu a chwerthin ond roedd y lefel ymrwymiad yn y gwaith yn syfrdanol ac wedi rhoi ysgytwad enfawr i mi.

Roeddwn i’n clywed llawer o Gymraeg, defnydd o amrywiaeth o batrymau ac amseroedd y ferf, marciau disgwrs a mynegi barn.

Roedd llawer o hiwmor yn y cynnyrch a thipyn o feddwl creadigol wrth ddatblygu ystymiau, lleisiau gwahanol a chymeriadau difyr i adrodd y stori.

Heb os nac oni bai, roedd yr holl ail-adrodd wedi codi hyder y disgyblion ac roedd yr ynganu yn dablygu yn naturiol heb lawer o fewnbwn gen i.

Roedd rhaid i mi atal fy hun sawl tro rhag cywirio ambell i wall achos nid dyma ffocws y gweithgarwch … ac roedd y ffaith hyn yn bwysig o ran creu awyrgylch lle doedd neb yn mynd i feirniadu gwallau ynganu na chynnwys ond yn hytrach pwysleisio pwysigrwydd cyfathrebu’r gwybodaeth yn ddealladwy i’r gwrandawyr.

Roedd yn amlwg bod yr ystymiau yn help arbennig i’r cof i rai o’r disgyblion a doedden nhw ddim yn dibynnu ar ysgrifennu o’u llyfrau achos doedd dim llyfrau ganddynt.

Gwelaf potensial mawr i ddatblygu ar y math yma o ddrilio yn y dyfodol i gynnwys pwyntiau gramadegol gwahanol megis y trydydd person, cytuno ac anghytuno, chwarae rol a gwaith bydd yn cefnogi lefelau mwy uchel o ran darllen ar goedd a safonau llafar yn gyffredinol.

Roedd y disgyblion wedi gwerthfwrogi’r rhyddid i siarad yn rhydd o’r iaith gosodedig gwers arferol ac i mi roedd hyn yn golygu bod nhw’n defnyddio ac ail-gylchu’r iaith maen nhw eisioes wedi dysgu. Cynhyrchu yn lle ail-adrodd mewn camau bach cyfforddus o fewn y grwp.

A dyna ni. Fy arbrawf gynta gyda gwahanol cyfuniad o fethodoleg addysgu iaith a dw i’n hapus iawn gyda’r allbwn a wedi llwyddo i ddatblygu fy neallusrwydd ohonynt a hyder fel athro.

Am fwy o fanylion a gwybodaeth am y dulliau uchod, cliciwch ar y llun isod:

PhotoFunia-1448216626

Methodoleg a dulliau addysgu

pablo (1)

 

Dw i ‘di dechrau ar daith difyr o ddiweddar yn ymchwilio gwahanol dulliau addysgu iaith a methodoleg.  Mae yna bwysau mawr arnom fel athrawon dyddiau hyn i godi safonau a phan daw canlyniadau TGAU atom o flwyddyn i flwyddyn, mae’r pwysau yn cynyddu os nad yw’r canlyniadau fel y disgwylir.  Yn ychwanegol at hyn, rhaid delio gyda’r ffaith bod targedau i’r disgyblion yn codi o flwyddyn i flwyddyn ac yn creu mwy o bwysau i sicrhau canlyniadau gwell i’n disgyblion.

Wrth ystyried y broblem hyn dros nifer o flynyddoedd nawr a wedi arbrofi gyda phob math o wahanol dulliau a strategaethau i gwella’r canlyniadau, dw i ‘di cyrraedd famma. Wrth drafod gydag eraill yn ystod y blwyddyn academaidd diwetha a chanlyniadau is na’r disgwyl eto, des i i ddeall nad oes ‘ffa hudolus’ sy’n mynd i ddatrys y broblem. Problem arall sy’n bodoli i mi ydy’r ffaith bod rhannu ymarfer dda yn gallu bod yn peth drwg weithiau os ydy’r syniadau wedi eu trawsblannu o bynciau gwahanol – disgyblaeth meddwl gwahanol. Er enghraifft, dydy asesu cyfoedion ddim yn gweithio’n rhy dda wrth waith llafar yn yr iaith darged am resymau amlwg ond mae’r prosesau monitro yn beirniadu os nad ydyn ni’n defnyddio’r strategaeth. Rwy’n eitha sicr bod enghreifftiau di-ri gan athrawon CCS lle mae gweithgaredd y dosbarth yn golygu mwy o siarad neu gweithredu trwy’r Saesneg heb ystyried yr effaith ar y caffael a gwastraffu amser. Yn syml, dw i o’r farn os ydyn ni am codi safonau TGAU, rhaid sicrhau bod y plant yn gweithredu a siarad yn yr iaith darged trwy’r cyfnodau allweddol er mwyn sicrhau hyder a gallu yn y Gymraeg a gwir ymateb i her y TGAU yn lle’r geamu rhifau dyn ni’n chwarae ar hyn o bryd. Felly mae llawer o’r strategaethau yma’n cael eu datblygu yn gweithio yn erbyn y cred yma ac yn atal y cynydd hoffwn weld o ran siarad a cyrhaeddaid yn y Gymraeg.

Am y rhesymau hyn, gyda chefnogaeth a her gan fy mentor proffesiynol Mr G Wall, dechreuais ar daith yn edrych ar addysgu’r Gymraeg o safbwynt  newydd trwy edrych ar le hoffwn i fod a gweithio’n ol at Flwyddyn 7.  Dechreuais i ar ddatblygu 90% Iaith Darged bob gwers. Dechreuais i ddatblygu deunyddiau darllen a sicrhau bod darllen a llafar yn ganolbwynt i bob wers. Nawr dwi’n gweld bod gwaith caled a chynllunio craff yn hanfodol i wella ar fy sefyllfa. Rhaid newid fy ymarfer yn gyson er mwyn gwneud y gore mas o bob cyfle yn arfer i f’ymarfer.

Dw i heb os ‘di gweld rhywfaint o newid yn y disgyblion, a chware teg iddynt, mae wedi arwain at llawer o bethau positif ac arddangos nifer o ardaloedd lle mae angen mwy o gwybodaeth arnaf i ddeall mwy am y dulliau a thechnegau i’w addysgu yn well. Mae hyn wedi arwain at lawer o ddarllen blogiau, erthyglau ac ymchwil am addysgu iaith. Mae peth wmbreth o wybodaeth am wahanol methodoleg a dulliau addysgu iaith a’r rhan fwyaf yn ITM achos does neb yn trafod CCS o ddifri.

Dyma rhestr o’r rhai dw i wedi dod ar eu traws hyd yma a wedi defnyddio yn ystod fy nghyrfa:

  • Cyfieithu Gramadegol – methodoleg sy’n golygu addysgu rheol gramadegol a wedyn gwneud ymarferion cyfieithu er mwyn datlbygu’r deallusrwydd;
  • Y Dull Union – methodoleg sy’n gweithredu trwy’r iaith darged a’r disgyblion yn gweithio’r iaith allan drwy ymarfer cyson. Enw arall am hyn ydy’r Dull Naturiol achos dyma’r ffordd dysgom ein mamiaith – gwrando, copio a chynhyrchu. Mae’r pwyslais ar siarad ac mae’n anodd iawn fel dull i greu digon o drochi ym mywyd y disgyblion. Mae’r dril ail-adrodd yn dechneg canolog i’r dull yma a dw i wedi blogio am hyn eisioes yma;
  • Iaith Glywedol – Mae’r dull yma hefyd yn cynnwys elfen gref o ddrilio gan ei fod yn dibynnu ar ddatblygu arferion dysgu da ac mae ail-adrodd cyson a phwrpasol dros amser yn arwain at datblygu’r iaith sy wedyn yn arwain at ysgrifennu yn y pen draw.  Mae’r dril disodli a dril trawsnewid yn bwysig yma i ddatblygu’r patrwm a disodli /trawsnewid elfennau o’r patrwm i greu brawddegau newydd;
  • Trochi – Dyma dull arall sy’n galw am lawer o iaith darged a diwylliant. Anodd iawn i greu’r amgylchiadau iawn yn y dosbarth CCS heblaw bod Cymraeg yn rhan naturiol o fywyd ysgol. Er mwyn creu’r fath amgylchiadau, basai angen i’r disgyblion derbyn mwy o’i addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Serch hyn, mae gweithgaredd sy gwbwl yn yr iaith darged yn dymunol bob amser;
  • Ymateb Corfforol Llawn (TPR) – Mae’r dull yma yn galw ar ddisgyblion i ymateb trwy gwneud yr hyn sy’n cael ei ofyn neu cael symudiadau corfforol i gefnogi dysgu geiriau/brawddegau. Mae hyn yn datblygu wedyn i straeon mae’r disgyblion yn actio allan;
  • Cyfathrebol – Dyma un o’r prif-ddulliau ac mae’n cyfuno llawer ar y dulliau blaenorol. Mae’n canolbwyntio ar ddatblygu ffwythiannau fel holi ac ateb, disgrifio neu adrodd. Dydy gramadeg ddim mor bwysig yn y dull yma ond yn hytrach pwysleisio defnyddio’r iaith yn gyson sy’n arwain at eu datblygiad;
  • Dysgu Drwy Dasg – Mae’r dull yma yn seiliedig ar ddysgu trwy cwblhau tasgau gwahanol. Yn dilyn cyfres o wersi, bydd y disgyblion yn cwbwlhau tasg penodol sy’n gofyn iddynt defnyddio’r hyn maen nhw wedi dysgu ond yn seiliedig ar y thema penodol;
  • Dadawgrymeg – Mae’r dull yma yn seiliedig ar y ffaith bod dysgu iaith yn anodd ac mae defnyddio’r iaith yn effeithio ar hyder y disgybl. Y pwyslais ydy gwneud popeth mor ymlaciol a phosib a defnyddio cymeriadau gwahanol i ymarfer yr iaith yn lle. Mae’r disgybl yn derbyn persona newydd ac mae hyn i fod i lleihau ar y stres o ddefnyddio’r iaith;
  • Dulliau Technoleg – Mae peth wmbreth o wahanol dulliau yn deiliedig ar ddefnyddio cyfrifiadur/technoleg megis Duolingo, Memrise, Rosetta Stone ac ati. Rwy’n eitha sicr bod llawer o’r dulliau uchod yn rhan o’r meddalwedd.

Mae yna llawer mwy o ddulliau a strategaethau wrth gwrs a dw i’n gobeithio fy mod i wedi llwyddo i roi flas ohonyn nhw yma heb or-symleiddio’r theori .

Wedi dweud hyn oll, does dim ‘ffa hudolus’ a dydy un dull ddim yn mynd i ateb y broblem. Wrth ystyried y dulliau, dw i wedi darganfod fy mod innau yn defnyddio llawer ohonynt yn rheddfol dros y blynyddoedd ond tan nawr doeddwn i ddim yn ymwybodol bod fy ymarfer YN SEILIEDIG ar ddulliau sefydlog go iawn. Mae hyn yn caniatau i mi ddadlau nad yw popeth yn addas am fy nosbarth nac adran am rhesymau teilwng a dydw i ddim bellach yn teimlo fel llong heb angor. Datblygu fy arbenigrwydd yn y dulliau yma sy’n bwysig nawr a deall sut gall y gwahanol dulliau bod o ddefnydd a chymorth i’r amrywiaeth eang o ddisgyblion sy gen i.

Dechrau taith sy yma yn unig ond yn sicr mae angen chwyldro arna i er mwyn codi safonau, ac yn bwysicach, i gefnogi’r disgyblion i allu siarad a chyfathrebu yn y Gymraeg yn y dyfodol. Wrth edrych ar fy nosbarth TGAU ar hyn o bryd, pa mor wahanol fasen nhw’n perfformio yn eu haroliadau taswn i wedi deall sut mae’r dulliau gwahanol yma yn gweithio ac i ba pwrpas a taswn i wedi dechrau defnyddio mwy o’r dulliau a theori yma pan oeddynt ym mlwyddyn saith?  Pwy a wyr? Bydd blwyddyn saith yn elwa heb os nac oni bai. #Ymlaen