Ffurflenni Gwgl

images

Dyma flognod sydyn i rannu syniadau am sut i ddefnyddio Ffurflenni Gwgl i greu ymarferion pwrpasol a defnyddiol fel gwaith cartref.

  1. Ymarferion cyfieithu – yn syml, gellir rhoi nifer o eiriau neu batrymau brawddeg i’r disgyblion cyfieithu. Mae cyfieithu yn ymarfer da ac yn cefnogi datblygu geirfa.
  2. Ysgrifennu atebion i gwestiynau neu cwestiynau i gyd fynd gyda atebion. Mae hyn yn y dull trochi oherwydd does dim Saesneg. Gwych!
  3. Cyflwyno testun a chreu cwestiynau aml-ddewis, ateb un gair neu frawddeg. Mae’n bosib ymarfer rhoi atebion llawn hefyd wrth gwrs neu troi i’r trydydd person ney unrhywbeth ramadegol a dweud y gwir – dychymyg yn unig sy angen yma.
  4. Cyflwyno cwestiwn ac ysgrifennu ateb estynedig. Gellir gosod geiriau allweddol neu symbyliad yn Ffurflenni Gwgl hefyd i gefnogi’r ymateb.
  5. Gellir mewn-osod lluniau neu cwestiynau arholiad. Mae hyn yn wych i dorri’r ymateb lan ac yn ymarfer dda wrth adolygu – ac yn llai boenus na papur llawn go iawn wrth meithrin y sgiliau.
  6. Gellir mewnosod fideo hefyd a felly mae’n bosibl creu ymarferion/asesiadau gwrando yn defnyddio’r un dulliau ac uchod.

Dyma fideo sy’n egluro sut i ddefnyddio Ffurflenni Gwgl i’w llawn potensial.

Pan mae’r disgyblion wedi cwblhau a danfon eu hatebion, mae Ffurflenni Gwgl yn creu taenlen o’r atebion. Yn Taflenni Gwgl wedyn, mae’n bosibl gwneud ‘fformatio amodol’ yn y taenlen er mwyn marcio’r gwaith a rhoi fformiwlas i gyfri’r amodau.  Yn ogystal, mae’n bosib gyda atebion aml-ddewis i gael Flubaroo i farcio atebion. Dyma fideo sy’n esbonio sut …

Mae Ffurflenni Gwgl yn cynnig llawer o opsiynau am greu gwaith cartref pwrpasol ac effeithiol at ddiben penodol gall disgyblion neud ar gyfrifiadur neu ar eu ffonau neu iPad/Llechen.

Dyma rhai dw i ‘di datblygu hyd yma ac yn aros am ymatebion 🙂 :

Enghraifft 1 : Darllen

Enghraifft 2 : Gwrando

Enghraifft 3: Ysgrifennu

Hashnodau CAi (2)

#rhannuywcaru  #DGCS16  #AddCAi

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s