Cymraeg Ail-Iaith – Be nesa?

$_35

Dyma flognod i rhannu fy ymateb i’r holl cyhoeddiadau yma ac yma sy wedi bod yr wythnos hon am sefyllfa Cymraeg Ail-iaith a’r Cwricwlwm Newydd. Hefyd, dyma ymateb i flognod arall gan @MrGWallCymraeg yma. Cyn mynd ati, hoffwn gwneud dau bwynt er mwyn clirio’r awyr:

  1. Dw i, yn bersonol, ddim yn hoffi’r term Cymraeg Ail-iaith. Rydym yn defnyddio Cyfrwng Cymraeg wrth drafod ysgolion sy’n addysgu pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg felly pam nid Cyfrwng Saesneg i drafod ysgolion sy’n addysgu pynciau trwy’r Saeneg? Cyfrwng dwyieithog sy’n disgrifio ysgolion sy’n addysgu canran o’r pynciau yn Saesneg a Chymraeg. Mae’r term Ail-iaith yn ddiffygiol i ddisgrifio sefyllfa lawer o ysgolion achos nid ail-iaith ydyn nhw ond rhywbeth tebycach i Ieithoedd Modern Tramor. Does dim ail-iaith dim ond iaith darged, felly Cyfrwng Saesneg dw i’n defnyddio.
  2. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi’r erthygl yma yn ddiweddar yn galw ar Huw Lewis i gael gwared o Cymraeg Ail-iaith oherwydd adroddiad yr Athro Sioned Davies a geiriau Huw Lewis ei hun a gweithredu ar symud at addysg Gymraeg i bawb.. Gan ystyried 1 uchod, dw i’n cytuno’n llwyr a dylem dechrau trafod dyfodol Cymraeg Cyfrwng Saesneg a throi ein cefnau ar ‘Cymraeg Ail-iaith’.  Fodd bynnag, mae’r erthygl, a’r ymgyrch yn ystod yr Eisteddfod eleni, wedi creu cryn dipyn o ddrwg deimlad a thrafod ymysg fy nghyd-weithwyr “ail-iaith” gan fod y neges sy ganddynt yn galed ac yn wleidyddol iawn ond yn anwybyddu barn a phrofiad y rhai sy wedi bod wrthi’n gweithio mor galed o dan amgylchiadau amhosib am nifer o flynyddoedd. Nid bai yr athrawon mohoni! Mae athrawon “ail-iaith” bron i gyd yn cytuno nad yw’r system presennol wedi llwyddo i greu siaradwyr hyderus erbyn diwedd gyrfa ysgol ac yn fethiant, a’r prif rheswm ydy diffyg arweiniad a statws gan gwleidyddion. Does dim amheuaeth am hyn! Wrth edrych heibio’r spin yn yr erthygl a rhoi sylw fanylach i’r papur, mae’n amlwg bod barn athrawon “ail-iaith” yn gyffredinol yn debyg iawn i rhai Cymdeithas yr Iaith. Dydy’r system presennol ddim yn caniatau nac yn llwyddo i gyrraedd y nod a bod angen chwyldro go iawn i sicrhau gwelliant, ond er mwyn gwireddu breuddwydion Cymdeithas, dylen nhw ystyried yn llawnach o le mae’r gweithlu yn mynd i godi ac efallai cydnabod bod athrawon “ail-iaith” wedi gwneud ei gorau glas o dan yr amgylchiadau i hybu’r Gymraeg a bod nhw’n haeddu mwy o glod am y gwaith arbennig maen nhw wedi cyflawni. Tybed faint o’r tyfiant yn y Cyfrwng Cymraeg sy o ganlyniad dylanwad positif athrawon Cyfrwng Saesneg? Fy mhrofiad personol i ydy llawer yn fy ardal. Dydw i ddim yn anghytuno gyda dadl Cymdeithas ond yn poeni am y ffordd maen nhw’n cyflwyno’r dadl ger bron y cyhoedd. Mae llawer yn teimlo bod Cymdeithas yn rhoi’r bai am y fethiant ar y athrawon ac mae hynny’n ffaith be bynnag yr ymateb i’r blognod hwn.

Reit, i’r blognod! Isod, gwelir rhai o’r pwyntiau sy wedi codi o ran dyfodol y Gymraeg yn dogfen Dywigio’r Cwricwlwm a gyhoeddwyd gan Llywodraeth Cymru ddoe:

 ‘Ar sail yr egwyddorion yn Cymwys am oes, mae Dyfodol Llwyddiannus yn cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg i’n    hunaniaeth fel gwlad. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weld y Gymraeg yn ffynnu. Dyna pam y bydd y      Gymraeg yn parhau’n elfen orfodol yn y cwricwlwm i bob dysgwr nes bydd yn 16 mlwydd oed, fel y mae’r            adroddiad yn argymell. Bydd y cwricwlwm newydd yn rhoi modd i sicrhau bod pob dysgwr yn gallu meithrin ei sgiliau iaith Gymraeg a defnyddio’r iaith yn hyderus mewn gwahanol gyd-destunau.’

  • Mae Cymraeg yn parhau fel pwnc gorfodol tan 16 oed i bob disgybl yng Nghymru. Bydd y cwricwlwm newydd yn sicrhau bydd cyfle i bawb cyrraedd lefel lle byddant yn gallu cyfathrebu’n hyderus mewn gwahanol gyd-destunau. Mae’r datganiad yma yn un bositif ac yn cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg. Bydd rhaid sicrhau bod y statws yma yn cael ei adlewyrchu yn y mesurau perfformiad y dyfodol neu bydd dim gorfodaeth ar timau rheoli i ymateb i’r her yma.

‘Dylid hyrwyddo’r gwerth sy’n gysylltiedig â’r Gymraeg drwy ganolbwyntio i fwy o raddau ar ei gwerth masnachol yn y farchnad swyddi, y manteision gwybyddol o ddwyieithrwydd sydd wedi’u hawgrymu a’i phwysigrwydd o ran galluogi plant a phobl ifanc i gael dealltwriaeth dda o fywyd diwylliannol Cymru yn y gorffennol a’r presennol. Bydd pwyslais o’r newydd ar ddysgu Cymraeg yn bennaf fel dull o gyfathrebu, yn enwedig cyfathrebu a deall llafar. Bydd y defnydd o dechnoleg i helpu plant a phobl ifanc i ddysgu’r iaith yn cael ei ddatblygu ymhellach.’

  • Hyrwyddo gwerth yn y pwnc trwy ganolbwyntio ar 1) Gwerth y Gymraeg yn y gweithle, 2) Manteision gwybyddol dwyieithrwydd a 3) Diwylliant a hanes Cymreig. Bydd pwyslais ar deall a siarad Cymraeg. Bydd datblygu technoleg i gefnogi’r addysgu yn parhau i ddatblygu. Cytuno gyda’r datganiadau yma ond bydd rhaid sicrhau bod hyn yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg ar lawr y dosbarth neu bydd yr iaith yn aros mewn bocs yr ystafell ddosbarth. Bydd mwy o bwyslais ar siarad a sgiliau llafar yn rhywbeth positif iawn achos ar hyn o bryd, nid dyna’r nod o fewn y cwricwlwm ond graddau TGAU. Gellir cyrraedd A* ond methu cyfathrebu’n naturiol yn y Gymraeg bob dydd!!

‘O fewn Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu, datblygir pwyntiau cyfeirio ar gyfer cynnydd a deilliannau cyflawniad i feithrin sgiliau iaith Gymraeg dros amser fel y bydd dysgwyr ym mhob lleoliad a ysgol yn gallu cael cydnabyddiaeth am y sgiliau y maent yn eu dysgu.’

  •  Bydd deilliannau cyflawniad newydd i feithrin sgiliau iaith Gymraeg o 3-16 a bydd rhain yn eistedd o fewn Maes Dysgu a Prhofiadau Ieithoedd, llythrenned a chyfathrebu. Gwych! Ar hyn o bryd, mae Cymraeg Cyfrwng Saesneg yn eistedd tu allan i’r fframwaith llythrennedd a rhifedd mewn llawer o ysgolion ac felly llai o statws a chyfraniad i’r ysgol gyfan. Dw i wir yn gobeithio bydd y deilliannau newydd yn synhwyrol a realistig ac yn llawer mwy glir na’r Cwricwlwm Cenedlaethol presennol sy ddim yn ffit i’r bwrpas ac yn gadael llawer o gormod o le i dwyllo’r system a chwarae gemau rhifol ein system data cyfoethog.

‘Bydd cymwysterau iaith Gymraeg yn 16 oed yn cael eu hadolygu er mwyn sicrhau bod set o gymwysterau ar gael sy’n galluogi dysgwyr i symud ymlaen i astudio Cymraeg ar Safon Uwch ac yn y brifysgol. Bydd opsiwn hefyd i ddysgwyr ennill cymhwyster sy’n cyd-fynd â’r pwyslais arfaethedig ar siarad a gwrando a defnyddio’r iaith yn y gweithle.’

  •  Dw i’n deall o’r datganiad yma bydd cymwysterau newydd. Dw i ddim yn sicr ond gwelaf 2 llwybr yma, sef cymwysterau sy’n arwain at Lefel A a’r prifysgol ac opsiwn i eraill ennill cymhwyster alwedigaethol gyda pwyslais ar siarad a gwrando at lefel lle byddant yn gallu gweithredu yn y gweithle. Efallai fy mod i’n mynd o flaen gofid yma ond onid dyma sy gyda ni yn barod a does dim gwir newid yn y datganiad yma. Pwy fydd yn dewis pa opsiwn? Gwelaf problemau yn codi gyda hyn. Dw i’n cytuno bod cymhwyster yn canolbwyntio ar siarad yn beth da ond os ydy hyn yn gorfodu addysgu iaith yn addas i’r gweithle ac nid addysgu’r iaith yn llawn, bydd yn anodd cymharu a mesur perfformiad yn y pen draw!

‘Bydd anghenion penodol addysgu cyfrwng Cymraeg yn cael eu hystyried yn drwyadl wrth ddatblygu’r trefniadau ar gyfer strwythur y cwricwlwm, gan gynnwys trefniadau asesu. Bydd hyn yn cynnwys rhannu arferion da mewn dulliau addysg drochi a’r dulliau sydd eu hangen ar gyfer addysgu’r cwricwlwm drwy gyfrwng y Gymraeg.’

  •  Ydy’r datganiad yma yn benodol i’r Cyfrwng Cymraeg?? Dw i’n gobeithio na! Mae’r arferion da a’r defnydd o addysg drochi yr un mor bwysig i’r Cyfrwng Saesneg os ydyn ni am greu siaradwyr. Yn bellach, dylai ddulliau sy’n addas ar gyfer addysgu’r cwricwlwm drwy gyfrwng y Gymraeg cael ei rhannu gyda Cyfrwng Saesneg achos bydd heb os nac oni bai bydd rhaid addysgu’r elfennau hanes a diwylliant yn y Gymraeg. Rhaid ein bod yn gallu addysgu cynnwys dtwy’r Gymraeg yn y Cyfrwng Saesneg neu bydd dim newid.

‘Y camau y mae angen eu cymryd, pryd a phwy fydd yn cymryd rhan?

› Bydd consortia rhanbarthol yr awdurdodau lleol yn atgyfnerthu’r cymorth rhwng ysgolion drwy eu gwaith cyfredol ac mewn partneriaeth â rhanddeiliaid eraill sydd â’r arbenigedd angenrheidiol.

› Drwy gydweithio ag Estyn a’r awdurdodau lleol, bydd Llywodraeth Cymru’n nodi ac yn rhannu arferion da o ran dysgu ac addysgu Cymraeg ail iaith.

› Bydd Llywodraeth Cymru’n cydweithio â Chyngor y Gweithlu Addysg i gael gwell dealltwriaeth o sgiliau iaith Gymraeg y gweithlu presennol wrth ystyried darparu hyfforddiant iaith Gymraeg i’r gweithlu.

› Bydd Cymwysterau Cymru’n ystyried ystod bresennol y cymwysterau Cymraeg ail iaith ac yn cynghori ynghylch sut y dylai’r rhain newyd yn sgil yr argymhellion a gaiff eu cyflwyno yn Dyfodol Llwyddiannus. Byddant hefyd yn cynghori ynghylch sut y gall y disgwyliadau sydd ynghlwm wrth y cymwysterau hynny gael eu codi yn y tymor hwy.’

  • Bydd y consortia yn parhau gyda’r gwaith o geisio cael ysgolion i rannu arfer dda! Wel, os ydy fy mhrofiad i yn unrhywbeth i fynd arno, bydd hyn yn dalcen caled o ran Cyfrwng Saesneg. Bydd Estyn a Llywodraeth Cymru yn hybu rhannu arfer dda hefyd ond Cymraeg Ail-iaith bydd y term! Bydd hyfforddiant Cymraeg i’r gweithlu. Dw i ddim yn siwr am beth mae hyn yn golygu. Cyfeirio at y cynradd efallai lle nad oes digon o siaradwyr i wireddu’r nod.  Dyma bwynt diddorol. Bydd y gweithlu yn gwynebu newidiadau arfaethedig y cwricwlwm newydd ac yn gorfod dysgu’r iaith hefyd. Croesawaf cymwysterau newydd ond dyna’r term eto!! Mwy o gynghori i ddod a dw i wir yn gobeithio bydd hyn yn cynnwys y gweithlu presennol ac nid ‘arbenigwyr’ sy fel arfer ddim wedi bod yn yr ystafell ddosbarth amser hir.

I grynhoi, mae gen i deimladau cymysglyd am y dyfodol. Mae’n gyfle i greu rhywbeth gwell ond ydy’r datganiadau yma yn mynd yn ddigon pell i ddod i afael a’r chwyldro sy ei angen mewn gwirionedd. Mae llawer o waith dal i wneud gennym i sicrhau bod y pwerau yn gwrando ar yr arbenigwyr ar lawr y dosbarth. Mae’r system a’r cwricwlwm presennol ddim yn caniatau llwyddiant i’r rhan helaeth o blant Cymru a dydw i ddim gweld yn y datganiadau uchod llawer i wella ar hynny.

Advertisements

5 thoughts on “Cymraeg Ail-Iaith – Be nesa?

  1. Credaf yn gryf fod angen Ystyriwch dyfodol yr Iaith heb son am ail iaith. Fel dw I eisoes wedi dweud mae cannoedd neu filoedd o bobl sydd yn medru defnyddio’r iaith ond yn ddihyder. Chwyldro cymdeithasol sydd angen lle mae pawb yn cefnogi ein gilydd heb roi gormod o bwyslais ar Addysg fel yr unig ateb. Diolch am godi sawl pwynt hynod o bwysig.

    Hoffi

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s