Hecsagonau SOLO

OGSOLO

Diben y blognod yma ydy cyflwyno syniad i gefnogi disgyblion i ddatblygu patrymau brawddegau a disodli elfennau penodol.

Gellir lawrlwytho templed o hecsagonau gwag yma – SOLO

Yn syml, paratowch setiau am grwpiau neu unigolion.  Creuais i set ar sail y tabl isod, ond gellir amrywio fel mynnwch:

20151004_165214

Fel hyn:

20151004_164830

Nawr, yn wahanol i greu brawddegau allan o eirfa, mae defnyddio’r hecsagonau yn rhoi cyfle i’r disgyblion gweld y cysylltiadau rhwng y strwythurau.  Mae’r lliwiau sy’n targedu elfennau sylfaenol brawddeg yn ddewisiol ac wrth gwrs mae’r rhai gwag yn rhoi cyfle i’r disgyblion ychwanegu geirfa neu elfennau newydd.

Dyma rhai enghreifftiau:

2015-10-04 17.09.40 2015-10-04 17.10.34 20151004_171509 20151004_171805

Gellir wedyn gofyn i’r disgyblion cofnodi faint o frawddegau gwahanol gallen nhw cynhyrchu yn defnyddio’r gwahanol enghreifftiau.  Syniad arall ydy gofyn iddynt stacio’r hecsagonau lle gellir rhoi dewis arall – EE Rydw i’n, Mae e’n, Mae hi’n, Dydw i ddim yn a wedyn tynnu nhw i ffwrdd i greu’r brawddegau gwahanol.

Y peth i ystyried ydy’r tabl a’r cynnwys. Os cewch hyn yn iawn, mae’n ymarfer hwylus ond pwrpasol iawn yn fy marn i.

#SyniadauSul

Advertisements

2 thoughts on “Hecsagonau SOLO

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s