Rhannu Arfer Dda – Da neu’n ddrwg?

Middle-managers

Dros y tymor diwetha’, dwi a Glenn Wall ‘di bod yn gweithio’n galed i sefydlu ffordd i athrawon Cymraeg Cyfrwng Saesneg rhwydweithio ar-lein. I’r perwyl hyn, dyn ni ‘di cychwyn blog, creu Dropbox, creu grwp FB a cheisio datblygu gwahanol dulliau i bobl cyfrannu at prosiectau gwahanol fel casglu syniadau am weithgareddau llafar neu rhestrau o crebachiadau’r iaith a cychwyn trefnu Dysgwrdd. Efallai fy mod i bach yn ddi-niwed yma ond ro’n i’n siwr bod angen ffordd i gysylltu gyda athrawon, rhannu syniadau a thrafod materion o ddiddordeb i ni yn ein swydd, ond mae rhaid i mi gyfadde, efallai fy mod i’n anghywir a diben y blog yma ydy ystyried y peth yn fwy manwl a gobeithio cychwyn sgwrs amdano.

Dros y blynyddoedd diwetha, mae mynediad i DP da ‘di newid. Am un peth, mae’r gost i’r ysgolion am ‘cover’ a llai o’n ysgolion sy moyn i staff mynd ar gyrsiau a cholli amser yn y dosbarth; er bod hyn yn amrywio o ysgol i ysgol. Rhaid ystyried hefyd bod ansawdd yr hyffroddiant yn gallu amrywio a weithiau dydy cynnwys y cyrsiau ddim yn adlewyrchu ein anghenion yn ddigonol.  Mae’r swydd yn newid bob yn ail funud ac mae ffads addysgiadol wedi tyfu a hefyd y strategaethau mae ysgolion yn gorfodi arnom ni sy ddim bob amser yn cefnogi datblygu siaradwyr hyderus; megis starters rhifedd/llythrenned, asesu am ddysgu ac yn y blaen. Mae na rhyw ffasiwn newydd rhaid dod i gafael a hi yn barhaol sy fel arfer yn golygu mwy o siarad Saesneg yng nghyd-destun y wers a llai o Gymraeg.  Hyd yn oed fel athro profiadol, dwi’n teimlo bod angen help arna i i wella f’ymarfer yn y dosbarth a thrafod materion bob dydd a dulliau dysgu i godi safonau.  Yn ein pwnc ni, dyn ni’n gorfod creu bron pob dim o’r cychwyn ac mae’n llawer o bwysau ychwanegol ar ben y cynllunio, marcio, asesu a’r hunan-werthuso. Dyma rhai o’r rhesymau o’n i’n tybio bod angen creu fforwm i athrawon Cymraeg Cyfrwng Saesneg cael trafod a rhannu syniadau.

Wrth ddilyn y trywydd yma, dwi wedi f’ysbrydoli gan pethau dwi’n gweld ar Drydar rhwng ysgolion yn Lloegr, Awstralia, America, Seland Newydd a mewn llawer o wledydd eraill – mae grwp addysg gan bob talaith yn America!  Grwpiau a PLC’s yn trafod a rhannu deunyddiau byth a hefyd 24 awr y dydd. Athrawon yn gofyn am gefnogaeth neu deunyddiau ar rhywbeth ac yn derbyn llwyth o ymatebion gan athrawon eraill sy wedi datblygu trwy cyd-weithio.  Dwi ‘di dod ar draws cymaint o bethau diddorol sy ‘di fy herio i ddatblygu rhwydwaith tebyg i’n cefnogi ni. Allan o hyn, dwi ‘di sylwi ar flogiau di-ri sy’n llawn gwybodaeth arbenigol iawn am be’ sy’n effeithiol a be sy’n ffad.  Yn lle llynci’r ffad newydd, mae’n rhoi cyfle i mi ystyried pa mor dda ydy hi, beth ydy’r ymchwil tu cefn i’r strategaeth ac mae nifer o bobl baswn i nawr yn gofyn am gyngor cyn symyd ymlaen gyda datblygu agwedd o f’ymarfer rhag ofn fy mod i jest yn dilyn y ffad diweddaraf.

Mae dyfodiad y Dysgwrdd yn datblygiad diddorol. Mae llawer iawn ohonynt yn digwydd trwy Loegr trwy’r flwyddyn, gan gynnwys y gwyliau, a’r gwir amdani, dyma dyfodol DP ac hyfforddiant. O’r digwyddiadau yma, lle mae athrawon yn dod at ei gilydd ac yn rhannu syniadau, technegau, technoleg, ymarfer a chanlyniadau ymchwil personol gyda’i gilydd, mae llif o flogiau a rhannu deunyddiau yn digwydd dros y we wrth ddefnyddio GDrive, Dropbox a blogiau. Sail y llwyddiant yn fy marn i ydy’r meddylfryd bod rhannu a datblygu ein gilydd wedi sefydlu’n gadarn ac mae parodrwydd cynnig rhywbeth a derbyn beirniadaeth er mwyn gwella rhyw adnodd yn ymarfer cyffredin a felly mae’r arbenigrwydd a meistrolaeth yn tyfu.

Yn amlwg, mae’r rhwydweithio a defnyddio technoleg i gyfathrebu yn y ffordd yma wedi bod yn digwydd dros y blynyddoedd diwetha ac mae Trydar yn arf DP pwysig iawn iddynt.  Dim ond eisiau sbio ar #aussieEDchat #ukedchat #edchat i weld effaith hyn oll. Ceir hefyd @SLTChat a @MLTchat lle mae athrawon yn dod at ei gilydd i drafod rhyw agweddau o addysg yn gyson.  Yn y ffordd yma, mae’r negeseuon cywir yn cyrraedd athrawon ar lefel cenedlaethol.  Mae’r pethau yma’n sefydlog iawn erbyn hyn ac yn parhau i ddatblygu’n gyflym iawn.

Rydyn ni fel athrawon Cymraeg Cyfrwng Saesneg yn bell ar ei hol i yn fy marn i a does dim awydd gan llawer i gymryd mantais o’r cyfleoedd mae technoleg, cyfryngau cymdeithasol a rhwydweithio yn gallu rhoi i ni.  I orffen y blog yma hoffwn codi pwyntiau efallai sy’n nodi rhai o’r rhesymau posib sy’n rhwystro’r datblygiad rhyngom yn y sector Cyfrwng Saesneg er mwyn ein helpu dechrau gweithio trwyddynt a chamu mlaen i’r dyfodol a llwyddiant y pwnc.

1. Amser – Dyn ni’n brysur ofnadwy ac mae’n anodd dod o hyd i’r amser sy angen ymgyfarwyddo a’r technoleg, apiau, Trydar ayyb. Mae llawer o athrawon yn boddi dan tomen o waith a disgwyliadau ac yn teimlo’n gryf nad oes amser ganddynt i dreulio’n pori a darllen. Pwynt teg iawn ond yn agwedd sy’n rhwystro’r datblygiadau posib; ac efallai bod ffyrdd ar gael eisioes i wneud pethau yn well i ni basai’n creu mwy o amser yn y pendraw.

2. Amseri – Pryd mae’r amser gore i gychwyn pethau? Mae pob tymor yn llawn dop o waith ar bob lefel. Does dim amser da i gychwyn ar y daith mewn gwirionedd a phan ystyriwn teulu a bywyd tu allan i addysg a’n swyddi, mae llai byth o amser.

3. Sgiliau – Mae rhai heb os nac oni bai yn ofni technoleg. Dydyn nhw ddim yn gyfforddus yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn broffesiynol. Ar y llaw arall, mae dysgu’r sgiliau yn cymryd amser ac ymdrech ac yn tueddu digwydd trwy gwneud camgymeriadau ac mae hyn yn gallu bod yn rhwystredig iawn.  Mae Llythrennedd Digidol ar stepan drws a dwi ddim yn credu gallen ni osgoi technoleg a datblygu’r sgiliau am fwy o amser.  Pwynt arall ydy gall defnyddio’r technoleg symleiddio ein gwaith a’n cefnogi i wneud pethau mewn llai o amser; yn enwedig os ydyn ni’n rhannu profiadau a rhannu ein cynnyrch.

4. Ofn – Mae rhai yn teimlo nad yw ei gwaith nhw yn ddigon da i rannu. Efallai bod nhw’n teimlo bod nhw’n traddodiadol neu’n anhyderus yn yr iaith.  Ceir ofn o dderbyn beirniadaeth gan eraill o ran safon iaith neu safon deunyddiau.  Er fy mod yn deall hyn a wedi gorfod gwynebu hyn fy hun dwi’n teimlo ei bod yn feddylfryd cul sy’n ein rhwystro rhag cymryd y cam cyntaf a dechrau datblygu. Os nad yw’r iaith yn gywir, bydd llawer o bobl yn helpu a chywiro a dros amser bydd yr adnodd wedi gwirio i berffeithrwydd. Gellir rhannu a gofyn i bobl gwirio cyn cyflwyno yn y dosbarth ac efallai derbyn cyngor ar ddatblygu neu mireinio dy feddyliau di am be hoffech i’r adnodd gwneud. Os ydyn ni gwir am gwella ein adnoddau ac ymarfer, rhaid i ni fod yn digon dewr a hyderus i gadael i bobl ei beirnadu’n adeiladol ac os oes rhywrai yn negyddol – So what? – nhw bydd ar golled!

5. Cystadlu – Mae’r pwynt yma yn un anodd i ddiffinio ac mae’n gallu bodoli ar sawl lefel. Yn fras, dydy rhai athrawon ddim eisiau rhannu adnoddau achos dydyn nhw ddim eisiau i rhywun arall ei defnyddio’n well neu elwa o’i gwaith.  Mae hyn yn mynd i ganol y broblem yn fy marn i. Mae rhywbeth yn ein hatal rhag rhannu achos mae llawer jest yn piodu ein syniadau a dim yn cyfrannu.  A thu cefn i hyn oll ydy’r hen gwmwl ddu yna … beth os ydy eu canlyniadau nhw’n well na rhai fi ac maen nhw’n defnyddio fy adnoddau/syniadau i.

Dyma rhai o’r pwyntiau dwi’n gweld yn broblem wrth ystyried sut i wella’r sefyllfa a dod dros rhai o’r rhwystau hyn. Yn fy marn i, mae’n bwysig ein bod ni’n cael y dadl ac agor y bocs pandora.

Os oes barn gennych, neu hoffech cyfrannu i’r dadl, gadewch sylw neu sgwenna blog arall a thagio fy mlog i mewn fel fy mod yn gallu ymateb yn llawn.

CKIiHzHWEAAZIx3

Advertisements

5 thoughts on “Rhannu Arfer Dda – Da neu’n ddrwg?

  1. Blognod teg iawn, Mr. Mock. Rwyt ti’n codi sawl pwynt pwysig. Er hynny, dwi yn teimlo, weithiau, fel bod athrawon Cymru yn gwneud esgus dros beidio â defnyddio technoleg a rhannu ayyb; rydym yn byw mewn oes technoleg, lle mae dod o hyd i wybodaeth y rhwydda ag y mae erioed wedi bod – dim ond angen mynd ar YouTube a chwilio am diwtorial ar sut i wneud rhywbeth a gewch filoedd o fideos! Iawn, dwi’n cytuno – rydym yn brysur ofnadwy, ond mae ANGEN ffeindio’r amser; yn anffodus does dim llawer o adnoddau Cymraeg cyfrwng Saesneg da gyda ni, ac nid ydynt yn creu eu hunain. Rhaid inni fuddsoddi ein hamser i mewn i ddysgu defnyddio’r dechnoleg yn fy marn i. Mae lle i “draddodiadol”, ond am faint mor hir erbyn hyn? Mae’n siŵr erbyn diwedd y deng mlynedd nesaf fydd “traddodiadol” actiwli yn AMHRIODOL! Dyn ni naill ai’n cadw lan gyda gweddill y byd neu foddi a methu!

    Hoffwyd gan 1 person

    1. Diolch o galon am dy sylwadau. A bod yn gwbwl onest ‘da ti, sail y blog ydy poeni ein bod ni’n mynd i cael ein gadael tu ol. Mae addysg yn symud ymlaen mor gyflym ar draws y byd a dydyn ni ddim yn ymateb yn rhy gyflym yma yng Nghymru. Gwn bod Hwb yn ceisio ateb hyn i raddau ond faint o waith Cyfrwng Saesneg sy yno. Dwi’n eitha sicr does dim llawer yno sy’n addas i’n sefyllafoedd ni. Serch hyn, pwrpas y blognod oedd i geisio dod i ddeall be sy’n rhwystro’r symud oherwydd fy marn i ydy bod rhaid i ni symud a datblygu adnoddau sy o’r un safon a phynciau eraill neu fyddwn dal yn teimlo fel hen dodrefn yn y yr ysgol; sy ddim yn mynd i helpu’r achos. Felly, wrth edrych arni, ceisio ydw i mapio rhyw ffordd ymlaen ydw i a herio dadl. O’r saith sy wedi gweld y blognod, dim ond ti sy wedi ymateb! Anodd cynnal dysgwrdd os nad oes digon o athrawon sy’n cyd-fynd gyda’r pwysau yma i symud ‘mlaen yn barod hyd yn oed i drafod y peth heb ddibynnu ar yr hen esgusodion yma am beidio cyfrannu i’r achos. O le mae’r syniadau yn mynd i ddod? Pwy sy’n mynd i ‘neud y gwaith? Pwy sy’n mynd i herio’r athrawon i symud? Dwi’n ofni taw cyn lleied ohonom sy ac mae hynny’n gwneud y gwaith yn galetach fyth. Diolch am ddarllen a rannu. Dwi’n gwerthfawrogi yn fawr. 🙂

      Hoffi

  2. Yn union, dwi’n hollol gytuno. Ond, dyn ni ddim yn MYND i gael ein gadael y tu ôl, ond DYN NI y tu ôl. Hanner y rheswm yw achos bod dim byd inni yn y cyfrwng Saesneg. Yr hanner arall yw diffygion athrawon, hynny yw, dyn nhw ddim yn gwybod sut mae creu, sut mae rhannu ayyb. Efallai bod modd inni greu fideos i ddangos sut i wneud pethau? Maen nhw ar gael yn Saesneg, ond mae’n amlwg bod athrawon Cymraeg cyfrwng Saesneg yn teimlo mor angerddol dros yr iaith a’r pwnc bod nhw am weld y fideos yn Gymraeg… Dwi ddim yn bod yn sarcastig, yn onest(!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!).

    Wedyn, jyst arbrofi yw’r peth – rhaid ceisio a methu ac yna llwyddo. Sdim esgus!

    Hoffi

    1. Wel, dwi wedi ceisio blogio yn ddiweddar am ddefnyddio amryw o aps wrth i fi ddysgu ond prin ydy’r adborth na diddordeb. Digon teg, efallai sa fideos yn help ac mae Serena Davies wedi creu llawer yma http://www.eddysg.com/dad/ Efallai gallen ni hysbysu rhai o’r rhain? Mae sianel YouTube ganddyn nhw hefyd. Wna i bostio i’r grwp a thrydar fel man cychwyn. Y gwir amdani ydy bod popeth ar gael eisioes. Hyd yn oed Ysgolion Afal yn dechrau ymddangos dyddie ‘ma! 🙂

      Hoffi

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s