Mwy o #Apstwnsio – Defnyddio Thinglink

download

Wedi bod wrthi eto’n arbrofi ‘da mwy o apiau a’u stwnsio i weld be sy’n bosib!  Y tro ‘ma, dwi ‘di bod yn chwarae gyda ThingLink.

Yn syml, dyma ap sy’n gadael i chi uwchlwytho llun a wedyn gosod pwyntiau neu targedau ar y llun i greu lincs i bob math o bethau.  Gwelir rhain isod:

//www.thinglink.com/card/657283149427900418

//www.thinglink.com/card/677550689156595714

Dw i ‘di bod yn arbrofi ‘da chreu lincs i ddogfennau, Google Forms, fideos, EdPuzzle, Storybirds a Quizlet.  Dyma ffordd hawdd a defnyddiol i gasglu llawer o ddeunyddiau ar lein at ei gilydd yn un lle.  Wrth glicio ar y targedau, bydd yn agor y linc a osodwyd yno ganddoch.

Gellir rhoi ychydig o lincs neu llawer. Hefyd, gellir defnyddio lluniau amrywiol sy’n deniadol ac yn tynnu sylw.

//www.thinglink.com/card/677204322185904130

Gobeithio fy mod i wedi eich ysbrydoli rhywfaint i roi gynnig ar yr ap sy ar gael ar y we, Android ac iOS.  Dyma un creuais fel adnodd adolygu:

https://www.thinglink.com/card/656907222193799168

1. Agorwch cyfrif.

2. Uwchlwythwch llun.

3. Gosodwch pwynt ar y llun trwy glicio ar y llun rhywle. Gellir newid y symbol targed ond dim ond dewis fach sy ar gael am ddim ond mae digon i ddechrau a chreu poster rhyngweithiol. Y lincs ydy’r peth pwysig.

4. Yn y blwch, pastiwch y linc. Gellir hefyd ysgrifennu tipyn o decst i egluro be ydy’r linc os dych chi moyn.

5. Ychwanegwch faint bynnag o dargedau chi eisiau.

6. Achub a rhannwch.  Mae’r ap yn cynhyrchu linc a chod bed’ i roi mewn blog ond sicrhau eich bod yn dicio iframe embed bocs a wedyn copio’r cod i’r blog.

A dyna ni! Joiwch #Apstwnsio

Hashnodau CAi (2)

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s