Apstwnsio – Defnyddio aml-apiau i greu deunyddiau addysgu a gwaith cartref effeithiol.

Dwi i wedi cael tipyn o hwyl ar ddefnyddio apiau dros y penwythnos wrth datblygu adnoddau addysg.

Dechreuais i gyda VideoScribe ac wedi blogio ar hwnnw ymaTestun y blog yma ydy EdPuzzle.  Mae ap ar iPad ar gyfer y disgyblion am ddim. Er mwyn gosod y tasgau, rhaid mewngofnodi i’r safwe https://edpuzzle.com/ fel athro. Gellir creu cyfrif neu defnyddio cyfrif Google neu Edmodo.

Dyma enghraifft o’r allbwn:

https://edpuzzle.com/embed/m/55a3d52e43c095ea766d7939

Yn fras, mae EdPuzzle yn gadael i chi ywchlwytho fideos, neu defnyddio fideos YouTube a wedi cropio, rhoi sain, gwneud troslais ac ychwanegu cwestiynau.  Mae hyn yn wych yn ei hunan ond wrth bori drwy’r rhaglen a gofyn i nifer o ffrindiau i dreialu’r fideo gellir gweld isod, sylweddolais eich bod chi’n gallu gosod y dasg fel gwaith cartref ac mae’r rhaglen yn cadw stategau, megis pwy sy wedi gwneud y dasg a’r atebion rhoddod y plant i mewn.  Yn ogystal, lle mae’r cwestiynau yn agored, gellir marcio ar lein a rhoi adborth i’r disgyblion.

https://edpuzzle.com/embed/m/55a23fcef4080f1d56f7f2ce

Gellir allforio’r data ar ffurf taenlen fel yr un yma: http://bit.ly/1Cy8Z21 Gall y gwybodaeth yma bwydo cynllunio i’r dyfodol neu pwyntiau dysgu i gyflwyno mewn gwers.

Mae’r gallu i greu fideos gyda apiau megis VideoScribe, Explain Everything neu AdobeVoice yn golygu bod yr ymarferion yn gallu bod ar sail gwrando, darllen neu sylwi ar bethau yn y fideo. Mae’n rhoi cyfle i asesu bob math o beth a hefyd trwy gosod y cwestiynau yn y Gymraeg, ceir haen arall o drochi. Gellir gosod cwestiynau agored, aml-ddewis neu gadael sylw.

Yn fy marn i, mae potensial mawr yma a dwi’n bwriadu denyddio’r dull yma i roi gwaith cartref blwyddyn nesaf. Y gwir amdani ydy does dim rhaid i’r gwaith bod yn gysylltiedig gyda gwaith y dosbarth yn uniongyrchol oherwydd mae’r tasgau yn gallu adolygu dysgu blaenorol neu creu bach o waith ymchwil gan y disgyblion wrth ddod o hyd i geirfa newydd.

Croeso i chi gadael sylwad am y blog neu gofyn unrhyw cwestiynau. Dydw i ddim y person mwy galluog gyda technoleg ac mae’r apiau yma yn reit hawdd gyda bach o ymarfer. Cer amdani … byddwch yn siwr o ddysgu yn rhwydd ac ychwanegu arf arall i’ch addysgu a gosod y Gymraeg mewn sefyllfa modern a pherthnasol.

Gellir gosod ar Thinglink a chreu adnodd cynhwysfawr i ddefnyddio mewn ‘stafell gyfrifiaduron. Bydd mwy am hyn yn y dyfodol.

Pob lwc ar yr #apstwnsio a chofiwch rhannu eich syniadau i bawb elwa!

//www.thinglink.com/card/677204322185904130

Advertisements

2 thoughts on “Apstwnsio – Defnyddio aml-apiau i greu deunyddiau addysgu a gwaith cartref effeithiol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s