Defnyddio VideoScribe i greu Fideos Addysgu

Hashnodau CAi (2)

Heddiw, ces i fach o amser i edrych ar ap VideoScribe ar iPAD.  Gellir darllen am yr ap yma. Mae’r ap yn hawdd iawn i’w defnyddio.

1. Dewis lluniau – mae llwyth o luniau parod ar yr ap felly dewis llun addas yn gyntaf.

2. Cliciwch ar y botwn i ychwanegu tecst a theipio be chi moyn i gyd fynd gyda’r llun. Does dim rhaid cael llun a gellir rhoi tecst yn unig os ddymunwch.

3. Wrth glicio ar y llun neu tecst, gellir wedyn amrywio’r lleoliad, maint ac amser hoffech i’r eitem ymddangos.

4. Ychwanegu eich cynnwys i gyd yn y modd yma nes eich bod yn hapus.

5. Cliciwch ar botwm nodyn i ychwanegu sain. Gellir rheoli’r uchder y sain cefndirol gan defnyddio’r sleid er mwyn sicrhau ansawdd os yn ychwanegu ‘troslais’

6. Os ddymunwch gellir wedyn gwneud ‘troslais’ hefyd. Sicrhewch bod y ‘balance’ swn cefndir a’r llais yn iawn cyn uwchlwytho.

7. Uwchlwytho a dyna ni. Gwnan siwr bod digon o gofod ar eich iPad oherwydd bydd yn uwchlwytho a wedyn diflannu os nad oes le. Hefyd, bydd achub y ffeil cyn uwchlwytho yn osgoi hyn hefyd ond bydd rhaid talu am yr ap os ydych chi am gadw nifer o fideos. Dim ond un mae’n cadw am y fersiwn am ddim.

Dyma fy fideo cynta’! Cymerodd rhyw awr i gyd sy’n dda gan gysidro doeddwn i ddim wedi defnyddio’r ap a’r blaen.  Mae hi mor dda, wnes i dalu’r £4 i gael gofod di-ddiwedd i storio’r cynyrch.  Gwerth yr arian heb os a digon o botensial am yr ystafell ddosbarth. Wrth gwrs. os oes AirDrop ‘da chi, gellir rhedeg yn syth o’r ap neu’r ‘Camera Roll’

Swn i’n gwerthfawrogi sylwad os ydy’r blognod yma wedi bod yn ddefnyddiol i chi.

Advertisements

One thought on “Defnyddio VideoScribe i greu Fideos Addysgu

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s