Siarad Cymraeg ar ôl gadael yr ysgol!

images (4)

Ar ddydd Llun ar faes Eisteddfod yr Urdd Caerffili 2015, ces i’r fraint o fod yn rhan o raglen @owen_gary – Taro’r Post. Dyma’r tro cyntaf i mi wneud unrhywbeth ar Radio Cymru erioed ac roedd yn brofiad diddorol oherwydd bod y torfeydd yn cerdded heibio yn sgwrsio a chwifio wrth i mi geisio canolbwyntio ar y raglen a’r cynnwys. Sut bynnag, testun y blog yma ydy pwynt cododd yn ystod y cyfweliad, sef pam mae ‘na fwlch o ran defnyddio’r Gymraeg ar ol gadael ysgol ac ail-gydio ynddi rhywbryd yn y dyfodol gyda llawer o ddisgyblion. Dylwn egluro roedd y cwestiwn gan Gary Owen yng nhgyd destun ardal Gwent, ond rwy’n siwr bod hyn yn wir mewn llawer o ardaloedd eraill hefyd ac mae’n gwestiwn diddorol iawn ond yn un anodd iawn i’w  hateb.

Yn y cyfweliad, mynegais i’r ffaith taw fi’n un ohynyn nhw sy wedi mynd drwy’r gap yma o ran defnyddio’r Gymraeg! Es i i Ysgol Glantaf a throis i i ffwrdd o ddefnyddio’r Gymraeg am gyfnod. Doedd hyn ddim yn benderfyniad penodol gennyf ond jest be digwyddodd.  Roedd hyn yn wir am llawer o fy nghyfoedion hefyd ond nid pawb. Doedd dim angen i mi siarad Cymraeg a heb gyswllt dyddiol gyda’r iaith collais i’r iaith a hyder.  Hefyd, doedd bron neb o’m cwmpas yn siarad Cymraeg ac es i i’r coleg am addysg bellach drwy gyfrwng Saesneg. Ambell waith, roeddwn i’n cwrdd a hen gyfaill ysgol ac yn ceisio siarad tipyn o Gymraeg ond anaml oedd hyn mewn gwirionedd. Felly’r pwynt cyntaf i ystyried ydy’r gymuned. Heb gymuned o siaradwyr o’ch cwmpas, mae’n anodd iawn parhau i ddefnyddio’r iaith a gellir dadlau bod daearyddiaeth yn rhan o’r broblem yma hefyd. Mae digyblion fel finnai wedi gorfod teithio’n bell i’r ysgolion Cymraeg oherwydd eu bod nhw’n canolfannau sy’n gwasanaethu sir gan fwyaf.  Roeddwn i’n teithio o’r Barri i Gaerdydd i gael addysg Gymraeg a rhai yn teithio o Benybont. Anodd iawn i gymdeithasu gyda chyfoedion os ydynt yn byw’n bell i ffwrdd.  Gan ystyried bod tlodi yn ffactor o ran teithio a chyfleoedd cymdeithasu tu allan i’r ysgol, rwy’n siwr bod llawer wedi cael hi’n anodd i barhau gyda’r iaith mewn sawl ardal.

Yr ail-bwynt hoffwn i godi yma ydy’r angen neu galw am siaradwyr Cymraeg.  Os ydy disgybl yn dechrau gwaith, ydy’r gweithle yn galw am ddefnydd o’r Gymraeg? Rwy’n sicr bod rhai swyddi yn galw am siaradwyr Cymraeg ond dw i ddim yn siwr bod digon o swyddi i gynnal y siaradwyr i gyd yn y meysydd maen nhw’n mynd iddyn nhw.  Felly mae’n anodd iawn i barhau i siarad Cymraeg os ydych swydd neu chwrs trwy’r iaith Saesneg.  Factor arall ydy bod ein disgyblion yn symud i ffwrdd am waith neu’r prifysgol.

Mewn ymateb i fy mlog am Addysgu Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn gynharach, roedd un athrawes mewn ysgol cyfrwng Cymraeg wedi datgan bod llawer o ddisgyblion yn gwrthod siarad Cymraeg o gwbl tu allan i muriau’r ysgol oherwydd bod siarad Cymraeg ‘ddim yn cwl’ er bod Cymraeg yn rhan o’r gymuned ac yn pwysleisio’n daer nid bau’r athrawon ydy hyn!  Mae hyn yn arwain at bwynt arall gan @MrGWallCymraeg sy’n dweud mewn ymateb i rhai sy’n rhoi’r bai i gyd ar yr athrawon gan am nad ydy’r disgyblion yn defnyddio’r Gymraeg tu allan i’r ysgol,

Ond bai’r plant yw hwnnw, nid yr athrawon na’r ysgol. Eu dewis nhw yw troi at y Saesneg. Saesneg yw iaith y teledu, iaith y cyfryngau, iaith gerddoriaeth ayyb. Mae pethau da yn y Gymraeg, ond pethau mwy cyfoes yn Saesneg a na pham mae eraill yn dysgu Saesneg yn dda – popeth yn Saesneg!.’

Y gwir amdani ydy bod rhai disgyblion yn gallu parhau a byw drwy siarad Cymraeg oherwydd taw dyna iaith yr aelwyd, maen nhw’n cael swydd sy’n rhoi’r cyfle iddyn nhw defnyddio’r Cymraeg neu bod nhw ei hunain yn penderfynnu wneud am resymau personol.  Fel finnai sy wedi datlblygu diddordeb yn y Gymraeg yn hwyrach yn fy mywyd a wedi llwyddo i weithio’n hynod galed a wedi bod yn ddigon lwcus i gael swydd lle dw i’n gallu siarad Cymraeg bob dydd, dw i wedi penderfynnu danfon plant fy hun i ysgol cyfrwng Cymraeg ac yn ceisio sefydlu aelwyd iaith gyntaf iddynt.  Serch hyn i gyd, Saesneg mae’r plant yn troi ati gyntaf. Paham? Dw i wir ddim yn siwr ond fy ngobaith ydy byddan nhw’n trysoru’r rhodd o fod yn ddwyieithog pur a manteisio ar y cyfleoedd sy ar gael iddynt nad oedd gennyf i fel rhan o deulu tlawd yn y Barri yn ystod y cyfnod.  Ar diwedd y dydd, dewis ydy siarad Cymraeg neu beidio ac rhaid i ni fel oedolion meddwl yn craff am sut i greu cyfleoedd tu hwnt i’r ‘stafell ddosbarth boed cyfrwng Cymraeg neu Saesneg. Wedyn bydd rheswm da gyda’r disgyblion dros siarad Cymraeg ac mae hyn yn gyfrifoldeb i bob un ohonom sy eisiau gweld Cymru yn genedl lle mae ‘Cenedl heb iaith, cenedl heb galon’ yn dal dwr!!

pablo

Advertisements

One thought on “Siarad Cymraeg ar ôl gadael yr ysgol!

  1. Hysbysiad Cyfeirio: Siarad Cymraeg | rjc7's Blog

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s