#Caerffili2015

download

Blog sydyn!

Hoffwn weld #Caerffili2015 yn ffrydio  a threndio am yr wythnos nesa ar Drydar. Bydd ganlyniad yr holl waith di-flino’r swyddogion lleol dros y blynyddoedd diwetha, a phwyllgorau’r Urdd yn yr ardal, o flaen llygaid y cyfryngau sy wedi glanio yn Llancaiach am yr wythnos nesa’ i weithio.

Heb os nac oni bai, mae’r Oedfa arbennig gan Ysgol Gyfun Cwm Rhymni a’r cylch, a’r Sioe Agoriadol wedi llwyddo i roi stamp Sir Caerffili ar Eisteddfod yr Urdd 2015; a hoffwn ddiolch iddyn nhw am ei waith arbennig!  Yn barod, mae’r cyfryngau wedi rhedeg gyda’r ffaith taw’r cynydd mwyaf o ran aelodaeth i’r Urdd eleni wedi bod yn Rhanbarth Gwent o achos y gwaith arbennig gan Swyddogion Datblygu’r Urdd, y gwirfoddolwyr parod a’r cyfranddalwyr lleol.

Pa ffordd well i ni ddangos ein diolchgarwch na sicrhau bod eu gwaith yn cael y cydnabyddiaeth teilwng ar y cyfryngau cymdeithasol yn ogystal a^’r cyfryngau arferol.

Felly, gofynnaf o waelod fy nghalon i chwi ddefnyddio #Caerffili2015 i rannu eich profiadau a lluniau ar Drydar neu Gweplyfr am @Caerffili2015 er mwyn dweud eich diolch i bawb sy wedi bod yn gweithio mor galed dros y blynyddoedd diwethaf i sicrhau wythnos cofiadwy i bawb a chadw diwylliant y Cymry’n fyw unwaith eto’n lleol! Sylwch ar gwaith hyrwyddo’r ‘Steddfod ar eich ffordd i’r Maes. Pob tamaid o waith gwirfoddolwyr lleol brwdfrydig dros yr iaith ac annibyiaeth!

Diolch

IMG_5930

Advertisements

One thought on “#Caerffili2015

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s