#Caerffili2015

#Caerffili2015

Y Byd a'r Betws - Blog B J Mock

download

Blog sydyn!

Hoffwn weld #Caerffili2015 yn ffrydio  a threndio am yr wythnos nesa ar Drydar. Bydd ganlyniad yr holl waith di-flino’r swyddogion lleol dros y blynyddoedd diwetha, a phwyllgorau’r Urdd yn yr ardal, o flaen llygaid y cyfryngau sy wedi glanio yn Llancaiach am yr wythnos nesa’ i weithio.

Heb os nac oni bai, mae’r Oedfa arbennig gan Ysgol Gyfun Cwm Rhymni a’r cylch, a’r Sioe Agoriadol wedi llwyddo i roi stamp Sir Caerffili ar Eisteddfod yr Urdd 2015; a hoffwn ddiolch iddyn nhw am ei waith arbennig!  Yn barod, mae’r cyfryngau wedi rhedeg gyda’r ffaith taw’r cynydd mwyaf o ran aelodaeth i’r Urdd eleni wedi bod yn Rhanbarth Gwent o achos y gwaith arbennig gan Swyddogion Datblygu’r Urdd, y gwirfoddolwyr parod a’r cyfranddalwyr lleol.

Pa ffordd well i ni ddangos ein diolchgarwch na sicrhau bod eu gwaith yn cael y cydnabyddiaeth teilwng ar y cyfryngau cymdeithasol yn ogystal a^’r…

View original post 80 yn rhagor o eiriau

Siarad Cymraeg

Cymraeg – Cymuned, hyder a chyfleoedd.

rjc7's Blog

Ar ol darllen blog arbennig, @BarringtonJMock https://blogbjmock.wordpress.com/2015/05/26/cyfweliad-taror-post-siarad-cymraeg-wedir-ysgol/, fe ges I fy ysbrydoli I ychwanegu at y dadl.

Pwnc sydd yn agos iawn at fy nghalon ydyw ac felly hoffwn awgrymu ein bod yn ffocysu yn ormodol ar Addysg a dim digon ar ddadl sydd yn fwy anodd i dderbyn ac esbonio oherwydd dydy’r atebion ddim mor hawdd h.y. defnydd o’r Iaith Gymraeg yn ein cymunedau.

Credaf yn gryf fod yr iaith yn fyw yng nghymoedd y de o safbwynt twf a galw am Addysg Gymraeg fodd bynnag credaf hefyd fod gormod o oedolion sydd yn gallu siarad Cymraeg yn teimlo’n ddihyder ac yn ofni gwneud defnydd o’r iaith.  Mae’r embaras yn ormod iddynt.  Dydyn nhw ddim eisiau cael eu cywiro felly yn y diwedd maent yn penderfynu osgoi defnyddio’r iaith.  Sefyllfa drist iawn sydd yn bodoli felly.  Dydw I ddim yn siarad heb dystiolaeth ar y pwnc.  Mewn sawl ysgol…

View original post 931 yn rhagor o eiriau

Siarad Cymraeg ar ôl gadael yr ysgol!

images (4)

Ar ddydd Llun ar faes Eisteddfod yr Urdd Caerffili 2015, ces i’r fraint o fod yn rhan o raglen @owen_gary – Taro’r Post. Dyma’r tro cyntaf i mi wneud unrhywbeth ar Radio Cymru erioed ac roedd yn brofiad diddorol oherwydd bod y torfeydd yn cerdded heibio yn sgwrsio a chwifio wrth i mi geisio canolbwyntio ar y raglen a’r cynnwys. Sut bynnag, testun y blog yma ydy pwynt cododd yn ystod y cyfweliad, sef pam mae ‘na fwlch o ran defnyddio’r Gymraeg ar ol gadael ysgol ac ail-gydio ynddi rhywbryd yn y dyfodol gyda llawer o ddisgyblion. Dylwn egluro roedd y cwestiwn gan Gary Owen yng nhgyd destun ardal Gwent, ond rwy’n siwr bod hyn yn wir mewn llawer o ardaloedd eraill hefyd ac mae’n gwestiwn diddorol iawn ond yn un anodd iawn i’w  hateb.

Yn y cyfweliad, mynegais i’r ffaith taw fi’n un ohynyn nhw sy wedi mynd drwy’r gap yma o ran defnyddio’r Gymraeg! Es i i Ysgol Glantaf a throis i i ffwrdd o ddefnyddio’r Gymraeg am gyfnod. Doedd hyn ddim yn benderfyniad penodol gennyf ond jest be digwyddodd.  Roedd hyn yn wir am llawer o fy nghyfoedion hefyd ond nid pawb. Doedd dim angen i mi siarad Cymraeg a heb gyswllt dyddiol gyda’r iaith collais i’r iaith a hyder.  Hefyd, doedd bron neb o’m cwmpas yn siarad Cymraeg ac es i i’r coleg am addysg bellach drwy gyfrwng Saesneg. Ambell waith, roeddwn i’n cwrdd a hen gyfaill ysgol ac yn ceisio siarad tipyn o Gymraeg ond anaml oedd hyn mewn gwirionedd. Felly’r pwynt cyntaf i ystyried ydy’r gymuned. Heb gymuned o siaradwyr o’ch cwmpas, mae’n anodd iawn parhau i ddefnyddio’r iaith a gellir dadlau bod daearyddiaeth yn rhan o’r broblem yma hefyd. Mae digyblion fel finnai wedi gorfod teithio’n bell i’r ysgolion Cymraeg oherwydd eu bod nhw’n canolfannau sy’n gwasanaethu sir gan fwyaf.  Roeddwn i’n teithio o’r Barri i Gaerdydd i gael addysg Gymraeg a rhai yn teithio o Benybont. Anodd iawn i gymdeithasu gyda chyfoedion os ydynt yn byw’n bell i ffwrdd.  Gan ystyried bod tlodi yn ffactor o ran teithio a chyfleoedd cymdeithasu tu allan i’r ysgol, rwy’n siwr bod llawer wedi cael hi’n anodd i barhau gyda’r iaith mewn sawl ardal.

Yr ail-bwynt hoffwn i godi yma ydy’r angen neu galw am siaradwyr Cymraeg.  Os ydy disgybl yn dechrau gwaith, ydy’r gweithle yn galw am ddefnydd o’r Gymraeg? Rwy’n sicr bod rhai swyddi yn galw am siaradwyr Cymraeg ond dw i ddim yn siwr bod digon o swyddi i gynnal y siaradwyr i gyd yn y meysydd maen nhw’n mynd iddyn nhw.  Felly mae’n anodd iawn i barhau i siarad Cymraeg os ydych swydd neu chwrs trwy’r iaith Saesneg.  Factor arall ydy bod ein disgyblion yn symud i ffwrdd am waith neu’r prifysgol.

Mewn ymateb i fy mlog am Addysgu Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn gynharach, roedd un athrawes mewn ysgol cyfrwng Cymraeg wedi datgan bod llawer o ddisgyblion yn gwrthod siarad Cymraeg o gwbl tu allan i muriau’r ysgol oherwydd bod siarad Cymraeg ‘ddim yn cwl’ er bod Cymraeg yn rhan o’r gymuned ac yn pwysleisio’n daer nid bau’r athrawon ydy hyn!  Mae hyn yn arwain at bwynt arall gan @MrGWallCymraeg sy’n dweud mewn ymateb i rhai sy’n rhoi’r bai i gyd ar yr athrawon gan am nad ydy’r disgyblion yn defnyddio’r Gymraeg tu allan i’r ysgol,

Ond bai’r plant yw hwnnw, nid yr athrawon na’r ysgol. Eu dewis nhw yw troi at y Saesneg. Saesneg yw iaith y teledu, iaith y cyfryngau, iaith gerddoriaeth ayyb. Mae pethau da yn y Gymraeg, ond pethau mwy cyfoes yn Saesneg a na pham mae eraill yn dysgu Saesneg yn dda – popeth yn Saesneg!.’

Y gwir amdani ydy bod rhai disgyblion yn gallu parhau a byw drwy siarad Cymraeg oherwydd taw dyna iaith yr aelwyd, maen nhw’n cael swydd sy’n rhoi’r cyfle iddyn nhw defnyddio’r Cymraeg neu bod nhw ei hunain yn penderfynnu wneud am resymau personol.  Fel finnai sy wedi datlblygu diddordeb yn y Gymraeg yn hwyrach yn fy mywyd a wedi llwyddo i weithio’n hynod galed a wedi bod yn ddigon lwcus i gael swydd lle dw i’n gallu siarad Cymraeg bob dydd, dw i wedi penderfynnu danfon plant fy hun i ysgol cyfrwng Cymraeg ac yn ceisio sefydlu aelwyd iaith gyntaf iddynt.  Serch hyn i gyd, Saesneg mae’r plant yn troi ati gyntaf. Paham? Dw i wir ddim yn siwr ond fy ngobaith ydy byddan nhw’n trysoru’r rhodd o fod yn ddwyieithog pur a manteisio ar y cyfleoedd sy ar gael iddynt nad oedd gennyf i fel rhan o deulu tlawd yn y Barri yn ystod y cyfnod.  Ar diwedd y dydd, dewis ydy siarad Cymraeg neu beidio ac rhaid i ni fel oedolion meddwl yn craff am sut i greu cyfleoedd tu hwnt i’r ‘stafell ddosbarth boed cyfrwng Cymraeg neu Saesneg. Wedyn bydd rheswm da gyda’r disgyblion dros siarad Cymraeg ac mae hyn yn gyfrifoldeb i bob un ohonom sy eisiau gweld Cymru yn genedl lle mae ‘Cenedl heb iaith, cenedl heb galon’ yn dal dwr!!

pablo

Teaching Welsh in English Medium Schools in Wales – The Debate

I am writing this blog in response to some comments made on Twitter about the developing debate regarding Welsh language education in Wales and some of the arguments being put forward about the failure of second language education in English medium schools.

Before trying to unpick what is a vast and important debate, particularly in the run up to the 2016 Welsh elections and curriculum reform, I would like to acknowledge some truths from my 15 year experience teaching Welsh as a second language in English medium schools in South East Wales.  Firstly, I accept bilingualism has not been achieved despite compulsory Welsh for all students. I also accept this is a failure given the investment in the language and its inclusion on the curriculum in Wales. Report after report has highlighted this fact and the current debate is both relevant and needed to address the issue if we are truly determined as a nation to continue to invest in the language and establish ourselves as a bilingual country.

There are many aspects to the failure of English medium schools in terms of producing confident Welsh speakers. One argument I have heard over and over recently is the poor quality of teachers and this is why it has failed. I am not for one minute advocating that all Welsh second language teachers are high quality and I am certain in some individual cases, this may indeed be part of the reason. However, there are also very high quality and very hard-working first and second language speakers working in our schools who do a very good job despite a system that is both unfair and unrealistic.

Lets look at the picture in more detail:

Provision in terms of time for Welsh at KS2,3 and 4 varies considerably from school to school and the experiences of students and exposure to the language are not consistent. There are other pressures on schools where standards of literacy and numeracy dominate curriculum time at present. This is a leadership issue and not the fault of the teacher. In some cases KS2 and 3 have teachers teaching who are learners themselves and this is indeed an issue causing further confusion. Care is needed in presenting arguments because a non-speaker or learner is not the same as a second language speaker; where teacher training should be assessing the standard of Welsh of a prospective teacher before qualifying to the post.  My view is the picture is a mess due to poor management and implementation of the curriculum changes from the outset. Demand outweighed supply and this contributed to the problem because the gap had to be filled.

Learning a language takes a long time! It can only be realised if there is frequent exposure to the language and a curriculum that is focussed on the desired outcome, planned carefully and resourced effectively from a leadership perspective – including teaching of other subjects through the medium of Welsh. The expectations are unfair under the current arrangements. The standard expected for the GCSE examination and assessment arrangements for the course serve to turn our young people off continuing to study the language at A-level and the gap between the two in terms of expectation are already vast to any observer. The curriculum itself creates negative attitudes to the language for the majority of students because it’s not focussed effectively on developing confident speakers.

Facing these negative attitudes in class, due to the very demanding and unrealistic assessment arrangements and the inconsistency in provision, the Welsh second language teacher has to work.  I frequently face negativity from some parents who state openly that they would prefer their children were not forced to learn a language they will never use. Given the pressures on standards of English and Mathematics, school leaders have to make tough choices about curriculum time and because Welsh does not feature in any performance measures of schools or the Welsh Baccalaureate, then the status of Welsh is reduced further.

In conclusion, I would like to re-iterate that I agree Welsh language education in English medium schools has failed. However, I do not agree with the argument being made by some that it is due to the poor quality of teaching.  I hope the points I have made here clearly illustrate that most second language teachers have done an amazing job against a backdrop of obstacles and difficulties.  I truly hope teachers are not made scapegoats for the massive failure of government policy and planning in this area.  Many of the students I have taught over the years who are now parents themselves have opted to send their children to a Welsh medium school.  I genuinely hope that my work with them in second language lesson has contributed to their decision and if so … that is a real and tangiable success.