Cymraeg Ail-iaith – Pa gyfeiriad?

isignstock_0897_00276web.demsoc-300x199

Mae addysgu yn y dosbarth CAi yn anodd ac yn rhwystredig iawn ar brydiau ac ar ôl pymtheg ‘mlynedd ar faes y gad dw i ‘di penderfynnu blogio am fy mhrofiad a’r pedagogeg hoffwn i ddatblygu yn y dyfodol. Diolch i Glen Wall (@MrGWallCymraeg) am fy ysbrydoli a fy herio wrth gofyn: ‘I ba gyfeiriad yn union hoffet ti fynd?’

Tipyn o Gefndir

Pan oeddwn yn hyfforddi’n y brifysgol, roedd y pwyslais ar ddrilio, tasgau darllen syml a chynhyrchu paragraffau ysgrifenedig. Roeddynt eisiau gweld sesiwn llafar (unigol a phâr), tasg gwrando, tasg darllen a thasg ysgrifennu pan yn ein harsylwi. Ar y pryd, Stiwdio 7 oedd y llyfr testun defnyddiwyd gan bawb ac roedd cynlluniau gwaith wedi eu hadeiliadu ar sail y topigau yn y llyfr. Bron dim gramadeg na llinynnau CC yn y broses o gwbl!  Roedd y disgyblion yn dysgu cwestiynau ac ymatebion priodol i’r topig mewn blociau ac yna’n symud ymlaen i dopig newydd.  Y dull union neu rhywbeth oedd gair :/

Yn fy nyddiau cynnar, roeddwn i’n canolbwyntio ar ddatblygu dulliau drilio, tasgau pâr llafar, gêmau bwrdd syml a chardiau rôl, llenwi grid wrth wrando gyda tasgau darllen ac ysgrifennu i gefnogi cynnwys y sesiwn llafar yn dilyn.  Daeth yn amlwg wrth fynd o un dopig i’r llall, ac o flwyddyn i flwyddyn, doedd y disgyblion ddim yn llwyddo i drosglwyddo’r hyn dysgont o ran patrymau ar y cyfan.  Hynny yw, roedden nhw’n dysgu ‘Es i i Sbaen’ ond ddim yn gallu cynhyrchu ‘Es i i’r sinema’ yn annibynnol heb ddangos iddyn nhw eto wrth fynd i’r topig newydd.  Pam tybed? Dydy dysgu ‘Es i’ ddim mor galed a hynny os bosib?  Fy nghred yw taw dysgu iaith mewn blychau o’n i’n wneud ac roedd pob topig yn dechrau dysgu Cymraeg o’r newydd – dechrau gyda geirfa, cwestiwn newydd a bant a’r cart ‘to.

I fod yn deg, roedd y disgyblion galluog yn delio ‘da hyn yn iawn ac yn cofio’r topigau pan ddaeth i asesiad ond doedden nhw ddim yn gallu cynhyrchu iaith mewn cyd-destun gwahanol yn annibynnol.  Roedden nhw’n cofio’r topig ac yn ail-adrodd y patrymau yn dda ond yn methu’n deg a chynhyrchu’r iaith ei hunain os newidiwyd y topig/cyd-destun. Mae hyn wedi fy mhoeni am flynyddoedd a gadael i mi deimlo fel methiant ar sawl achlysur. Sut bynnag, dyma oedd y fformiwla ces i o’r coleg a phrofiad dysgu!  Pan fanychais gyrsiau, gwneud y pethau yma yn well oedd y pwyslais – methololeg eitha syml.

Yn ystod y blynyddoedd wedyn a symud ymlaen i fod yn bennaeth adran, roeddwn o hyd yn ceisio datblygu tasgau gwell a ceisio adeiladu unedau o waith oedd yn adeileiladu ar y dysgu blaenorol ond mewn ffordd eitha ad hoc. Hynny yw, ceisio canolbwyntio ar y patrymau yn fwy fwy a dibynnu llai ar y topigau. Mae hyn wedi codi cwestiwn pwysig ynof! Sut mae cynllunio gwersi a chynlluniau gwaith i gynhyrchu siaradwyr hyderus o’r mwyafrif o ddisgyblion dw i’n addysgu?  Sut mae bod yn llwyddiannus yn y gwaith o fewn yr amser sy gennym? A dyma yw gwraidd fy rhwystredigaeth fel athro dros ddysgwyr cyfrwng Saesneg. Does dim digon o amser a does dim digon o arbenigrwydd o’m cwmpas i lwyddo o safbwynt cynhyrchu siaradwyr.

Heddiw

Erbyn heddiw, mae tirlun y dosbarth cyfrwng Saesneg (ail-iaith) wedi newid yn llwyr a dw i dal yn cofio geiriau Nia (@radyr_Cymraeg) yn drydaru #bringbackstiwdio7 wrth i mi ddechrau defnyddio Trydar rhyw flwyddyn yn ôl. Joc oedd hi ond rhywffordd, roedd y dyddiau cynnar yn fwy pleserus fel athro ac roedd llawer mwy o chwerthin a hwyl o fewn gwersi; ac agwedd y disgyblion yn well o’i herwydd yn fy marn i. Ie … mae’r sustem wedi creu pwysau newydd oherwydd data a safonau sy wedi troi nifer o fy nisgyblion yn erbyn yr iaith achos mae’r sustem asesu presennol yn rhy galed wrth gysidro’u profiad a diffyg amser a statws o fewn yr ysgol! Nawr, dw i’n teimlo fel periant lefelau ac arholiadau sy byth yn cyrraedd y gwir nod o gynhyrchu siaradwyr hyderus neu hyd yn oed mwynhad wrth ddysgu’r iaith.

Mae Cymraeg Ail-iaith yn Ne Dwyrain Cymru wedi bod mewn gwagle am flynyddoedd ac o flwyddyn i flwyddyn yn ddiweddar y neges damniol ydy DYDY DY GANLYNIADAU DDIM YN DIGON DA; lle mae adroddiad ar ôl adroddiad wedi phastyni’r athrawon ail-iaith druan er bod ni ‘di gweithio’n ddi-flino yn erbyn sustem annheg a chae anwastad ac heb sôn am statws y Gymraeg o fewn y sustem a’n lleoliad! Mae’r pwysau’n ddi-baid ac wrth fynd i gyrsiau DP a thrafod gyda athrawon eraill yr ardal, mae’n swydd amhosib a di-ddiolch lle mae morál yn isel iawn iawn. Ychwanegwch at hyn gofynion arall fel rhifedd, llythrennedd, sgiliau meddwl, asesu am ddysgu a phob math o strategaethau newydd dan haul, does dim llawer o le i fyfyrio a datblygu ymarfer gwell sy’n mynd yn agosach at gynhyrchu siaradwyr hyderus.

Mae’r pwyslais nawr ar llinynnau’r Cwricwlwm Cenedlaethol a dysgu at yr arholiad TGAU.  Y gwir amdani, dydy hyn ddim yn llwyddo i gynhyrchu siaradwyr hyderus o bell ffordd.  Mae’r holl beth yn troi mewn i addysgu rhywbeth anodd ar y cof i gyfogi mewn asesiad neu arholiad llafar. Mae’n tirlun negyddol iawn i mi ar hyn o bryd ond mae’r profiad wedi egino rhywbeth newydd ynof! Mae datblygu gweledigaeth a phedagogeg yn gonglfaen i’r cyfeiriad hoffwn deithio yn y dyfodol a dw i’n bwriadu ceisio troi nos yn ddydd trwy gymryd rheolaeth dros y sefyllfa!

Y Dyfodol

Gweledigaeth

Y nôd syml ydy gweld mwy a mwy o ddisgyblion yn fy adran yn siarad Cymraeg yn hyderus; sy ddim yn ofni gwneud camgymeriadau a gwallau iaith wrth gyfathrebu’n annibynnol a naturiol yn debyg i’r plant ail-iaith go iawn sy’n llenwi’r ysgolion Cymraeg o’n cwmpas. Gwell Cymraeg gwallus a llac nag ofni ei defnyddio oherwydd beirniadaeth oer y maffia iaith am bob wall sy’n creu teimlad is-raddol! Dysgwyr cyfrwng Saesneg ydy fy nisgyblion i!

Pedagogeg

Mae pedagogeg yn destun blog arall i ddod ond hoffwn gynnig blas yma er mwyn ymateb i gwestiwn caled a heriol Mr G Wall (@MrGWallCymraeg)

Cwestiynau cychwynnol i ffurfio’r llwybr a gosod sylfaen pendant:

  • Sut mae dysgu iaith?
  • Sut mae cynhyrchu siaradwyr?
  • Sut mae mesur cynnydd?
  • Sut mae asesu’n bwrpasol er mwyn dangos y ffordd ymlaen?
  • Sut mae pobl sy’n siarad mwy nag un iaith wedi llwyddo i wneud?
  • Beth gallent dysgu i ni?
  • Beth yn union sy’n anodd wrth ddysgu’r Gymraeg i gymharu a ieithoedd eraill?

Rhaid cydnabod bod dysgu iaith yn rhywbeth anodd iawn i’n disgyblion gan ystyried faint mae’r disgyblion yn ddeall am ramadeg eu mamiaith dyddiau hyn ac yn dibynnol ar y cof ac ymarfer cyson?

Dyma rhai o’r syniadau dw i’n bwriadu eu datblygu wrth geisio ateb rhai o’r cwestiynau hyn:

1. Pwysigrwydd darllen yn y broses.  Dyma’r sgil sy’n datblygu’r deallusrwydd mwyaf a dim ond trwy’r deallusrwydd gall siarad a’r ysgrifennu annibynnol tyfu. Dylai ddarllen fod yn flaengar iawn yn y meddwl wrth camu ymlaen. Dyma sut datblygwyd ei mamiaith! (Llythrennedd)

2. Creu ymarferion a thasgau sy’n cefnogi’r disgybl i ddatblygu hyder mewn agwedd o’r ramadeg sy’n codi o’r darllen ac ymarfer, ymarfer nes bod yn gadarn yn y cof cyn symud ymlaen i rhywbeth arall a disgwyl ei cynhyrchu’n annibynnol (Addysgu araf a phwrpasol)

3. Addysgu gan ddefnyddio amrywiaeth eang o ddulliau traddodiadol a newydd gan gynnwys drilio, profion geirfa, technoleg, apiau a bwrdd gwyn. (Amrywiaeth ac addasrwydd)

4. Datblygu defnydd SOLO Taxonomy i asesu cynnydd a sgiliau ieithyddol. (Asesu pwrpasol – SOLO) – Gweler hyn!

5. Datblygu dulliau a sustemau marcio i sicrhau adborth amserol ac adeiladol yn gyson. (RAG123 + Marcio cau’r bwlch) Gweler hyn!

6. Canmol ymdrech yn fwy na chywirdeb yn enwedig wrth siarad a rhoi ethos o flaen strategaeth bob amser. (Growth Mindset) Gweler hyn!

7. Datblygu fy nefnydd o iaith darged a sicrhau bod Cymraeg yn iaith gweithredol gwersi er mwyn ymestyn y disgyblion a’i herio i ddefnyddio mwy o Gymraeg eu hunain, (Awyrgylch ac ethos pwrpasol – dwyieithrwydd) Gweler hyn! (Diolch i @MrGWallCymraeg am rannu hyn)

8. Ffocysi ar batrymau a iaith lafar naturiol cyn mynd ati i ddatblygu’r iaith ysgrifenedig.  Mae’n bwysig sylwi bod crebychiadau’r iaith llafar yn haws i’w ddysgu a defnyddio’n naturiol na’r patrymau llawn ysgrifenedig.  Mae’r agwedd yma’n un bwysig dw i newydd dechrau cysidro felly tesun blog arall rhywbryd. Rhaid cesio cau’r bwlch rhwng cyfrwng Cymraeg a Saeseng fel bod y disgyblion yn gallu cyfathrebu pan tu allan i’r ysgol. Ar hyn o bryd dydy hyn ddim yn wir yn fy ardal i.

Dyma’r pethau dw i’n ystyried ac arbrofi gyda nhw am y ffordd ymlaen a’r cyfeiriad hoffwn deithio i’r dyfodol i geisio cynhyrchu siaradwyr hyderus.  Er bod nifer o amgylchiadau sy tu allan i fy rheolaeth, mae creu ethos ac ymarfer effeithiol yn rhywbeth dan fy ngofal

Bydd unrhyw adborth neu syniadau ychwanegol hoffech gynnig yn werthfawr. Byddaf yn blogio ar rhai o’r pwyntiau yma yn y dyfodol wrth i mi ddod i afael a nhw.

Cliciwch ar y llun os hoffech ei rannu!career_direction

Advertisements

6 thoughts on “Cymraeg Ail-iaith – Pa gyfeiriad?

  1. Pwyntiau teg iawn, Barri, a minnau’n cytuno â llawer, os nad pob un, ohonynt. Dwi’n cytuno mai darllen dylai fod y man cychwyn, ac dwi’n credu bod sgiliau darllen, deall, ac ysgrifennu yn well yn gyffredinnol na llafar i sawl siaradwr CAi. Trosglwyddo a chadw’r patrymau: dyna’r allwedd. Ond cawn edrych ar y sefyllfa ieithyddol: dywedwn fod 30 gwers yr wythnos, 60 y pythefnos. Yn fy ysgol i, mae 6 gwers Gymraeg y pythefnos gan gynnwys 3 gwers Ffrangeg. Dyna 9 gwers allan o 60 sydd i fod mewn iaith nad yw’n Saesneg. Ond am y gwersi yma, MAE popeth yn Saesneg. Pan fo Cymraeg, nid yw’n ddigon ond yn docynistaidd, felly am 85% o amserlenni’r plant mae’r Saesneg a’r Saesneg yn unig… Dyna sy’n rhwystr.

    Hefyd, faint o Gymraeg a ydym wir yn siarad yn hytrach nag addysgu? Dwi yn un sy’n tueddi colli ffocws yr iaith darged er mwyn sicrhau bod pawb yn deall, yn enwedig gyda’r setiau isel eu hymdrech, pan fo posibilrwydd sicr ohohynt yn chwarae dwli…

    Nid yw agweddau’r plant yn helpu chwaith: mae agwedd y plant tuag at ddysgu iaith yn ddrwg iawn, ac i ddysgu iaith yn llwyddiannus, mae angen i’r plant fod ag agwedd well tuag at yr iaith sy’n cael ei haddysgu yn hytrach na’r Saesneg: gall fod yn ddysgwyr goddefol trwy gyfrwng y Saesneg/mamiaith, ond rhaid bod yn ddysgwyr parod, gweithredol am CAi, sy’n sgil prin iawn – nid ydynt yn gallu canolbwyntio!

    Mae angen i sawl peth newid cyn inni allu creu siaradwyr Cymraeg cyfrwng Saesneg hyderus, sy’n awyddus siarad yr iaith.

    Mae’r topig hwn yn un diddorol, eang!

    Hoffi

    1. A dyna ydy’r gwahaniaeth rhwng ail iaith cyfrwng Saesneg ac ail iaith cyfrwng Cymraeg. Mae fy mhlant fy hun yn ail iaith gan mae troi at Saesneg maen nhw tu allan i’r ysgol gan amlaf a rhwng ffrindiau ond yn yr ysgol yn derbyn addysg mewn pynciau eraill trwy’r Gymraeg ac yn ei chyffwrdd bob dydd. Ti’n llygad dy le … yr amser yn trochi yn yr iaith ydy’r problem. Does dim modd i’n ddisgyblion trochi yn yr iaith heb cyffyrddiad cyson a^ hi. Mae fy mhlant yn gallu darllen, siarad a deall Cymraeg ond dydyn nhw ddim bob amser yn dewis ei defnyddio. Cymhelliant, pwrpas ac angen. Serch hyn, ni sy ar lawr y dosbarth yn ceisio cyflawni gwyrthiau yn erbyn ton ar o^l ton o wrthwynebiad a dyna’r gwir yn anffodus. Gofyn sut i’w gyflawni ydw i a mae’r sustem asesu presennol yn methu yn llwyr a^ dygymod a^ hi!

      Hoffi

  2. Pwyntiau dilys ac ystyrlon iawn, Mr. Mock. Rwyt ti’n llygad dy le gyda sawl pwynt, er enghraifft, nid yw disgyblion y dyddiau yma yn gwybod llawer am ramadeg eu mamiaith nhw, ond dwi am ofyn cwestiwn: a ydy hyn, sef diffyg dealltwriaeth o ramadeg mamiaith, yn rhwystr ar ddysgu ieithoedd eraill? Taswn yn edrych ar y dir mawr Ewrop, yna “nage” ydyw’r ateb. OND, dwi’n hollol gytuno â thi! Wedi dweud hynny, drwy gael gwared â’r Saesneg yn ein gwersi, a jyst cyflwyno “berfau” ac “ansoddeiriau” ac ati, fydd dim angen gofyn, “What’s a noun” a chael wynebau blac. Yn hytrach, dywedwn, “Dyma enghreifftiau o ferfau… Dyma enghreifftiau o enwau… Dyma enghreifftiau o ansoddeiriau” a’u haddysgu’n amlwg, syth.

    Rwyf wrth fy modd gyda’r SOLO Cymraeg! Ydy e’n mynd i aros fel ag y mae ar hyn o bryd? Byddwn wrth fy modd i ddarllen am ei defnyddio gennyt!

    Rwyf hefyd yn hoffi dy syniad o ddefnyddio ac addysgu Cymraeg “y stryd”, felly bod iaith i’w defnyddio sydd ganddynt i ddechrau!

    Hoffwyd gan 1 person

    1. Byddaf yn dechrau defnyddio’r deunyddiau SOLO yn fuan iawn ac yn bwriadu blogio ar y defnydd ac ymateb gan gynnwys holi’r disgyblion erbyn diwedd tymor. Bydd honi yn bendant ac efallai syniadau newydd yn tyfu. Ar hyn o bryd mae angen i mi gyflwyno a’i defnyddio cyn symud ymlaen gyda’r datblygu. Diolch am dy sylwadau ac yn gwerthfawrogi dy gefnogaeth bob amser. I ymateb i dy bwynt am famiaith … meddwl oeddwn am y rheina sy’n ffeindio codi iaith yn anodd efallai oherwydd cam-ddeall llythrennedd yn y mamiath er enghraifft, sy’n gwneud hi’n anodd gyda’r gwahanieithau yn y gramadeg Cymraeg. Serch hyn, cytanaf bod dulliau ymdrochi yn osgoi hyn yn llwyr. 😆

      Hoffi

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s